Roberta Antonaci, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd Our Bright Future, sy’n dweud wrthym am ei phrofiad yn TEDxTeen.
Ar 24 Mehefin, cynhaliwyd TEDxTeen yn Arena’r O2 yn Ne Ddwyrain Llundain. Mae TED yn sefydliad dielw sydd wedi ymrwymo i rannu syniadau, ar ffurf sgyrsiau byr, pwerus fel rheol. Cynhelir digwyddiadau TEDx annibynnol mewn mwy na 100 o ieithoedd. Roedd yn bleser cael ymuno ag un o’r rhain, a oedd yn rhoi llwyfan i bobl ifanc o bob cwr o’r byd i rannu eu straeon anhygoel.
Roedd yn ddiwrnod eithriadol ysbrydoledig gydag egni positif a phethau i gnoi cil arnynt. Y brif thema oedd “camau beiddgar”. Sut mae newid y byd o’ch cwmpas chi neu’r tu mewn i chi a chymryd cam beiddgar? Cwestiwn hawdd tydi?
Roedd cymaint o siaradwyr yn rhannu eu profiadau ysbrydoledig. Er enghraifft, soniodd Zuhal Sultan wrthym am ei hantur ryfeddol yn sylfaenu’r gerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf yn ei harddegau yng nghanol rhyfel yn Iraq. Fel y dywedodd hi, rydyn ni’n siarad drwy gerddoriaeth bob un dydd o’n bywydau ac mae cerddoriaeth yn gallu pontio bylchau ac uno pobl y tu hwnt i iaith, ethnigrwydd neu rwystrau crefyddol.
Roedd cam beiddgar Tyler Dunning yn un personol. Collodd Tyler ei ffrind gorau, Nate, mewn ymosodiad terfysgol. Gwnaeth y newyddion iddo deimlo’n flin a thrist a throdd at feddyginiaeth. Ei unig gysur? Byd natur. Penderfynodd ymweld â phob un o’r 59 parc cenedlaethol yn UDA. Ac wedyn, fesul ychydig, dechreuodd rannu gyda phobl eraill ac, yn y diwedd, llwyddodd i ddweud ffarwel. Mae gan fyd natur bŵer enfawr. Yn Our Bright Future, rydyn ni’n profi beth all byd natur ei wneud i ni i gyd bob un dydd. O wella ein hiechyd a’n lles i roi cyfle i ni ddysgu sgiliau newydd a chysylltu â’n cymuned. Roedd gweld hyn yn cael ei gydnabod mewn sgwrs bwerus yn emosiynol!
Neges arall gefais i yn ystod y dydd yw ei bod yn bwysig derbyn nad ydyn ni’n berffaith. Weithiau dydi pethau ddim yn gweithio fel byddem yn dymuno. Mae posib osgoi ein methiannau a gall fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth hyd yn oed.  Er enghraifft, rhannodd Claudia Vulliamy ei stori am sut trodd hi lythyr yn gwrthod lle iddi ym Mhrifysgol Rhydychen yn ddarn o gelf. Rhannodd ei mam y llun ar Twitter ac aeth yn feiral. Neu Nile Rodgers, y cerddor a’r cynhyrchydd recordiau enwog o America, a ddywedodd wrthym sut deilliodd y gân Le Freak o amharodrwydd stiwdio enwog Studio 54 i groesawu ei grŵp pop, The Chic. Roedd Le Freak yn rhif un yn y siartiau disgo am saith wythnos a gwerthodd y sengl saith miliwn o gopïau!
Yr hyn gododd fy ysbryd i oedd y syniad beiddgar o fod yn agored i amrywiaeth a oedd yn gysylltiedig â llawer o’r sgyrsiau. Mae Ziad Ahmed, Mwslim Americanaidd ac ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol, yn gofyn i ni edrych yn llygaid ein gilydd a gofyn cwestiynau ymddangosiadol syml fel “sut wyt ti” a “phwy wyt ti”. Gwahoddodd ni i stopio byw mewn swigen sy’n cynnwys pobl sy’n meddwl yr un fath â ni, herio ein stereoteipiau a dechrau sgwrs.
Gofynnodd Amelia Halls i ni normaleiddio sut rydyn ni’n siarad am iechyd y meddwl. Nid gwendid yw salwch meddwl. Mae hi’n un allan o’r 300 mil o bobl sy’n dioddef bob blwyddyn yn y DU o iselder a phenderfynodd ddefnyddio pŵer gwella celf i’w stopio’i hun rhag hunan-niweidio. Penderfynodd droi ei chorff yn ganfas.
Ac, yn olaf, gyda’i stori ysbrydoledig, fe wnaeth Lewis Hine i mi grïo. Yn 17 mis oed, cafodd diwmor ar yr ymennydd ac mae wedi gorfod cael tair ar ddeg o lawdriniaethau hyd yma.
Fel y dywedodd yn ei fideo, sydd wedi’i wylio fwy nag 20 miliwn o weithiau ar Facebook, “dydi anabledd ddim yn beth drwg, ond mae cadw’n dawel amdano’n ddrwg iawn”. Sefydlodd Lewis brosiect o’r enw Friend Finder, i helpu pobl ifanc eraill sydd â salwch tymor hir ac sydd wedi treulio llawer o amser mewn ysbytai ac yn ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Mae pawb eisiau ffrind. Ac mae mor gyffrous meddwl sut mae prosiectau Our Bright Future yn gwneud i hyn ddigwydd. Mae’n ffantastig gweld sut mae’r bobl ifanc sy’n ymuno â’r prosiectau’n dod at ei gilydd ac yn gwneud ffrindiau.
A dyma fy ystyriaeth olaf i. Mae camau beiddgar o bob lliw a llun i’w cael a gallwch ddechrau newid y byd gydag un cam beiddgar syml. Gallwch ddechrau gyda dim ond sgwrs neu newid positif bach yn eich cymuned a’ch amgylchedd lleol. Mae hwnnw’n gam beiddgar!
Mae pob un o 31 o brosiectau Our Bright Future wedi bod yn feiddgar o ran gwthio eu ffiniau ac anelu’n uchel. Gyda’n gilydd rydyn ni’n creu mudiad beiddgar ac rydw i mor falch o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd yn ystod y blynyddoedd nesaf.