Am y tro cyntaf eleni, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael y cyfle i bleidleisio yn Etholiadau Awdurdodau Lleol Cymru ar y 5ed o Fai. Bydd pobl ifanc sy’n ymwneud â rhaglenni Ein Dyfodol Disglair a Sefyll dros Natur Cymru yn achub ar y cyfle hwn i roi llais i fyd natur a mynnu bod Awdurdodau Lleol Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r argyfyngau byd natur a hinsawdd.

Rhowch lais i fyd natur trwy gysylltu â’ch ymgeiswyr lleol yma.

 

Trafodaeth gyflym

Yn gynharach y mis hwn, fe drefnon nhw gyfarfod “trafodaeth gyflym” am yr etholiad lle bu ymgeiswyr ifanc o’r prif bleidiau yn ateb cwestiynau gan bobl ifanc ar-lein. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Poppy Stowell Evans, un o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru ac roedd yn cynnwys ymgeiswyr ifanc o’r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a ganolbwyntiodd yn benodol ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud yn ymarferol i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Gellir gweld hwn ar-lein o hyd yma.

 

Beth allwch chi ei wneud yn eich ardal eich hun

Gan fod yr enwebiadau wedi cau bellach, mae gwefan arbennig wedi’i sefydlu i alluogi’r cyhoedd i gysylltu â’u hymgeiswyr lleol a holi am eu cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd yn eu hardal nhw.

Dywed James o Wynedd, sy’n ymwneud â’r prosiect Stand for Wales yng Ngogledd Cymru: “Natur i mi yw’r byd byw o’ch cwmpas. Eich parc lleol er enghraifft. Neu eich gardd chi. Ar raddfa fwy, y coedwigoedd neu’r cefnforoedd. Rydym ni ein hunain yn rhan o natur, yn dibynnu arno i oroesi. Rydyn ni’n rhan o natur, yn dybynnol arno ar gyfer ein bwyd, ein dŵr glân, a’n deunyddiau adeiladu. Dyma’r rheswm pam ei bod mor bwysig i gynghorau lleol ledled Cymru ddatgan argyfwng byd natur.”

Meddai Poppy Stowell-Evans o Gasnewydd: “Dwi’n teimlo’n gyffrous fy mod i’n cael pleidleisio yn yr etholiadau lleol hyn am y tro cyntaf ar Fai 5ed. Fel Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid, cefais y cyfle i fynychu COP26 y llynedd a daeth fy mhrofiad i ben gan deimlo’n fwy penderfynol i fod yn rhan o wneud i newid ddigwydd nag a gefais erioed o’r blaen. Mae’r blaned angen pawb i ddefnyddio’u llais. Mae’r etholiadau lleol hyn yn rhoi llais i ni i gyd, ac mae’n hynod bwysig ein bod ni fel pobl ifanc yn manteisio ar y cyfle i ddweud wrth yr ymgeiswyr, y rhai a fydd yn rhedeg ein hawdurdodau lleol ni, pa mor hanfodol yw byd natur i’n holl ddyfodol. Mae dyfodol yr amgylchedd yn ein dwylo ni fel pobl ifanc oherwydd, yn y pen draw, mae ein llais ni yr un mor bwysig ac angenrheidiol â’r rhai rydym ni’n eu hystyried i fod ‘mewn grym’. Fy neges yw, peidiwch â bod ofn defnyddio eich llais!”

 

Gweithredu ledled Cymru

O amgylch Cymru, mae nifer o awdurdodau lleol eisoes yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae o leiaf chwech ohonyn nhw, Torfaen, Bro Morgannwg, Casnewydd, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd, eisoes wedi datgan argyfwng natur. Gwnaeth rhai ohonynt hynny ar yr un pryd â datgan argyfwng hinsawdd.

Os bydd Awdurdod Lleol yn datgan Argyfwng Natur, mae disgwyl y byddai hyn yn arwain at gamau gweithredu gyda’r nod o atal a gwrthdroi dirywiad byd natur. Gallant gyflawni hyn drwy helpu gwenyn a phryfaid peillio eraill, drwy roi’r gorau i ddefnyddio plaladdwyr ar dir y Cyngor, diogelu ymylon ffyrdd llawn blodau a thrwy beidio â phrynu compost mawn sy’n dinistrio corsydd mawn pwysig byd-eang. Gallai awdurdodau lleol hefyd fabwysiadu atebion seiliedig ar natur i lifogydd drwy gynorthwyo cynlluniau i ail-wlychu rhai ardaloedd, creu toeau gwyrdd ac ystyried yr angen am orlifdiroedd naturiol.

Os hoffech wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt a’ch bod yn byw yng Nghymru, beth am fanteisio ar yr etholiadau lleol hyn i godi’r materion hyn gyda’ch ymgeiswyr lleol? Cliciwch ar y botwm isod i ddechrau!

Dwi eisiau cymryd rhan!