Mae eich Swyddog Cyfathrebu newydd wedi cyrraedd    
Bore da ffrindiau, rydw i’n ysgrifennu atoch chi gyda bathodyn yr Ymddiriedolaethau Natur am fy ngwddw am y tro cyntaf. Mae’n ddiwrnod cyffrous! Ymddiheuriadau, mae fy mrwdfrydedd i wedi cael y gorau arna’ i. Gadewch i mi gyflwyno fy hun. Anna Heathcote ydw i, eich Swyddog Cyfathrebu newydd yn Ein Dyfodol Disglair. Ew, mae’n braf gweld hynny mewn du a gwyn.
Felly, pam ar y ddaear ydw i’n treulio fy amser yn gwneud hyn? Wel, fel rydych chi wedi casglu efallai, rydw i wrth fy modd yn cyfathrebu. Clywed straeon pobl ac ysbrydoli eraill i wneud gwahaniaeth sy’n fy nghyffroi i. Dydw i’n deall dim ond y sector elusennol. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ymwneud â phrosiectau cŵl iawn gydag Ymddiriedolaeth y Coetiroedd a’r RSPB. O, ac fe wnes i dreulio rhywfaint o amser yn torchi fy llewys yn Nwyrain Ewrop ac yn rheoli gwirfoddolwyr wrth iddyn nhw blastro waliau, paentio wynebau a bwyta melonau dŵr (a’r cyfan at achos da wrth gwrs!).
Fe wnes i gais am y rôl pan welais i ei bod yn gyfrifol am waith cyfathrebu ar gyfer 31 o brosiectau sy’n dod o dan ymbarél Ein Dyfodol Disglair. Wrth ddarllen am amrywiaeth y prosiectau, o ‘Student Eats’ i ‘Farm to Fork’ a llawer mwy, cododd fy nghalon wrth glywed bod pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith cymunedol lleol a dysgu cymaint o sgiliau gwerthfawr. Mae pawb ar eu hennill!
Yr hyn rydw i wedi cyffroi fwyaf amdano? Na, nid rhywfaint o dywydd cynhesach, er rydw i yn edrych ymlaen at hynny! Ond cael trefnu digwyddiadau, siarad gyda’r cyfryngau a chreu cynnwys ar gyfer gwefannau a chyfryngau cymdeithasol i’ch gwasanaethu chi. Hefyd dod i adnabod y tîm gwych yma o bobl sydd wedi ymrwymo i wella eich dyfodol chi. Rydyn ni yma i chi ac eisiau gwneud y prosiect yma’r un mwyaf blaengar ac arloesol y gall fod.
Fe fyddwn i wrth fy modd yn clywed sut mae pethau’n mynd gennych chi. Cofiwch anfon neges am y digwyddiadau diweddaraf ym mha bynnag brosiect sydd agosaf atoch chi. Lluniau, fideos, straeon: gyrrwch nhw ata’ i. Byddaf yn gallu gwneud fy ngwaith yn fwy effeithiol os defnyddwch chi fi i rannu eich straeon gyda’r byd!
Os nad ydych chi’n gysylltiedig â phrosiect ond wedi dod ar ein traws ni, peidiwch â meddwl ’mod i’n anghofio amdanoch chi. Mae Ein Dyfodol Disglair yma i bawb (sori, cawslyd ar y nawr te!) ac rydw i wedi ymuno â’r tîm ar adeg hanfodol iawn. Ar hyn o bryd rydyn ni’n llunio ymgyrch y rhaglen a fydd yn darparu llond gwlad o gyfleoedd i bawb wneud eu rhan. Cadwch lygad yn y fan yma am ddatblygiadau newydd wrth i ni symud ymlaen ymhellach i’r flwyddyn newydd.