Ar Dachwedd 9 2021, dewiswyd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Alex Kennedy, 17 oed a Muhammed Amin, 14 oed, i gymryd rhan mewn digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd yn COP26 yn Glasgow. Cafodd y digwyddiad, ‘The North West Presents: Talking About My Generation’, ei drefnu gan Bartneriaeth Menter Sir Gaerhirfryn a’i gynnal yng Nghanolfan Wyddoniaeth Glasgow gyda chynulleidfa fyw ac yn cael ei ffrydio’n fyd-eang.
Cynrychiolodd Alex, ynghyd â chydaelod o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Emma Greenwood (a ddewiswyd i gymryd rhan drwy ei rôl fel AS Ieuenctid Bury), lais pobl ifanc mewn trafodaeth banel gyda Maer Metro Lerpwl – Steve Rotherham a Maer Metro Manceinion – Andy Burnham. Llywyddwyd y panel gan Paul Masson, angor Newyddion y BBC.
Gwelwyd Alex ac Emma, ill dau ond yn 17 oed, yn ASau Ieuenctid, myfyrwyr coleg brwd dros wleidyddiaeth ac ymgyrchwyr natur a hinsawdd selog, yn dal eu tir ar y llwyfan byd-eang. Heriodd Emma Greenwood y ddau Faer i greu comisiwn ieuenctid ar draws Gogledd Orllewin Lloegr i ymgynghori â phobl ifanc ar ddyfodol lleihau carbon ac adferiad byd natur ac i ddal arweinwyr yn atebol. Rydym yn hynod falch o’r ddwy ferch ifanc am godi eu llais a herio’r rhai sydd mewn safleoedd pwerus i greu dyfodol gwyrddach, gwylltach a thecach. Cyhoeddwyd lai na deuddydd ar ôl yr herio yma bod y ddau Faer wedi derbyn yr her ac y byddant yn cynllunio ar gyfer comisiwn ieuenctid i gynnwys llais pobl ifanc mewn llywodraethu.
Cafodd Alex ei herio gan y llywydd ynghylch pam ei bod yn astudio gwleidyddiaeth ac ddim yn ymgyrchu neu ymuno â’r Gwrthryfel Difodiant, pam mae hi’n ymwneud â gwleidyddiaeth swyddogol? Yng ngeiriau Alex ei hun:
Yr un peth yn y bôn ydi ymgyrchu a gwleidyddiaeth, cangen o wleidyddiaeth ydi ymgyrchu, ’allwch chi ddim cael un heb y llall. Mae gwleidyddiaeth yn ffordd wych o ddylanwadu ar lunwyr polisïau. Rydw i’n gwneud y ddau, ac fel rhan o fy ngwaith gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn rydw i’n cymryd rhan mewn cadwraeth bywyd gwyllt ac yn ymgyrchu gan ei fod yn wych ar gyfer lledaenu ymwybyddiaeth”.
Llais Ifanc Byd Natur
Dewiswyd Muhammed i ddarllen cerdd wreiddiol “Bygones” rhwng y ddau banel yn ystod y digwyddiad. Yn ei eiriau ei hun, wedi’i gyfieithu, “Mae’r gerdd yma’n sôn am ein profiadau ni ym myd natur. Mae’n ddathliad o bopeth rydyn ni’n ei garu sy’n dod â llawenydd a hapusrwydd i ni. Ond mae tristwch yn y llinellau hyn hefyd. Er enghraifft, mae’r ddelwedd o ddafnau gwlith i mi yn cynrychioli’r byd yn wylo am golli coedwigoedd.
Teithiodd Muhammed gyda Staff Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn ac Alex i fyny i Glasgow a dywedodd mai dyma’r pellaf iddo deithio heb ei deulu. Mae sylwadau Muhammad am y profiad i’w gweld isod:
Roedd yn anrhydedd cynrychioli Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn COP26. Roedd cymryd rhan yn y digwyddiad nodedig yma yn uchafbwynt gwych i’r flwyddyn i mi. Roedd y dechnoleg addysgol a gwychder pur yr arloesedd a arddangoswyd yn gwbl ysbrydoledig.
Rydym ni fel Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn diolch i’r bobl ifanc wych yma am oresgyn nerfau, teithio i lefydd newydd a siarad mor hyderus a huawdl ac, yn bennaf oll, yn angerddol am eu gwaith i helpu byd natur a’r cynlluniau adfer hinsawdd.
“Roedd gweld aelodau ein Cyngor Ieuenctid yn cynrychioli ein sefydliad, yn eiriol dros bobl ifanc eraill yn ein rhanbarth ar lwyfan byd-eang o bwys yn anhygoel. Fe wnaeth Muhammed, Emma ac Alex, gyda’i gilydd ac yn huawdl, gyfleu’r angen am weithredu a brys ein brwydr tuag at Adferiad Natur.” – Emma Bartlet, Uwch Swyddog Prosiect ac Eiriolwr Ieuenctid
Diolch i Our Bright Future, rhaglen arloesol sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n ymgysylltu â phobl ifanc i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd a chymunedau ledled y DU. Heb ei chefnogaeth ni fyddai cyfleoedd fel hyn yn bosibl.
Ysgrifennwyd gan Eleanor Lampard – Swyddog Eiriolaeth Ieuenctid
Sylwadau gan Muhammed Amin ac Emma Bartlet