Grainne Martin-wells yw’r cynrychiolydd ieuenctid ar grŵp llywio Our Bright Future. Hefyd mae wedi cael cyfle i ymwneud â Merit360, lle mae pobl ifanc yn gweithredu i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.       
Eleni, cefais i, ochr yn ochr â 359 o bobl eraill (18 i 35 oed) o bob cwr o’r byd, fy newis i gymryd rhan mewn rhaglen o’r enw Merit360. Y nod yw ceisio mynd i’r afael â’r 17 o nodau datblygu cynaliadwy a ffurfiwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015. Roedd y broses ymgeisio’n heriol braidd gan fod rhaid i mi lenwi ffurflen gais ac wedyn ateb cwestiynau mewn fideos oeddwn i ond yn cael eu recordio un waith. Roedden nhw’n gofyn i mi beth fyddwn i’n fynd gyda mi ar ynys bellennig! (Radio, papur a beiro, a thabledi lladd poen; mae’n rhaid i chi fod yn ymarferol does?)
Fe wnes i ddewis gweithio ar NDC 13: gweithredu ynghylch yr hinsawdd. Roedd yn ymddangos fel dewis addas o feddwl am fy nghysylltiad ag Our Bright Future a gyda gradd mewn gwyddoniaeth yr amgylchedd. Mae 3 cham i’r rhaglen, a cham 1 yw dod i adnabod y tîm! Fe wnes i ymuno ag 11 arall a dechrau cael sgyrsiau grŵp bob pythefnos. Roedden ni’n trafod ein diwylliannau unigol a sut i oresgyn unrhyw wahaniaethau. Nawr rydyn ni newydd ddechrau ffurfio ein syniadau ar gyfer pa ran o’r NDC rydyn ni eisiau rhoi sylw iddi. Mae hyn yn bwysig oherwydd ym mhob NDC mae targedau ynghylch sut i gyrraedd y nod, er enghraifft, trechu newid hinsawdd neu ddileu tlodi (NDC 1).
Yn bersonol, rydw i eisiau canolbwyntio ar addysgu pobl am beth allant ei wneud i atal newid hinsawdd direolaeth, gan fy mod i wedi gweld yr holl waith anhygoel mae pobl ifanc yn ei wneud gydag ychydig o help a gwybodaeth. Ar ôl i ni benderfynu pa darged i ganolbwyntio arno, rhaid i ni feddwl am bwy all ein helpu ni, pobl sy’n cael eu galw’n rhanddeiliaid. A hefyd, a ydyn ni eisiau adeiladu ar syniad presennol neu wneud rhywbeth cwbl newydd. Wedyn daw cam dau: cyflwyno ein syniad yn y Senedd. Daw hyn ddiwedd mis Awst eleni a byddwn yn treulio pythefnos yn Llundain ac yn Lerpwl yn llunio ein cynllun yn derfynol ac yn ei rannu gyda phobl ‘bwysig’. Dyma’r rhan rydw i’n edrych ymlaen yn fawr ati oherwydd dydw i ddim yn meddwl bod digon o bobl mewn pŵer yn poeni am newid hinsawdd. Drwy dynnu eu sylw at hyn, efallai y bydd posib i ni newid eu barn yn araf bach, a’u cael i weld bod gofalu am yr amgylchedd yn eithriadol bwysig.
Yn olaf, cam tri yw rhoi’r cynllun ar waith. Gan nad ydw i’n gwybod beth fydd ein cynllun ni, dydw i ddim yn gallu dweud llawer wrthych chi am hyn! Er hynny, rydw i’n gallu rhoi syniad i chi o beth fyddwn ni’n gallu ei gyflawni o bosib, drwy edrych ar grŵp y llynedd. Fe wnaethon nhw benderfynu sefydlu prosiect o’r enw ‘The Climate Express’, sef bws a fydd yn teithio i gymunedau a fydd yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd ar bum cyfandir gwahanol, gan ddechrau yn Ghana. Y nod yw rhoi gwybodaeth ac adnoddau iddyn nhw i allu addasu i newid hinsawdd.
Yr unig beth rydw i wedi anghofio ei grybwyll ydi’r codi arian! Er mwyn cyrraedd yr ail a’r trydydd cam, mae’n rhaid i chi godi £1,200 sydd, er ei fod yn llawer o arian, yn bosib ei gyflawni ac fe gewch chi lawer o gefnogaeth gan World Merit (y sefydliad sy’n rhedeg Merit360). Rydw i’n codi fy arian drwy gefnogaeth gan ffrindiau a theulu ond hefyd drwy werthu cacennau. Oedd, roedd rhaid i mi deithio ar y Tube gyda bocsys o gacennau, ond roedd e werth e! Mae llawer o ffyrdd i chi gyrraedd eich nod; fe gafodd un ferch yn ein grŵp ni ei noddi gan ei phrifysgol i helpu i dalu am docynnau awyren, gan ei bod yn byw yng Nghanada.
Mae llawer o adegau wedi bod yn ystod fy mywyd i lle rydw i wedi poeni a oes posib i ni wneud unrhyw beth i helpu i ddatrys y problemau rydyn ni wedi’u creu. Wedyn fe wnes i ddechrau cymryd rhan mewn prosiectau fel hyn a chyfarfod pobl anhygoel sydd wedi gwneud gwahaniaeth er gwaethaf eu hoedran. Mae’n gwneud i mi feddwl am beth fyddai’n digwydd pe bai pawb yn gwneud rhywbeth, dim ots pa mor fach, a pha newid allai hynny ei greu. Dyna beth sy’n fy nghadw i i fynd a dyna pam wnes i ddechrau ymwneud â Merit360; oherwydd rydw i’n gallu gweld cyfle gwych i newid pethau er gwell.