Mae Mya Bambrick yn flogiwr, ffotograffydd bywyd gwyllt a modrwywr adar dan hyfforddiant 15 oed. Mae hi hefyd yn ymwneud ag ymgyrch #OwningIt #OurBrightFuture …
Yn berson ifanc sydd â diddordeb mawr mewn bywyd gwyllt a’r amgylchedd, rydw i’n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl ifanc eraill ddangos diddordeb hefyd. Mae hynny nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt a’r amgylchedd, ond hefyd mae’n cynnig manteision i ni i gyd hefyd. Mae bod yn yr awyr agored yng nghanol byd natur wedi profi’n llesol i ni. Felly, rydw i’n falch o fod yn cefnogi ymgyrch Our Bright Future.
Yn ddiweddar maen nhw wedi lansio ymgyrch #OwningIt sy’n ceisio ysbrydoli mwy o bobl ifanc i weithredu er mwyn helpu’r amgylchedd. Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan ynddi ac, fel defnyddiwr mawr ar gyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd, mae mor hawdd! Fe allwch chi gymryd rhan hefyd drwy ychwanegu’r hashnodau #OurBrightFuture ac #OwningIt at unrhyw negeseuon trydar sy’n gysylltiedig â gwerthfawrogi neu helpu byd natur. Gallai’r rhain fod am unrhyw beth, o daith gerdded natur i ddiwrnod yn gwylio adar neu osod teclyn bwydo adar yn yr ardd.
Yn bersonol, rydw i’n gwneud fy ngorau i wneud fy rhan dros fyd natur. Rydw i’n modrwyo adar, sy’n helpu i fonitro poblogaethau o adar a chasglu gwybodaeth am eu symudiad nhw, rydw i’n ceisio mynd allan i’r awyr agored, i warchodfa natur er enghraifft, bob penwythnos, a blogio am yr ymweliadau yma, gan ysbrydoli pobl eraill i godi allan i’r awyr agored hefyd gobeithio.
Ond, drwy gymryd rhan yn ymgyrch #owningit rydw i’n gobeithio gwneud mwy dros yr amgylchedd a byd natur, a hefyd ysbrydoli pobl ifanc eraill ar fy nghyfryngau cymdeithasol ac yn y blog sydd gen i ar yr un pryd!
www.myathebirder.blogspot.co.uk