Mae’r blogiwr arddegol llwyddiannus, Zach Haynes, wedi ymuno ag ymgyrch #OwningIt #OurBrightFuture. Dyma beth mae’n ei wneud …          
I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i, Zach ydw i! Rydw i’n byw yng Ngogledd Swydd Efrog, sy’n golygu ’mod i’n lwcus oherwydd mae gen i lawer o gefn gwlad i’w archwilio. Mae hynny’n grêt i mi oherwydd rydw i wrth fy modd gyda byd natur ac mae’r diddordeb yma wedi cynyddu ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Fe ddyweda’ i wrtha’ chi sut datblygodd hynny mewn ychydig ond un o fy mhrif uchelgeisiau i ydi ceisio cael mwy o bobl, yn enwedig pobl fy oedran i, i werthfawrogi byd natur a gofalu amdano. Felly roeddwn i’n falch iawn o gael dechrau ymwneud ag ymgyrch #OurBrightFuture oherwydd y nod ydi lledaenu’r neges bod ein dyfodol ni i gyd, yn enwedig dyfodol pobl ifanc, yn gysylltiedig â dyfodol yr amgylchedd. Rydw i wedi rhyfeddu at sut mae camau rydw i wedi gallu eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth ac mae’r ymgyrch yma’n ymwneud â llawer ohonom ni’n gwneud gwahaniaeth bach, a fydd yn dod at ei gilydd i wneud newidiadau mawr. Mae’n ymwneud â ni’n #Owningit, yn cymryd yr awennau gyda’r amgylchedd er mwyn ein dyfodol. Fe fydda’ i’n siarad am pam nad oes ots beth ydi’ch oedran chi – fe allwch chi wneud mwy nag ychydig o wahaniaeth.
Felly mae gen i fy rhieni i ddiolch iddyn nhw am fy hoffter i o fyd natur oherwydd cyn oeddwn i’n gallu cerdded hyd yn oed roedden nhw’n mynd â fi i goedydd, ar rostiroedd a mynyddoedd, ac i ddyffrynnoedd a chymoedd. Mae gen i atgofion gwych o fod yn blentyn yn syllu ar lynnoedd, yn gwylio ac yn gwrando ar raeadrau, yn bwydo hwyaid a gwyddau a llawer mwy. Wrth i mi fynd yn hŷn fe ddechreuais i flog fel ffordd o ddysgu am y pethau roeddwn i’n dod o hyd iddyn nhw wrth i mi archwilio cefn gwlad ar deithiau cerdded teuluol. Po fwyaf roeddwn i’n ysgrifennu am natur, y mwyaf roeddwn i’n ei ddysgu am y bywyd gwyllt rhyfeddol o’n cwmpas ni, a pha mor rhyfeddol ac anhygoel ydi o. Fe wnes i ddechrau sylweddoli hefyd pa mor  fregus ydi byd natur a’r effaith mae dynolryw yn ei chael ar yr amgylchedd. Rydw i’n siarad llawer am hyn gyda fy nheulu a llawer o’r bobl rydw i’n eu cyfarfod drwy fy mlog pan ydw i’n cael cyfle i ymweld â gwarchodfeydd neu fynd i ddigwyddiadau fel Ffeiriau Adar.
Ac fe wnes i ddechrau meddwl beth fyddwn i’n gallu ei wneud i helpu. Ac wedyn fe ddechreuais i wneud pethau fel gosod bocsys adar yn eu lle, tyfu blodau cyfeillgar i wenyn, helpu mewn gwarchodfeydd a phethau felly, ond roeddwn i’n meddwl tybed sut arall fedrwn i wneud gwahaniaeth. Roeddwn i’n 10 oed pan wnes i ddechrau blogio a dim ond tair ar ddeg ydw i nawr, ond rydw i wedi dysgu bod pobl ifanc yn gallu gwneud gwahaniaeth. Dyma rai o’r pethau rydw i wedi’u darganfod wrth wneud fy mlog i bobl allu helpu byd natur.
  • Mynd ati i lanhau traeth neu gasglu sbwriel (Cofiwch fenig, bag a byddwch yn ofalus. Peidiwch â chyffwrdd mewn dim byd miniog!) Os ydych chi wedi gweld Blue Planet 2 fe fyddwch chi’n gwybod ei bod hi’n bwysig stopio sbwriel rhag mynd i’r môr.
  • Ymunwch â phrosiectau gwyddoniaeth y dinesydd fel Big Garden Birdwatch (mae posib cofrestru ar gyfer 2018 o 13eg Rhagfyr ymlaen!) neu Big Butterfly Count – maen nhw’n ffordd wych o weld beth sydd yn eich gardd chi neu ar ddarn lleol o dir ac maen nhw’n helpu gwyddonwyr i fonitro beth sy’n digwydd gyda phoblogaethau o fywyd gwyllt.
  • Un weithred hawdd iawn ydi ysgrifennu am fywyd gwyllt, rhannu eich angerdd a cheisio ysbrydoli eraill. Rydw i wedi gweld bod fy mlog i wedi helpu i godi ymwybyddiaeth, gan ysbrydoli ac annog pobl eraill i ofalu am fyd natur. Os oes gennych chi amser, fe fyddwn i’n argymell bod unrhyw un yn dechrau blog!
  • Codwch arian ar gyfer achosion bywyd gwyllt sy’n bwysig i chi – drwy deithiau cerdded noddedig, teithiau beicio, gwerthu cacennau, unrhyw beth allwch chi feddwl amdano mewn gwirionedd, ac weithiau, gorau oll os ydi’r syniad yn un doniol!
  • Gwirfoddolwch mewn gwarchodfa – mae llawer o sefydliadau’n croesawu pobl o bob oed i wneud tasgau bach neu i helpu i ofalu am ymwelwyr neu hyd yn oed dim ond helpu i esbonio pethau iddyn nhw.
  • Ysgrifennwch at eich AS – hyd yn oed os ydych chi fy oedran i, fe ddylai eich AS wrando arnoch chi. Byddwch yn gwrtais a gofynnwch gwestiynau uniongyrchol. Os ydych chi’n teimlo’n gryf iawn am bwnc, fe ddylech chi ddweud wrthyn nhw beth rydych chi’n ei feddwl. Ac fe ddylech chi gael ateb. Fe gefais i ateb o swyddfa’r Prif Weinidog un tro hyd yn oed.
Felly mae llawer o ffyrdd i chi godi allan a gwneud pethau i helpu bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Dydi’r ffaith ein bod ni’n ifanc ddim yn golygu nad oes posib i ni fod yn gadwriaethwyr. Er nad ydw i’n cael pleidleisio, mae gen i farn ac mae digon o bethau y gallaf i eu gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth.
Bydd gweithredu fel hyn yn dangos i bobl mai ein dyfodol disglair ni ydi hwn – #OurBrightFuture, ac mai ni sydd piau o – #owningit!
Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau,
Z