Mae bod yn wenynwr “Bee You” yn ystod y cyfnod clo wedi creu heriau ond addasodd y tîm a chroesawodd y cyfleoedd a ddaeth i’n rhan ni.

 

Fe wnaeth addysgu am gadw gwenyn newid yn llwyr, yn syml am ei fod yn bwnc ymarferol a gweledol iawn. Roedd agweddau a gymerwyd yn ganiataol yn yr ystafell ddosbarth neu’r wenynfa hyfforddi, fel gwneud fframiau, blasu mêl, arogli paill, gwisgo siwt gwenyn, goleuo ysmygwr ac, wrth gwrs, mynd i edrych y tu mewn i gwch gwenyn i weld a theimlo’r gwenyn wrth iddynt wneud eu gwaith. Does dim modd gwerthfawrogi na deall gwenyn mêl mewn unrhyw ffordd heblaw am fod yn eu plith.

Lluniau gan Andrea Ku

Roedd rhaid addasu ein hadnoddau addysgu a’n cyflwyniadau i gyd-fynd â chyflwyno ar-lein, oedd yn golygu bod rhaid i luniau adrodd llawer o straeon lluosog a bod rhaid defnyddio geiriau gofalus i gyfateb i’r lluniau a chreu dealltwriaeth o bell ond drwyadl.

 

Aethom ati i ddarparu ein prosiect i’r rhai oedd â diddordeb mewn gwenyn ond, y darganfyddiad newydd a wnaed oedd ein bod yn llwyddo i gyrraedd y tu hwnt i’n cynulleidfa barod arferol. Ar ôl ymateb da drwy hysbysebu ein sesiynau cadw gwenyn ar-lein, ymunodd llawer o bobl ifanc, rhai na fyddai wedi gwybod amdanom ni mae’n bur debyg oni bai am y pandemig. Roedd y newid cadarnhaol yma yn ystod cyfnod anodd yn golygu ein bod yn cyflwyno i lawer mwy o bobl ifanc, gan gynnig cyfle iddyn nhw ddysgu pwnc newydd sbon a chodi ymwybyddiaeth am wella ein hamgylchedd.

 

Roedd diwrnod yn haf 2020 yn cynnwys addysgu am gadw gwenyn yn y bore i grwpiau o bobl ifanc, y rhan fwyaf o Lerpwl ond rhai o bob cwr o’r DU. Roedd Zoom yn newydd i bob un ohonom ni felly roedd ‘ti ar mute’ yn cael ei ddweud yn aml iawn! Fe gefais i fy ngalw’n ‘Ken Dodd’ y byd tiwtoriaid cadw gwenyn yn Blackburne House am fy mod i’n mynd dros fy amser yn aml! Mae’n ffaith adnabyddus am y Sgowsar doniol yma bod ei sioeau byw yn para am oriau wedi’r amser gorffen oedd wedi’i nodi. ’Alla’ i ddim cymryd y bai 100% am hyn gan fod cymaint o gwestiynau gwych yn cael eu gofyn drwy gydol y sesiynau…. arwydd da iawn bod y myfyrwyr yn dysgu ac eisiau gwybod mwy.

 

Roedd prynhawn heulog o haf yn ystod y cyfyngiadau symud yn amser delfrydol i fynd i edrych ar wenyn prosiect Bee You. Rydw i’n helpu i ofalu am 15 o gychod gwenyn mewn gardd gymunedol yn Ford, Litherland ac yng Ngerddi Botaneg Ness, dau leoliad gwahanol iawn a hynod hardd gyda digonedd o fwyd i’r ddwy wenynfa.

 

Yn ffodus, dydi Covid ddim yn effeithio ar iechyd gwenyn felly diolch byth doedd dim angen cadw pellter cymdeithasol! Fe fyddai hynny’n gur pen mawr!

