Dyma Matthew McWhinne, cydlynydd cyfathrebu a marchnata gydag Impact Arts, i siarad drwy ei wythnos o weithgareddau gyda’i brosiect Creative Pathways.
Mae’r prosiect Creative Pathways – Llwybrau Creadigol – sy’n cael ei gyflwyno gan Impact Arts yn Glasgow yn mynd o nerth i nerth. Fis diwethaf, bu pobl ifanc yn datblygu eu creadigrwydd drwy gyfrwng wythnos o weithgarwch, gan gynnwys dysgu yn yr ystafell ddosbarth, trip i Gaeredin, a sesiynau ar greu gweithiau celf dyfeisgar a dadlennol.
Uchafbwynt yr wythnos i lawer oedd ymweliad y tîm ag Oriel Genedlaethol yr Alban ar gyfer Celfyddyd Fodern yng Nghaeredin. Roedd yr ymweliad yn gyfle i bobl ifanc weld gwaith gan rai o artistiaid enwocaf y byd.
Gan fod y grŵp hwn yn gweithio tuag at brosiect cerflunio, cawsant eu hysbrydoli’n fawr gan gelf tir Charles Jencks, sy’n gorwedd o flaen yr oriel. Roedd gwaith Eduardo Paolozzi, Anthony Gormley a Joan Miro i gyd yn ysbrydoliaeth i’r bobl ifanc hefyd, ac yn rhoi syniadau iddynt ar gyfer eu gwaith eu hunain. Roedd hyn i gyd cyn iddynt fynd i mewn i’r oriel hyd yn oed.
Allan o’r oerfel ac o dan do yn y gofod arddangos, rhannodd y tîm yn ddau grŵp ac archwilio’r ddau adeilad, gan arsylwi a thrafod y gwaith oedd yn cael ei arddangos. Roedd yn gyfle amhrisiadwy i’r grŵp weld gwaith mawrion fel Picasso, Warhol, Magritte a Hepworth, i enwi dim ond rhai.
Y diwrnod cynt, mwynhaodd y grŵp gyflwyniad ar sut i ddarllen a dehongli celfyddyd fodern. Bu ein tiwtoriaid yn eu harwain drwy rai o weithiau celf mwyaf arwyddocaol yr 20fed Ganrif – o Marcel Duchamp ac Andy Warhol i Tracey Emin a Cornelia Parker. Drwy gydol y cyflwyniad cafwyd sylwadau manwl gan y grŵp ac roeddent yn aeddfed iawn wrth gwblhau eu hymarfer “parod”.
Daeth yr wythnos i ben gyda chreu hunan bortreadau gwych. Ar ôl gweithio’n galed drwy’r bore ar unedau SQA – rhan o elfen gyflogadwyedd y cwrs hwn – cynhyrchodd y grŵp hunan bortreadau haniaethol hyfryd. Roedd y gwaith yn gynharach yn ystod yr wythnos ar ddehongli wedi cyflwyno syniadau newydd am y meddwl y tu ôl i greu gweithiau celf, ac roedd hyn yn amlwg yn yr hunan bortreadau a gynhyrchwyd. Yn drawiadol iawn yn weledol ac yn llawn sentiment ac ystyr, gorffennodd y grŵp yr wythnos gyda llwyddiant creadigol.
Os bydd hyn yn parhau, bydd gennym nifer o bobl ifanc sy’n gadael Impact Arts ac yn mynd ymlaen i gystadlu am Wobr Turner!
Mae’r cwrs Llwybrau Creadigol yma’n canolbwyntio ar ddylunio amgylcheddol, gan annog y bobl ifanc i feddwl am faterion gwyrdd ar lefel leol a rhannu sgiliau celf a dylunio ar yr un pryd. Mae’n rhan o Our Bright Future, mudiad a gyllidir gan y Gronfa Loteri Fawr, sy’n cefnogi pobl ifanc i arwain newid amgylcheddol a chynyddol.
Rydym yn cael cyllid a chefnogaeth hefyd gan Skills Development Scotland, Inspiring Scotland, Loteri Plant yr Alban a Chamlesi’r Alban.