Enillodd Jordan Havell, 16 oed, Wobr Warden Natur Ymddiriedolaeth Natur Sir Lincoln am godi ymwybyddiaeth o forfilod caeth ar draeth. Ar ôl brwydro i achub llamhidydd ar draeth ger ei gartref, dosbarthodd boster gan Wasanaeth Achub Bywyd y Môr Deifwyr Prydain, yn rhoi gwybodaeth hanfodol i bobl pe baent mewn sefyllfa debyg. Hefyd cynlluniodd ei boster ei hun yn addas ar gyfer Ynys Guernsey. Derbyniodd llawer o gynghorau arfordirol ledled y DU y posteri hyn, fel eu bod yn ymwybodol o bwy i’w ffonio pe baent yn dod o hyd i famal yn gaeth ar draeth. Nawr mae’n gwirfoddoli gyda Mudiad Cenedlaethol SeaWatch er mwyn helpu gyda gwylio morfilod a dolffiniaid yn Nhrwyn Gibraltar, fel swyddog gwybodaeth. Yn ddiweddar cafodd wahoddiad i Stryd Downing.
‘Rydw i eisiau rhannu fy stori gydag Our Bright Future oherwydd mae’n dangos bod posib i chi wneud gwahaniaeth drwy ymgyrchu a gweithredu er lles yr amgylchedd. Yn ddiweddar cefais i’r fraint o fynd i 10 Stryd Downing. Y pwrpas oedd cyfarfod Syr John Randall AS, sy’n gynghorydd amgylcheddol i’r Prif Weinidog. Roeddwn i’n gyffrous iawn wrth i ni gyrraedd y drws ffrynt a chael ein hebrwng i mewn. Roeddwn i’n un o bedwar o bobl ifanc oedd wedi cael eu dewis i fod yno drwy gael fy enwebu gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol oherwydd fy ngwaith gyda’r môr a’r ymgyrch dros famaliaid caeth ar draeth. Fe gefais i drafod y materion yma yn ystod ein cyfarfod ac roedden ni’n ddigon ffodus i gael mynd o amgylch yr adeilad, oedd yn wych. Roeddwn i’n teimlo’n lwcus o gael cyfle mor brin ac rydw i’n gobeithio cadw mewn cysylltiad â Syr John Randall a’r bobl ifanc eraill wnes i eu cyfarfod ar y diwrnod.’