Dyma Reolwr Prosiectau Iechyd a Sgiliau Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Manceinion a Gogledd Glannau Merswy, Mike Winstanley, i rannu cyffro ymweliad Brenhinol â phrosiect MyPlace Our Bright Future yng Ngwarchodfa Natur Brockholes yn Preston.
 Daeth y Tywysog Harry ar ymweliad â Brockholes i ddysgu mwy am y prosiect ecotherapi sy’n annog pobl ifanc i godi allan i’r awyr agored a chysylltu â byd natur, sydd wedi profi’n fanteisiol i’w hiechyd a’u lles. Mae’r prosiect hwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Gronfa Loteri Fawr yn brosiect Our Bright Future ac yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Natur ac Ymddiriedolaeth Sylfaen Gofal y GIG Sir Gaerhirfryn. Mae’n arloesi natur fel ffurf effeithiol ar therapi sydd o fudd i amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd meddyliol a chorfforol.
Mae prosiect MyPlace yn gweithio gyda phobl ifanc yn Sir Gaerhirfryn i’w hailgysylltu â byd natur a magu eu hyder wrth eu hannog i siarad am eu hiechyd meddwl eu hunain heb stigma. Bu rhai o’r bobl ifanc yn siarad â’i Fawrhydi am eu siwrnai eu hunain, gan ddisgrifio sut mae MyPlace wedi eu helpu i wella o’u cyflyrau iechyd meddwl eu hunain. Roedd y bobl ifanc yn falch iawn o gael cyfarfod y Tywysog ac roeddent yn gyffrous am ddangos y prosiect a’r gweithgareddau maent yn cymryd rhan ynddynt.
Cerddodd y Tywysog Harry i ‘Viking Wood’ yn Brockholes a chyfarfod staff a chyfranogwyr prosiect MyPlace wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau  ymwybyddiaeth ofalgar a chreu gwrychoedd marw a chrefftau’r gwyllt. Ymunodd y Tywysog â’r bobl ifanc o amgylch tân a sgwrsio gyda hwy wrth iddynt baratoi malws melys i’w tostio, ond gwrthod eu blasu wnaeth y Tywysog, yn gwrtais, gan ddweud eu bod yn ‘rhy felys’ i’w chwaeth o.
Trafododd Hannah Croft, Cynrychiolydd y prosiect ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, ei siwrnai MyPlace ei hun gyda’r Tywysog a dangosodd ei Fawrhydi ddiddordeb didwyll yn effaith cyfranogiad Hannah yn y prosiect ar iechyd ei meddwl.
Wrth gerdded yn ôl o’r coed, trafododd ei Fawrhydi’r potensial ar gyfer eiriolaeth gref i amcanion y prosiect gan y bobl ifanc ac roedd angerdd a gonestrwydd Hannah wedi gwneud argraff fawr arno. Roedd wrth ei fodd yn clywed am waith Hannah ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future a hefyd am berson ifanc arall o’r enw Lucy oedd newydd sicrhau lle fel hyfforddai gyda phrosiect MyPlace.
Fe ddangosodd Tywysog Harry gydymdeimlad tuag at y cyfranogwyr sydd wedi cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl. Sylwodd ar un o’r cyfranogwyr oedd yn fud o’i weld, ac aeth yn ôl ati i sgwrsio gyda hi a’i nain ac roedd y person ifanc yma wrth ei bodd.