Aeth Cydlynydd Share Learn Improve, Abi Paine, i BBC Countryfile Live yn Blenheim Palace gyda chriw o bobl ifanc yn barod i herio’r byd!                
Roedd pobl ifanc wrth galon y gweithredu yn ystod diwrnod cyntaf BBC Countryfile Live yr wythnos ddiwethaf, wrth i bobl deithio o bob rhan o’r wlad i fynychu’r digwyddiad. Hefyd defnyddiodd Ysgrifennydd newydd yr Amgylchedd, y Gwir Anrhydeddus Theresa Villiers, y digwyddiad fel llwyfan ar gyfer ei haraith gyntaf yn ei swydd.
Agorodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Hilary McGrady, Theatr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda thrafodaeth banel gyda thri o bobl ifanc, Arjun Dutta, Dara McAnulty a Bella Lack. Trafodwyd materion amgylcheddol, ffyrdd o weithredu ynghylch yr argyfwng a sut i ailgysylltu pobl â byd natur.
Wedyn yn y prynhawn, cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol weithdy yn ei Phabell Tŷ Gwydr, gan roi cyfle i bobl ifanc o holl brosiectau Our Bright Future gyflwyno eu gofynion polisi a thrafod syniadau gyda phobl ifanc eraill.   
I ddechrau, cyflwynodd Daniel (Growing Confidence), Laurence (Growing Confidence) a Khadija (Bright Green Future) yr achos dros ofyniad un – galw am dreulio mwy o amser yn dysgu am fyd natur ac yng nghanol byd natur. Aethant ati i dynnu sylw at rai ystadegau am ddysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys bod 90% o athrawon yn dweud bod plant yn cymryd mwy o ran yn y dysgu wrth dreulio eu gwersi yn yr awyr agored. Hefyd buont yn rhannu profiadau am gymryd rhan yn eu prosiectau a’r effeithiau positif arnyn nhw ac ar eraill. 
Rhoddwyd cychwyn i’r trafodaethau gyda phawb yn yr ystafell yn gofyn cwestiynau fel: beth sydd ei angen er mwyn ei gwneud yn ymarferol i dreulio awr yn dysgu yn yr awyr agored mewn ysgol hŷn? Sut gall athrawon gynyddu dysgu ac ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy gwricwlwm ysgolion? 
Wedyn tynnodd Jayashree (Student Eats) a Lisa (Environmental Leadership Programme) sylw at ofyniad dau – cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol – gan alw am gynllun swyddi yn y dyfodol a syniadau ar gyfer goresgyn rhwystrau sy’n atal mynediad.
Aethant ati i ofyn i’r ystafell drafod y rhwystrau a sut gallwn eu goresgyn, ac roedd rhai o’r syniadau’n cynnwys y canlynol:
  • Yn aml mae angen profiad gwaith i gael i mewn i’r sector, ond mae cost lleoliadau gwirfoddol neu brofiad gwaith a’r teithio cysylltiedig yn rhwystr
  • Ymwybyddiaeth o gyfleoedd am swyddi gwyrdd yn y lle cyntaf; nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod am yr amrywiaeth o swyddi yn y sector. Sut gallwn ni hysbysebu’r cyfleoedd amrywiol?      
  • Mae digwyddiadau gwirfoddoli yn cael eu cynnal yn ystod dyddiau’r wythnos yn aml; oes modd trefnu’r rhain gyda’r nos neu ar benwythnosau er mwyn iddyn nhw gyd-fynd yn well ag ymrwymiadau addysg neu waith?
  • Fedr sefydliadau gydweithio fel bod pobl ifanc yn gallu cylchdroi mewn cyfleoedd gwirfoddoli?
Wedyn, cyflwynwyd gofyniad tri gan Katy (Bright Green Future), Trixie (Bright Green Future) a Gina (Tomorrow’s Natural Leaders), a rannodd rai o’r ffyrdd y mae cymryd rhan yn eu prosiectau wedi galluogi i’w lleisiau gael eu clywed am faterion sy’n bwysig iddyn nhw.   
Aethant ati i ofyn i’r grŵp drafod sut gallent ddylanwadu ar bobl i wneud newidiadau ymarferol er lles yr amgylchedd a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed. Roedd rhai o’r syniadau’n cynnwys y canlynol:
  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgol/coleg/prifysgol fynd i’r Senedd a chyfarfod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a dysgu am y prosesau’n gynnar           
  • Defnyddio’r cwricwlwm ABaCh i gynnwys trafodaethau am natur a lles 
  • Gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed er mwyn sicrhau bod ASau yn clywed gan bobl iau am y pethau sy’n effeithio arnyn nhw.
Yn olaf, aeth Claudia (Environmental Leadership Programme) ac Elis (My World My Home) ati i dynnu sylw at sut mae argyfwng yr hinsawdd ac argyfwng byd natur yn gysylltiedig, gan fanylu ar ymchwil i’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang, y colli mawr ar rywogaethau a lefelau CO2. Buont yn rhannu sut mae pobl gyffredin yn ymateb i’r argyfwng gan ofyn i’r ystafell feddwl am rai cwestiynau allweddol, fel y canlynol:              
  • Pe baech chi’n cael 15 munud i siarad gyda Gweinidog newydd yr Amgylchedd, ym mha ffyrdd fyddech chi’n gofyn iddi ymateb i argyfwng yr hinsawdd?                     
  • Pa gamau gweithredu allwn ni eu rhoi ar waith i wneud i hyn ddigwydd?
  • Beth sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn eich barn chi ar greu newid hyd yma? E.e. ymgyrchoedd ysgolion.       
Ymunodd Hilary McGrady, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, a Patrick Begg, y Cyfarwyddwr Adnoddau Naturiol ac Awyr Agored, â’r gweithdai gan wrando ar y tafodaethau a mynd â chamau gweithredu ystyrlon adref gyda hwy ar gyfer sut i barhau i hyrwyddo pobl ifanc ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Da iawn bawb a gyfrannodd at y diwrnod; roedd mor ysbrydoledig gweld pobl ifanc yn hawlio’r llwyfan ac yn rhannu eu gwybodaeth a’u syniadau gyda chymaint o angerdd a hyder.
Bydd pobl ifanc o Youth in Nature a Tomorrow’s Natural Leaders yn mynd i BBC Countryfile Live (Gogledd) yn Castle Howard ar 15-18 Awst; felly cadwch lygad amdanyn nhw os byddwch chi yno!