Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, bu Ummi Hoque o brosiect My World My Home yn annerch arweinwyr o bob rhan o’r sector amgylcheddol yn lansiad Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol yn Llundain. Dyma beth ddywedodd:
Fy enw i ydi Ummi Hoque ac rydw i’n aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future ac yn gyn-aelod o My World My Home, rhaglen arweinyddiaeth amgylcheddol sy’n cael ei gweithredu gan Gyfeillion y Ddaear (FOE) ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS).
Rydw i eisiau mynd â chi’n ôl i’r cyfnod pan wnes i ddechrau ymgyrchu dros yr amgylchedd. Roedd yn un o fy nyddiau cyntaf i yn y Chweched Dosbarth pan gawson ni ffair gyfoethogi i ddewis clybiau a chymdeithasau oedd o ddiddordeb i ni. Cafodd fy llygaid i eu denu yn syth at aelod o staff FOE oedd yn gwisgo gwisg felen enfawr fel haul. Doedd dim posib ei fethu; roedd mor fawr! Fe gofrestrais i gyda My World My Home, nid dim ond am y cymhwyster mewn ymgyrchu cymunedol, y trip preswyl a’r pwyntiau UCAS, ond yn syml am fy mod i’n poeni am yr amgylchedd ac eisiau gwneud rhywbeth ynghylch hynny.   
Mae prosiect My World My Home wedi’i leoli yn Llundain, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Cymru a De Orllewin Lloegr. Mewn blwyddyn gron, mae’n cynllunio ac yn trefnu ymgyrch gymunedol leol sy’n gwneud newid gwirioneddol er lles yr amgylchedd. Er enghraifft, yn ystod fy mlwyddyn i, fe wnaethon ni benderfynu brwydro (drwy ymgynghori â’r myfyrwyr yn y coleg) dros finiau ailgylchu yn ein holl ystafelloedd dosbarth. Y flwyddyn cyn hynny ymgyrchodd y myfyrwyr dros gael paneli solar a bylbiau golau arbed ynni ar gyfer ein coleg. Gyda’n ffocws ar wastraff plastig, fe wnaethon ni lwyddo i gael cyfarfod gyda’r Cynghorydd Claudia Webbe, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, ac fe lofnododd hi ein haddewid ynghylch plastig a thrafod ffyrdd o gael gwared ar blastig defnydd sengl gyda ni yn ein coleg.
Fel unrhyw ymgyrch, doedd pethau ddim yn rhwydd. Roedd cyfnodau o fod eisiau rhoi’r ffidil yn y to, o feddwl nad oedd yn mynd i unman ac roedd unrhyw gynnydd roedden ni’n ei wneud yn cael ei ddifetha’n aml gan rwystr arall. Ond, o edrych yn ôl, dydw i ddim yn meddwl amdani fel ymgyrch aflwyddiannus. Mae’n hawdd iawn mesur llwyddiant ar sail niferoedd, ond rydw i’n meddwl bod pethau’n fwy abstract na hynny. Fe wnaethon ni lwyddo i ddatblygu ein hunan-hyder, ein gallu i siarad yn gyhoeddus, a’n gallu i drafod a chynnal cyfarfodydd gyda phobl mewn pŵer. Fe wnaethon ni ddysgu bod y pŵer yn ein coleg ni’n fwy anodd na’r disgwyl gan nad oedd gan Gyfarwyddwr y coleg gymaint o bŵer i wneud penderfyniadau ag yr oedden ni wedi’i feddwl. Er hynny, fe wnaethon ni ddyfalbarhau i’r diwedd un i ddod o hyd i ffordd o oresgyn ein rhwystrau. Ac i mi, roedd hynny’n llwyddiant ynddo’i hun.
Mae My World My Home yn bennod bwysig yn fy mywyd i. Fe roddodd i mi ac i lawer o fyfyrwyr eraill lwyfan yr oedden ni wir ei angen i ymwneud ag ymgyrch amgylcheddol. Fel pobl ifanc, dydyn ni ddim yn gwybod ble i ddechrau yn aml, na beth sydd allan yna i ymwneud ag o, ond fe wnaeth My World My Home ddarparu sylfaen yn sicr. Ers hynny, rydw i wedi dod yn gynrychiolydd My World My Home ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future.
Mae My World My Home yn un o 31 o brosiectau sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio Our Bright Future, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae Our Bright Future yn bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan yr Ymddiriedolaethau Natur ac mae’r prosiectau’n dod â’r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd. Mae bod yn rhan o rwydwaith mawr fel Our Bright Future wedi bod yn gyfle anhygoel i mi rannu a thrafod syniadau gyda phobl ifanc debyg i mi, i wneud ein dyfodol yn fwy disglair ac i arwain newid cynyddol yn ein cymunedau a’n hamgylchedd lleol.                    
Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi penderfynu ar dri nod i’n hymgyrch:
  1. Treulio mwy o amser yn dysgu am fyd natur: Rydyn ni eisiau gweld ysgolion yn cael cyfarwyddyd sy’n dweud y dylid treulio o leiaf awr y dydd yn cael gwersi yn yr awyr agored.                   
