Mae twf yn fater anodd. Ydych chi’n gadael i bethau fod a mwynhau beth sydd gennych chi eisoes? Neu ydych chi’n addasu ychydig yma ac acw, symud i le newydd gydag amodau gwahanol a gobeithio y bydd yr ysgogiad newydd o help i ffynnu? Mae’n llawn risg, dydi?
Y newyddion da ydi bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn llawer cryfach nag yr ydyn ni (neu yn wir, nhw eu hunain) yn ei feddwl. Rhowch syniadau, pobl ac amgylcheddau newydd iddyn nhw ac fe allwch chi sgubo’r holl gamsyniadau oedd yn bodoli’n gudd i warchod eu hunan-barch o’r ffordd, a dechrau magu hunanhyder didwyll.
“Dydw i erioed wedi bod y tu allan i Swydd Lincoln, pam ddylwn i?”
Yng Nghoed Hill Holt, rydyn ni wedi gwerthfawrogi’r manteision i hunanhyder person ifanc wrth wynebu eu hofnau cudd. Efallai nad ydyn nhw wedi mentro’n bell o’u cartref erioed am nad oes ganddyn nhw arian, neu ddewrder, i brofi rhywbeth newydd, i herio eu barn am sut mae’r byd wir yn edrych ac yn gweithio. Felly, o’r dechrau, rydyn ni wedi dod o hyd i gyllid fel rhan o’n prosiect Tyfu’n Wyrdd i ymweld â phrosiectau eraill sy’n rhan o’r mudiad Ein Dyfodol Disglair.
Ar fore 23 Mehefin 2016, roeddwn i’n parcio o flaen drws ffrynt tŷ person ifanc o’r fath cyn ein trip ni i ymweld â Sarah MacDonald ar Stad Falkland yn yr Alban. Tŷ pâr oedd y tŷ gyda gardd o faint da, wedi’i chuddio dan flynyddoedd o sbwriel amrywiol. Trampolîn rhydlyd, teganau plastig plant wedi malu, trelar bychan a glaswellt tal heb ei dorri a’r gwlith arno’n sgleinio yng ngolau melyn y stryd. Wrth i mi wylio’r drws yn agor, cymerais gegaid o fy nghoffi a chwerthin i mi fy hun wrth i’r cyntaf i mi ei godi ddod allan i’r byd â golwg flinedig arno ac yn llusgo ei fag cefn yn llythrennol ar hyd y llawr.
“Dydw i erioed wedi codi mor gynnar, erioed!” meddai.
Yn raddol, fe fydden ni’n dod i wybod nad oedd wedi bod yn yr Alban erioed chwaith, nac yn gwersylla, na heb weld gwiwer coch erioed, a’r cant a mil o brofiadau newydd eraill yr oedd am eu cael yn ystod y deuddydd nesaf. Roedd yn amlwg bod ganddo amheuon am yr her o’i flaen ac roedd wedi paratoi ar gyfer y trip drwy bacio 12 diod egni.
Y noson ganlynol wrth iddo bendwmpian yn ochr dau arall yn y sedd gefn ar y ffordd adref, roeddwn i’n meddwl tybed sut byddai’n dweud yr hanes wrth ei deulu. Oedden nhw wedi gwneud rhywbeth fel hyn? Meddyliais am y profiadau newydd oeddwn i wedi’u cael hefyd, oherwydd roedd y trip yma am gymaint o bethau, gan gynnwys y manteision i’n staff.
“Dyna’r fuwch fwyaf dwi erioed wedi’i gweld…!”
Mae’r straeon am gyfeillgarwch a chyd-wneud yn ddiddiwedd. Byddai tripiau gwych i Down To Earth yng Nghymru, Youth in Nature yn Hull, Growing Confidence yn Shropshire a mwy yn datgelu eiliadau gwych o dwf personol i bawb cysylltiedig. Roedd gan bob trip straeon bach doniol fyddai’n cael eu rhannu gan y rhai oedd yno fel pe baen nhw’n rhan o glwb dethol arbennig.
“Wyt ti’n cofio nhw’n chwyrnu mor uchel fel bod nhw i’w clywed ar draws y cae?!”
Mae manteision y tripiau pleserus yma’n rhy niferus i’w rhestru yma ac rydyn ni’n awyddus i drefnu ymweliadau cyfnewid i’n coetir ni, i helpu i greu atgofion a phrofiadau newydd i bobl ifanc a staff prosiectau Ein Dyfodol Disglair. Roedd yn hyfryd cael Alexey a’r bechgyn o Ulster draw i aros ym mis Mawrth a gobeithio bod yr ymweliad cyflym â’n prosiect ni wedi rhoi profiadau newydd iddyn nhw hefyd (gan gynnwys gwyddau’r Aifft ar Lawnt y Mileniwm!). Rydyn ni wedi rhannu ein prosiect gydag eraill hefyd; Bee You!, Youth in Nature a Tomorrow’s Natural Leaders i enwi dim ond tri.
“Dydw i ddim yn gallu credu faint o goed sydd yn yr ardal yma!”
Yn ddiweddar, roeddwn i’n gwenu wrth wneud bomiau blodau gyda chriw o bobl ifanc (yn union fel roedd Fruitful Communities wedi dangos i mi) gan gymryd cipolwg ar y digwyddiadau i ddod ar y calendr gawson ni gan Ulster Wildlife cyn cadw taflen wybodaeth am ‘The Great Storm’ yn Falkland yn ôl ar y silff. Fe sylweddolais i ein bod ni, wrth rannu, yn dysgu ac yn gwella. Nid dim ond gwella ein hunain, ond eraill o’n cwmpas ni hefyd. Mae gennym ni ymweliadau i ddod drwy gydol y flwyddyn, wedi’u trefnu’n barod, ac erbyn i chi orffen darllen hwn, fe fyddwn ni wedi croesawu Milestones o Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire ac wedi ymweld â St. Mungo’s yn Morden.
Nod y prosiect Tyfu’n Wyrdd gennym ni ydi rhoi gwybodaeth a sgiliau i 4,000 o bobl ifanc i roi sylw i faterion amgylcheddol y presennol a’r dyfodol a meithrin eu hunanhyder i dyfu a datblygu yw’r cam cyntaf hanfodol ar y llwybr pwysig hwnnw.
Daliwch ati gyda’r gwaith da bawb!
Warden Gav