Dri mis wedi cytundeb newid hinsawdd Paris, mae mwy na 30 o sefydliadau’n defnyddio £33 miliwn o Gronfa’r Loteri Fawr i helpu pobl ifanc i gamu i’r adwy a chreu’r hyn y mae ganddynt hawl iddo: planed iach, economi ffyniannus a dyfodol mwy disglair. Gyda mwy na 50,000 o bobl ifanc yn gynulleidfa i’r rhaglen, mae Ein Dyfodol Disglair yn creu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol.    

Nod Ein Dyfodol Disglair yw mynd i’r afael â thair her fawr sy’n wynebu cymdeithas heddiw – diffyg cydlyniant cymdeithasol, diffyg cyfleoedd i bobl ifanc a breguster yn wyneb newid hinsawdd. Mae tri deg un o brosiectau ieuenctid ledled y DU yn derbyn oddeutu £1m yr un o arian y Loteri Genedlaethol i feithrin sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc i wella eu hamgylcheddau lleol – o leihau llygredd yn y môr i leihau gwastraff bwyd. Trwy wneud hynny, bydd pobl ifanc yn datblygu hyder a chadernid i fod yn arweinwyr amgylcheddol a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r mudiad ifanc, uchelgeisiol a medrus hwn yn sicrhau bod llais y genhedlaeth hon yn cael ei glywed yn y trafodaethau presennol ar welliannau amgylcheddol ac economi sy’n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau.

Mae un prosiect sy’n cael ei weithredu gan Down To Earth yn mynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’r bobl a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf ganddo: y bobl ifanc dlotaf ar y cyrion, gan gynnwys troseddwyr ifanc. Dros gyfnod o bum mlynedd, bydd y prosiect yn ne Cymru’n cynnig cyfleoedd i o leiaf 1,100 o bobl ifanc eu datblygu eu hunain a’u cymunedau lleol drwy adeiladu cynaliadwy. Bydd y bobl ifanc hyn yn derbyn hyfforddiant wedi’i achredu ac yn elwa o fwy o hunanhyder a lles drwy gyfrwng gweithgareddau ymarferol ac uniongyrchol yn yr awyr agored. Hefyd, bydd pum adeilad cymunedol ‘dim carbon’ neu ‘eco-adfer’ yn cael eu creu gan ddefnyddio’r dulliau adeiladu mwyaf cynaliadwy a lleol yn unig.

Fel rhan o’r prosiect Arfordir Gwyllt Cymru sy’n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, bydd mwy na 1,400 o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn bennaf yng Ngogledd Cymru’n dod i ddeall gwerth eu hamgylchedd arfordirol ac yn dysgu sgiliau galwedigaethol er mwyn cyfrannu at ei gadwraeth. Bydd y gweithgareddau’n amrywio o adfer twyni a glanhau traethau i blannu coed a datblygu gerddi cymunedol. Bydd cyflwr amgylcheddol 30 o safleoedd penodol ar hyd arfordir Gogledd Cymru’n cael ei wella, diolch i ymyriad y bobl ifanc.

Ond mae Ein Dyfodol Disglair yn mynd ymhellach o lawer na’r effeithiau trawiadol y mae’r prosiectau unigol hyn wedi’u gweld. Mae’r rhaglen yn casglu tystiolaeth gadarn am sut gallwn ni gefnogi datblygiad yr amgylchedd a phobl ifanc drwy ddefnyddio economi ‘werdd’ gynaliadwy a gwneud defnydd effeithlon o adnoddau. Mae mwy na chant o sefydliadau’n cyfrannu tuag at fudiad ehangach Ein Dyfodol Disglair drwy rannu tystiolaeth, gwybodaeth a dysg a fydd, yn fuan iawn, yn sail i’r dewisiadau a wneir ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn y DU.

Cyllidir Ein Dyfodol Disglair gan y Gronfa Loteri Fawr a’i weithredu gan gonsortiwm o wyth sefydliad o dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae gan y bartneriaeth fwy na 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o reoli rhaglenni grant cymdeithasol ac amgylcheddol, yn werth cyfanswm o bron i £300 miliwn, ac mae ganddi enw da am rymuso a gweithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau gydag amgylchiadau cymdeithasol amrywiol.

Dywedodd Stephanie Hilborne OBE, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae Ein Dyfodol Disglair yn fudiad arloesol dros newid. Mae’n wych bod y Gronfa Loteri Fawr wedi cydnabod bod heriau cymdeithasol ac amgylcheddol yn ddwy ochr i’r un geiniog. Mae’r rhaglen yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithle ac mae’n gwneud hynny drwy gyfrwng yr amgylchedd. Rydyn ni eisiau gweld cenhedlaeth o arweinwyr dewr a doeth yn cael eu grymuso i newid ein byd er gwell.”

Dywedodd Peter Ainsworth, Cadeirydd y DU, y Gronfa Loteri Fawr:

“Yn yr amgylchedd rydyn ni’n byw. Nod Ein Dyfodol Disglair yw rhoi rhyddid i uchelgais pobl ifanc ledled y DU i wneud cyfraniad personol a chasgliadol at greu amgylchedd sy’n lle brafiach, hapusach a chadarnach yn wyneb bygythiadau fel newid hinsawdd a gwastraffu cyfoeth naturiol.              

“Nod y fenter hon yn ystod y saith mlynedd nesaf yw uno’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a geir yn sgil galluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar eu dyfodol eu hunain a dyfodol eraill a fydd yn eu dilyn nhw.”

Gyda mwy na 30 o brosiectau ledled y DU a sefydliadau fel St Mungo’s, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gweithredu dros Bobl Ddall, y Ganolfan ar gyfer Ynni Cynaliadwy, Cyfeillion y Ddaear ac UpRising yn cymryd rhan, mae’r dyfodol yn un disglair iawn yn wir.