Dyma Bryony Carter, Rheolwr Plentyndod Naturiol gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig, i esbonio sut maen nhw’n defnyddio Dyfarniad John Muir i ysbrydoli pobl ifanc i archwilio, darganfod, gwarchod a rhannu eu gofod gwyllt lleol, a chael dyfarniad sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ar yr un pryd!
 
         “In every walk with nature one receives far more than he seeks” – John Muir
 
Mae John Muir yn dipyn o arwr tawel. Arloeswr cadwraeth ac un o sylfaenwyr mudiad y parciau cenedlaethol. Roedd hefyd yn awdur, archwiliwr, dyfeisiwr, ecolegydd, botanegydd ac ymgyrchydd. Mae’n un o’n cewri ni ond eto ychydig iawn o bobl sy’n gwybod hynny.
Er ei fod wedi marw dros 100 o flynyddoedd yn ôl, mae un person ifanc ym mhrosiect Growing Confidence yn gweld John Muir fel ei ‘ffrind gorau’. Yma yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig, rydyn ni’n teimlo bod John Muir yn cwmpasu’n berffaith ethos ein hamcanion elusennol ni. Roedd, ac mae o hyd, yn unigolyn ysbrydoledig tu hwnt. Heriodd y drefn a chwestiynu’r norm. Gwthiodd ffiniau ei botensial a phenderfynodd ddangos i’r byd bod ffordd arall. Mae adlais ei neges angerddol am ddenu pobl ifanc i weld rhyfeddod byd natur a’r angen am ei warchod i’w glywed yn gryfach nag erioed heddiw. Rydyn ni wedi mabwysiadu’r ysbryd yma a’i wthio i galon prosiect Growing Confidence. 
Wedi’i ffurfio yn 1986, cafodd Ymddiriedolaeth John Muir ei sefydlu i helpu i warchod rhai o dirweddau mwyaf poblogaidd y DU. Mae Dyfarniad John Muir yn ddyfarniad hyblyg sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac mae ar gael i bobl o bob oedran a chefndir. Mae’n ymwneud â chymryd rhan lawn gyda’ch gofod gwyllt lleol, deall beth sy’n arbennig amdano, dysgu oddi wrtho, a helpu i’w warchod. Mae’n cynnwys pedair her; Darganfod, Archwilio, Gwarchod a Rhannu. Rydyn ni’n defnyddio’r fframwaith yma i gefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau ehangach wrth ennill eu dyfarniad.
Yn ystod prosiect Growing Confidence Our Bright Future, rydyn ni wedi cefnogi mwy na 100 o bobl ifanc yn Sir Amwythig i ennill Dyfarniad John Muir. Rydyn ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth John Muir i wneud i bob dyfarniad gyfrif ar gyfer pob person ifanc. Mae dyfarniad John Muir yn hawdd ei ennill gan ei fod mor hyblyg. Dim ond pum diwrnod sydd raid eu hymrwymo i ennill y Dyfarniad Darganfod, wedi’u gwasgaru dros gyfnod o amser, sy’n gweithio i’r person ifanc. Rydyn ni wedi cynnal dyfarniadau sydd wedi cymryd dwy flynedd i’w cwblhau, ac eraill lle mae unigolion yn ennill eu dyfarniad mewn wythnos.               
Y peth gorau (ar wahân i’r dyfarniad ei hun!) yw’r cyfle i ddysgu amrywiaeth eang o sgiliau wrth gwblhau’r pedair her. Mae pobl ifanc yn Growing Confidence wedi cymryd rhan mewn canŵio, arolygon ar ystlumod, prosiectau cadwraeth a phrosiectau treftadaeth naturiol. Mae’r Dyfarniad yn eang ac amrywiol, sy’n golygu ei fod yn hygyrch ac yn apelgar i bobl ifanc. Mae dim ond mynd am dro’n gyfle i chi ddysgu llawer am amgylchedd. Nid dim ond am yr anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yno, ond hefyd am rhythm y lle gwyllt; sut mae yn ystod gwahanol dymhorau, beth yw ei ddefnydd, pa synau ac arogleuon sydd yno. Gall yr holl brofiadau gyda byd natur sy’n cael eu cynnal drwy’r dyfarniad gefnogi pobl ifanc i ddysgu a magu hyder, a dyna ein holl nod ni yn Growing Confidence wrth gwrs. 
I gael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth John Muir a’r dyfarniad, ewch i’w gwefan.
Gall unrhyw un ennill Dyfarniad John Muir; does dim rhaid i chi fod yn rhan o brosiect. Gallwch gofrestru yn annibynnol a chreu eich model darparu dyfarniad eich hun.