Ysgrifennwyd y blog yma gan Emily Beever.

Yn y gorffennol, mae pobl ifanc wedi cael eu portreadu’n aml fel carfan o bobl heb ddiddordeb mewn etholiadau neu’n anwleidyddol. Ni allai hyn fod yn bellach o’r gwir o’m profiad i o gefnogi grŵp o 15 o bobl ifanc i drefnu hystings amgylcheddol cenedlaethol i ieuenctid cyn etholiadau Senedd yr Alban.

Trefnwyd prosiect Sedd Losg yr Hinsawdd gan bobl ifanc a oedd yn cynrychioli saith sefydliad ieuenctid – YouthLink Scotland, Children in Scotland, Senedd Ieuenctid yr Alban, Fridays for Future Scotland, Teach the Future Scotland, Cyfeillion Ifanc y Ddaear yr Alban a Grŵp Hinsawdd 2050.

Daeth y grŵp trefnu ag arweinwyr pum prif blaid wleidyddol yr Alban at ei gilydd i ateb cwestiynau a gyflwynwyd gan bobl ifanc ar bynciau fel targedau hinsawdd, addysg amgylcheddol a llais ieuenctid.

Yn ystod y digwyddiad, soniodd Dylan, 16 oed, un o gymedrolwyr ifanc y digwyddiad, am y pwysau ar bobl ifanc i weithredu dros yr hinsawdd i lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau:

“Rydw i eisiau dangos i chi i gyd ein bod ni’n ddig iawn, iawn. Rydyn ni’n ceisio curo ar eich drysau chi. Rydw i wedi aberthu fy addysg a chael plentyndod normal er mwyn pwyso arnoch chi i ddatrys problem rydyn ni’n gwybod amdani ers degawd cyn i mi gael fy ngeni. Os yw’r sylwadau yma heno wedi dangos unrhyw beth i ni, yr hyn mae wedi’i ddangos yw nad yw pobl ifanc yn cytuno eich bod chi wedi gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol chwaith.

“Dyma fy mywyd i yn y dyfodol a dyma fywydau pobl ledled y byd ar hyn o bryd. Ni ddylech chi gael eich ysbrydoli gennym ni, dylech fod yn ddig ac yn ofidus. Fe ddylwn i fod â digon i boeni amdano heb orfod poeni am y posibilrwydd o’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf rydyn ni wedi’i weld erioed.”

Fel ymateb, dywedodd Nicola Sturgeon, y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban: “Mae geiriau’n hawdd ond rhaid i chi ein dal ni i gyfrif ar ein gweithredoedd.”

Ymatebodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie, drwy ddweud:

“Rydych chi i gyd wedi gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus. Dyma’r eithaf gwaethaf ac rydw i’n ddiolchgar i chi am fod mor onest gyda ni. Rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ein gwlad os ydyn ni am gael planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Yn ystod y ddadl, dywedodd pob un o arweinwyr y pum plaid y byddent yn gwahardd plastig untro ac roedd cytundeb bod angen rhoi addysg hinsawdd ar waith yn ysgolion yr Alban fel blaenoriaeth.

Pan rydym yn ystyried bod 96% o bobl ifanc yr Alban yn dweud eu bod yn bryderus am newid yn yr hinsawdd, rhaid i wleidyddion gydnabod y bydd pleidleiswyr ifanc yn rhoi blaenoriaeth i bleidiau sy’n gweithredu heb orffwys ar eu rhwyfau o ran eu dal i gyfrif.

Gwylio hystings Sedd Losg yr Hinsawdd: https://youtu.be/X2NYT73tmPY

Cael gwybod mwy am gynnal eich hystings eich hun: https://www.ourbrightfuture.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/OBF_HostAHustings-1.pdf