Lily Freeston sy’n rhannu cynnydd Yr Amgylchedd Nawr wrth i Heather Wildsmith a Lydia Allen gyflwyno digwyddiadau Thinkspiration ledled y wlad yr wythnos hon.
Mae Yr Amgylchedd Nawr yn rhaglen gyffrous sy’n cyllido ieuenctid 17 i 24 oed i ddod â’u syniadau am effeithlonrwydd ynni, lleihau gwastraff ac ailgylchu yn fyw. Mae wedi’i chyllido gan O2 a’r Gronfa Loteri Fawr drwy gyfrwng y rhaglen Ein Dyfodol Disglair ac mae’n cael ei rheoli gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol (NYA). Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael swm da o £10,000 i ddatblygu eu syniad dros gyfnod o 10 mis, yn ogystal â mentoriaeth o’r safon uchaf, profiad gwaith a dyddiau gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Ar y cyfan, mae’n rhaglen cŵl iawn.
Cychwynnodd y rhaglen y llynedd. Ar ôl lansio’r her amgylcheddol gwerth £10,000, aethom ar daith ledled y wlad, gan gyflwyno sesiynau Thinkspiration mewn prifysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, i ysbrydoli a chymell pobl ifanc i fod yn barod i gyflwyno eu ceisiadau. Roedd y sesiynau’n gyfle i’r cyfranogwyr rannu syniadau a bod yn ddigidol: roedd gennym sawl darn diweddar o gyfarpar technolegol ar gael, gan gynnwys Raspberry Pi, clustffonau VR, microbits a mwy.
Pan agorodd y ceisiadau ar 1 Tachwedd 2016, cafwyd llond gwlad o syniadau dyfeisgar o bob cwr o’r DU. Dewiswyd y rhai â’r potensial mwyaf gennym a’u gwahodd i weithdy cyn cynnig. Yn y gweithdy buom yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu diwrnod pwysicaf hyd yma: y diwrnod cynnig. Daeth y diwrnod hwnnw’n fuan iawn a chyflwynodd pob prosiect ei syniad i dîm Yr Amgylchedd Nawr a hefyd i gyflogeion O2 a’r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol. Dyfarnwyd cyllid i naw prosiect eithriadol!
Mae’r siwrnai anhygoel hon yn dod â ni at ddiwrnod lansio a gynhaliwyd yn hwb O2 yn yr ardal fwyaf cŵl yn Llundain, Shoreditch, ar 12 Mawrth. Y diwrnod lansio oedd y gorau o ddigon! Cafodd y naw ymgeisydd llwyddiannus a’u timau gyfarfod, cymysgu a pharatoi ar gyfer y siwrnai ddeg mis gyffrous o’u blaen. Sefydlwyd chwe gorsaf gennym ni, gyda phob un rhoi sylw i faes gwahanol, gan gynnwys cyllidebu, cyfathrebu a’r pethau llai difyr ond yr un mor bwysig, fel manylion cyfreithiol ac adrodd yn ôl ar y prosiectau. Cafodd popeth sylw a gadawodd yr arweinwyr prosiect newydd y diwrnod gyda’r wybodaeth a’r hyder yr oedd arnynt eu hangen i ddechrau arni.
Roedd yn gyfle rhagorol i glywed mwy fyth am eu syniadau. Buom yn sgwrsio â Lettus Grow, sef tîm o beirianwyr sy’n creu ffordd awtomatig, heb bridd, o arddio. Mae eu cynnyrch uber-cŵl yn galluogi i chi dyfu eich salad eich hun, drwy gydol y flwyddyn, yn eich cegin! Hefyd cawsom sgwrs ag Elliott Lancaster, sy’n datblygu ap i drigolion cymunedol roi gwybod am broblemau ailgylchu, a Victoria Russell, sydd â gêm rithiol hwyliog i addysgu pobl am beth i beidio â’i roi i lawr y toiled.
Roeddem wedi cael ein hysbrydoli’n llwyr ac yn dyheu am weld y prosiectau’n dwyn ffrwyth. Yn ystod y misoedd sydd i ddod byddwn yn teithio’r wlad i ymweld ag arweinwyr y prosiectau ac i weld eu prosiectau ar waith. Byddant yn cymryd rhan mewn dyddiau gwybodaeth a hefyd yn cynnal eu sesiynau ysbrydoli eu hunain ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymgeiswyr Yr Amgylchedd Nawr. Yn olaf, pan fyddant yn cyrraedd pen eu siwrnai gyda ni, byddwn yn cynnal digwyddiadau dathlu ac yn arddangos eu holl waith caled!
Mae llawer o arbrofi, datblygu a gwneud i bethau ffitio yn ystod y deg mis nesaf, ond erbyn y diwedd bydd pob arweinydd prosiect a’i dîm wedi gwneud ein planed fymryn yn well, a gyda’n gilydd, byddwn wedi gwneud byd o wahaniaeth.
I gael mwy o wybodaeth am raglen Yr Amgylchedd Nawr, neu i gymryd rhan, ewch draw i www.gothinkbig.co.uk/features/the-environment-now