Mae cyswllt ein pobl ifanc ni â’r amgylchedd naturiol yn mynd yn llai a llai. Mae pobl erbyn hyn yn treulio mwy nag 80% o’u hamser dan do. Mae plant yn crwydro rhyw 300 llath ar gyfartaledd, nid y chwe milltir roedden ni’n ei gerdded bedair cenhedlaeth yn ôl. ’Dyw rhai o blant Cernyw heb fod ar y traeth erioed a ’dyw nifer o blant Dagenham ddim yn gwybod bod afon yn Llundain.
Ein pobl ifanc ni yw’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymdeithas, y bobl a fydd yn dylanwadu ar ein gwlad ac yn ei rhedeg hi. Ond nid yw traean o bobl ifanc yn teimlo’n rhan o’u cymuned, mae diweithdra ymhlith ieuenctid yn uchel o hyd ac mae iechyd a lles pobl ifanc yn bryder cynyddol.
Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod 10% o blant yn dioddef o iselder a bod cost problemau iechyd meddwl i fusnesau’r DU yn £30 biliwn bob blwyddyn.
Rydyn ni’n dibynnu’n llwyr ar amgylchedd iach i sicrhau ein lles a’n ffyniant. Mae’n gwbl hanfodol i’n heconomi ni ac i’n strwythurau cymdeithasol, ac i ni allu byw yn ein cartrefi a’n cymunedau. Mae bod wedi’n hynysu oddi wrth bobl eraill ac oddi wrth natur yn ein gwneud ni’n anhapus ac yn ein rhoi dan straen.
Ond eto rywsut, mae cymdeithas wedi anghofio hyn i gyd. Ac mae’r genhedlaeth nesaf yn etifeddu’r ymdeimlad yma o ymddieithrio ac annibyniaeth ar ein hamgylchedd. Mae plant yn treulio hanner yr amser yr oedd fy nghenhedlaeth i’n ei dreulio yn yr awyr agored. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn gwella’r cyswllt rhwng y genhedlaeth yma a byd natur.
Mae Ein Dyfodol Disglair yn gwneud hynny.
Mae Ein Dyfodol Disglair, rhaglen newydd gwerth £33 miliwn sy’n cael ei chyllido gan y Gronfa Loteri Fawr, yn fudiad blaengar sy’n cefnogi pobl ifanc i arwain newid datblygiadol yn eu cymunedau ac yn eu hamgylchedd lleol. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu’r hyder a’r cadernid sydd ei angen i fod yn arweinwyr amgylcheddol yfory.
Rydyn ni’n creu byddin hyderus o ddinasyddion ifanc, brwd, grymus a medrus sy’n sefyll ar eu traed ac yn gweithredu er mwyn creu a dylanwadu ar ddyfodol sy’n gwbl bosib iddynt hwy. Drwy ddarparu’r gefnogaeth a’r seilwaith priodol, rydyn ni’n helpu i gyflymu’r newid yma a rhoi ffocws iddo.
Mae Ein Dyfodol Disglair yn cynnwys 31 o brosiectau nodedig ledled y DU. Bydd pobl ifanc mewn prosiect yn Sir Gaerhirfryn yn cyflwyno mwy na 15 miliwn o wenyn i’r sir er mwyn atal dirywiad y boblogaeth leol o wenyn mêl. Bydd prosiect arall yn dargyfeirio 245 tunnell o fwyd o safleoedd gwastraff – a bydd yn cael ei ddefnyddio i greu 81,000 o brydau ar gyfer y bobl mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Bydd trydydd prosiect yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau amgylcheddol eu hunain a chyflwyno cais i dderbyn cyllid datblygu i droi syniadau’n realiti drwy gyfrwng menter genedlaethol yn steil Dragon’s Den.
Mae Ein Dyfodol Disglair yn cyflawni llawer mwy nag effeithiau arwyddocaol y prosiectau unigol yma. Gyda’n gilydd rydyn ni’n casglu tystiolaeth gadarn am ddatblygu’r amgylchedd a phobl ifanc. Yn benodol, rydyn ni’n edrych ar bwysigrwydd rhoi sylw i’r ddau fater gyda’i gilydd drwy ddatblygu ein heconomi werdd.
I arweinwyr amgylcheddol yfory – mae’r dyfodol yn ddisglair.