Mae bywyd gwyllt a’r gymuned wedi bod yn bwysig iawn i mi erioed ac rydw i wedi teimlo bod fy nhwf i yn rhan o dîm Our Bright Future wedi bod yn gyffrous ac yn llawn gwybodaeth. Mae Our Bright Future yn gwbl unigryw ac yn cynnig cyfle i ymwneud â rhaglen anhygoel lle gallaf fod yn rhan o rywbeth rydw i wir yn ei edmygu, alla’ i ddim aros i wneud gwahaniaeth!

Yn dod o gefndir teuluol clos sydd bob amser yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o feysydd yn y gymuned a gyda bywyd gwyllt, roedd yn naturiol ’mod i’n ffitio i mewn ac yn mwynhau fy rôl yn Our Bright Future. Rydw i’n gyffrous am y siawns i ddysgu mwy yn ystod fy mhrentisiaeth. Rydw i bob amser wedi gwybod o oedran ifanc ’mod i eisiau cyfrannu at y gymuned, ac fe ddechreuodd y cyfan pan wnes i wirfoddoli fel arweinydd ifanc gyda chriw brownies y Girl Guides. Roedd gallu cefnogi ac ymroi i les y plant ifanc yn rhoi ymdeimlad o gyflawni i mi, yn ogystal â hapusrwydd i mi, y plant a’r gymuned.

Rydw i’n credu y dylai pob anifail a bywyd gwyllt gael ansawdd bywyd gwych. I gefnogi hyn yn y teulu rydyn ni bob amser yn gwneud yn siŵr bod ein teclynnau bwydo adar ni yn yr ardd yn llawn. Nid yn unig mae hyn yn rhoi ffynhonnell o fwyd a chartref i’r adar ond hefyd mae’n golygu bod fy nheulu a’n cymdogion ni’n gallu gwylio adar o bell. Mae hyn yn cyfrannu at ein lles ac rydw i wrth fy modd yn cael y cyfle i hyrwyddo hyn i eraill er mwyn creu cymuned sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur unwaith eto. (Mae gennym ni hefyd geffyl o’r enw Romeo sy’n cael ei addoli a hefyd ieir ar hyd y buarth.)

Fy nod i a’r hyn rydw i wir yn edrych ymlaen ato yn fy rôl yn Our Bright Future yw dod â chymunedau at ei gilydd drwy’r amgylchedd, i’w hannog nhw i edmygu’r hyn sydd o’n cwmpas ni yn ogystal â gwerthfawrogi’r byd natur. Rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig at wneud hyn a thrwy wneud hynny rydw i’n credu y bydd yn cyfrannu’n fawr at les y gymuned, yn enwedig yng ngoleuni pandemig diweddar Covid-19, a fydd yn rhoi ymdeimlad o ryddid a harddwch iddyn nhw gyda’r cysylltiad yma â bywyd gwyllt. Rydw i’n gyffrous am gael y cyfle i ddefnyddio fy nghreadigrwydd ac ysbrydoli amrywiaeth o bobl o bob oed drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Rydw i’n teimlo ei bod yn ffordd werthfawr iawn o ledaenu’r gair am raglen bwysig yn yr oes sydd ohoni. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â rhai unigolion gwych y gallaf ofyn am eu help i ddysgu o’u doethineb, ac i helpu i fy arwain i yn ystod fy mhrentisiaeth.

Rydw i’n eithriadol gyffrous am gael fy swydd ddelfrydol, rydw i mor gynhyrfus ac yn methu aros i gael dechrau arni! Fe hoffwn i rannu gyda chi rai lluniau rydw i wedi’u tynnu ac yn mwynhau edrych arnyn nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n fy ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd a’r gymuned.