Mae Jake Dean Jones yn helpu i sefydlu marchnad ffermwyr Prifysgol Swydd Stafford fel rhan o brosiect Ein Dyfodol Disglair Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr: Student Eats.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Swydd Stafford yn sefydlu marchnad fwyd ar ein campws yn Stoke. Ni fydd mor fawr â’r Tesco neu’r Sainsbury’s lleol ond bydd yn dod â chynhyrchwyr bwyd lleol a’r gymuned leol at ei gilydd, i roi bwyd iach, unigryw, fforddiadwy ac o ffynhonnell leol i’r myfyrwyr. A dyna pam rydw i wedi gwirfoddoli.
Mae gwirfoddoli wrth galon prosiect sy’n bwriadu gweithio gyda’r gymuned leol, i gyflwyno bwyd newydd ac unigryw i bobl am gost isel, yn gyfle euraid i unrhyw un. Ni fydd hon yn dasg hawdd i’r rhai ohonom ni sydd wedi gwirfoddoli, ond bydd yn un fuddiol, gan ddysgu sgiliau newydd i ni, cynnig profiad gwaith, a gwybodaeth am sut i redeg busnes a chynnyrch yr ardaloedd lleol. Fel myfyriwr Daearyddiaeth a’r Amgylchedd, bydd cael profiad gwaith a sgiliau perthnasol yn y maes hwn yn fy helpu i i fod yn fwy parod am y gweithle. Gydag Undeb y Myfyrwyr ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cymryd rhan, roeddwn i’n teimlo y byddai’n ffordd wych i ddatblygu’r sgiliau yma. Y rheswm am hyn yw am fod y ddau fudiad yno i helpu i’n harwain ni fel gwirfoddolwyr pan fyddwn ni’n cael trafferth efallai gyda thasg neu sgil.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Swydd Stafford ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi rhoi llawer o wybodaeth, gan roi’r manylion diweddaraf i ni am gynnydd y manylder sy’n rhan o brosiect fel hwn. Mae’r diweddariadau yma wedi bod o help i mi sylweddoli faint o waith sy’n gysylltiedig â chynnal marchnad fwyd, yn ogystal ag ehangu fy ngwybodaeth am y prosesau yma. Mae pawb cysylltiedig yn gyfeillgar iawn, felly mae gofyn cwestiynau’n hawdd iawn ac yn helpu i gael gwared ar unrhyw bryderon neu rwystrau meddyliol sydd gen i o bosib am ofyn cwestiwn am bwnc penodol. Cyn y cyfarfod datblygu gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Soil Association, roeddwn i braidd yn bryderus, ond fe ddiflannodd hyn yn fuan iawn gan fod y cyfarfod mor anffurfiol a’r cynrychiolwyr mor gyfeillgar a hwyliog wrth gynnal y cyfarfod. Hwn oedd fy nhro cyntaf i mewn cyfarfod fel yr un yma ac felly mae wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi ar gyfer unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol fydd gen i ar gyfer y farchnad fwyd.
Gyda’r farchnad fwyd gyntaf yn cael ei chynnal ym mis Rhagfyr, mae’r amser yn prysur agosáu ac mae Undeb y Myfyrwyr a’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn. Oherwydd hyn, rydw i’n gobeithio y bydd yn llwyddiannus mewn amser ac y bydd y farchnad yn cael ei chynnal ar y campws am flynyddoedd i ddod. Gobeithio y bydd y farchnad yn cyflawni ei hamcanion a’i nodau ac yn creu rhai newydd i helpu gyda thwf cynaliadwy a datblygiad y farchnad. Ar gyfer marchnad mis Rhagfyr 2016, rydw i’n gobeithio y gallwn ni ddenu nifer rhesymol o gynhyrchwyr a nifer rhesymol o fyfyrwyr er mwyn i ni gael ymarfer da a chanfod unrhyw broblemau gyda’n dull presennol ni o weithio. Fe all y materion yma fod yn fawr neu’n fach, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu rhagweld popeth fydd yn digwydd o bosib. Er hynny, bydd unrhyw broblemau ddown ni ar eu traws yn help i ni ddatblygu’r farchnad fwyd ar gyfer y dyfodol.
Jake Dean Jones