Lluniau gan Andrea Ku

Manteisiwyd ar y cyfle i recordio’r archwiliadau ar y gwenyn ar gamera, fel cynnwys ar gyfer y ddarpariaeth ar-lein. Fel arfer, byddai’r myfyrwyr yn gwisgo eu siwtiau gwenyn, menig mawr ac ysmygwyr, gydag adnodd cwch gwenyn yn eu llaw. Y tro yma, roedd rhaid i mi ddangos beth oedd y pethau yma a pham rydyn ni’n eu defnyddio. Fe wnes i fuddsoddi mewn rhyw becyn dal ffôn yn steil dylanwadwr i’w glipio ar ochr y cwch gwenyn agored ac wedyn roeddwn i’n gallu siarad drwy’r archwiliad ar y cwch. Gan y byddai myfyrwyr o fy nghwmpas i fel arfer, roedd braidd yn rhyfedd siarad a neb arall yno ond roedd hyn i gyd yn gwneud synnwyr yn y ddarpariaeth ar-lein a doeddwn i ddim yn teimlo’n wirion yn ei wneud eto!

 

Y peth da am ffilmio archwilio gwenyn yw bod posib anfon y rhain at fyfyrwyr, i’w gwylio eto yn eu hamser eu hunain. Anogwyd cymryd nodiadau wrth gyflwyno’r cwrs gyda’r cyfle i anfon nodiadau cwrs at fyfyrwyr i gadarnhau eu dysgu.

 

Daeth un agwedd annisgwyl ond cadarnhaol iawn ar addysgu ar-lein yn amlwg yn ystod y cyflwyniadau. Roeddwn i wedi gweithio gyda rhai ysgolion a cholegau sydd â rhai myfyrwyr pryderus a nerfus na fyddent yn gallu bod yng nghwmni eu cyfoedion ac na fyddai’n gallu canolbwyntio. Fe gafodd hyn ei oresgyn yn llwyr wrth gyflwyno ar-lein. Y myfyrwyr a fyddai fel arfer yn cael trafferth gyda’u gorbryder a’u gallu i ganolbwyntio yn y coleg oedd y rhai cyntaf yn ystafelloedd aros Zoom, gan ganolbwyntio drwy gydol y sesiwn (oedd yn amlwg gan eu bod yn gofyn llawer o gwestiynau perthnasol yn y sgwrs) ac yn aros am bob munud o bob sesiwn. Roedd eu tiwtoriaid yn rhyfeddu at y newid mawr yma yn y myfyrwyr gorbryderus ac roedden nhw’n anfon negeseuon gwych atom ni’n canmol y myfyrwyr a’r ddarpariaeth.

“Fe wnes i fwynhau’r sesiwn a gyflwynwyd gennych chi i mi a’r myfyrwyr yn fawr. Roedd pob sesiwn yn llawn gwybodaeth, yn ysgogol ac yn ymgysylltu â phawb mewn ffordd hwyliog! Roedd yn ymddangos bod rhai o’r dysgwyr ‘pryderus’ a ‘swil’ yn y criw yn mwynhau’r sesiwn ac roedden nhw’n ymddangos yn llawer mwy hyderus yn ystod y dysgu o bell. Roedd mor addysgiadol ac fe wnes i ddewis defnyddio’r pwnc ar gyfer sesiwn cyntaf fy addysgu TAR. Yn bennaf gan fy mod i wedi dysgu cymaint o wybodaeth ddiddorol, ac roeddwn i eisiau ei rhannu!” – Tiwtor yng Ngholeg Myerscough

 

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dyma un o fy hoff ddarganfyddiadau i am addysgu ar-lein. Mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am addysgu cynhwysol wrth symud ymlaen, i gadw’r rhai anodd eu cadw gobeithio ac i gynnig mwy o gyfleoedd i’r rhai sy’n ei chael yn anodd oherwydd gorbryder i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

Lluniau gan Andrea Ku

Ysgrifennwyd gan Andrea Ku, tiwtor cadw gwenyn gyda phrosiect Bee You yn Blackburne House