  2. Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol: Rydyn ni eisiau gweld cynllun swyddi newydd yn y dyfodol sy’n galluogi’r sector amgylcheddol i gefnogi pobl ifanc i gael gyrfaoedd amgylcheddol, cadwriaethol, garddwriaethol ac eraill.          
  3. Y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a’r amgylchedd: Rydyn ni eisiau gweld lle i bobl ifanc gael eu clywed a chyfle iddynt chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas. Felly, rydyn ni’n galw am y canlynol:
  • Penodi Gweinidog Ieuenctid newydd, i gydlynu gwaith y Llywodraeth i gefnogi pobl ifanc ac i’n helpu ni i ymwneud â gwleidyddiaeth
  • Cyflwyno bwrdd cynghori ieuenctid ym mhob adran yn y Llywodraeth
  • Blaenoriaethu ymgysylltu ag ieuenctid; rhywbeth mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn arwain y ffordd gydag ef, fel rydw i’n gwybod o’m profiad fy hun gyda My World My Home!
Fe gawsom ni ein seminar flynyddol yn Belfast fis diwethaf ac roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl amrywiol mewn un ystafell, yn cydweithio i wneud ein hamgylchedd yn lle gwell. Roedd aelodau o’r Fforwm Ieuenctid, aelodau o’r Grŵp Llywio a’r Panel Gwerthuso yno ac mae’n dangos bod posib i bobl ifanc a hŷn gydweithredu er mwyn creu newid positif – y cyfan sydd ei angen yw llwyfan i wneud hynny.           
Cofiwch ’mod i’n siarad o bersbectif un prosiect: mae 31 i gyd ledled y DU. Mae miloedd o bobl ifanc wedi ymwneud ag Our Bright Future dros y blynyddoedd ac mae cymaint o brosiectau anhygoel, cymysgedd wirioneddol o ymgyrchu ymarferol a chymunedol gyda llais ieuenctid. I enwi dim ond rhai, mae gennym ni’r Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol yn UpRising, Student Eats gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Green Futures gan Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog.      
Cyn My World My Home, roeddwn i’n arfer meddwl nad oedd posib i un person newid y byd. Un person! Does bosib! Roeddwn i’n arfer meddwl nad oedd gan bobl ifanc lais yn ein cymdeithas ni. Dim pŵer. Rydw i’n mynd i ddweud dau air: Greta Thunberg. Dyna’r cyfan sydd angen i mi ei ddweud. Ond fe wnes i siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dair wythnos yn ôl. Fi, sydd â’r holl ‘rwystrau cymdeithasol’ yn fy erbyn i yn anffodus: rydw i’n 18 oed, yn fenyw, yn berson lliw ac rydw i’n dod o ardal hanesyddol ddifreintiedig o Lundain. Ond rywsut, fe wnes i lwyddo i siarad yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn gofyn i’r gwleidyddion yma pam nad ydyn nhw wedi gwneud digon i atal y bygythiad mwyaf i’n planed ni: argyfwng yr hinsawdd!
Fe ddefnyddiodd Caroline Lucas gyfatebiaeth wych yn ei haraith a ddilynodd fy araith i ac rydw i’n mynd i’w dwyn hi a’i rhannu gyda chi i gyd. Fe ddywedodd hi, pe bai eich tŷ chi ar dân nawr, ’fyddech chi ddim yn ffonio’r frigâd dân a dweud wrthyn nhw am ddod mewn 30 mlynedd. Fe fyddech chi eisiau iddyn nhw ddod ar unwaith yn byddech? Felly pam nad ydyn ni’n dweud yr un peth am ein hargyfwng hinsawdd presennol ni. 2050 yw’r flwyddyn mae Llywodraeth y DU wedi’i phennu ar gyfer cyrraedd y target sero net. Ond, yn fy marn i, mae hynny’n llawer rhy hwyr. Mae gan y DU ddyletswydd foesol i fod yn sero net cyn gynted â phosib, o ystyried y cyfrifoldeb hanesyddol enfawr sydd gan y DU a gwledydd cyfoethog eraill am allyriadau sy’n newid yr hinsawdd – tra mae’r gwledydd sydd wedi cyfrannu’r allyriadau lleiaf yn dioddef mwy na neb.
Byddaf yn parhau i frwydro dros achub ein planed ni, nid yn unig er mwyn fy nghenhedlaeth i, ond er mwyn fy nheulu i sy’n byw ym Mangladesh ac sy’n wynebu risg eithriadol o weld eu gwlad yn diflannu’n llwyr oherwydd argyfwng yr hinsawdd. Fe fues i mewn sgwrs gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ychydig wythnosau’n ôl, sef ‘Heriau Newid Hinsawdd: gwersi o Fangladesh’. Roedd panel o siaradwyr o Fangladesh yno ac fe wnaethon nhw gyflwyno eu gwlad mewn golau newydd. Yn aml iawn, rydyn ni’n tynnu sylw at Fangladesh fel gwlad sy’n dioddef o newid hinsawdd ond, y tro yma, fe wnaethon nhw ei dangos fel gwlad sydd â llawer i’w gynnig o ran addasu a lliniaru. Fe wnaeth i mi feddwl; os yw Bangladesh yn dod o hyd i ddatrysiadau llywodraethol brys ac yn mynd ati i’w gweithredu, beth am Brydain hefyd? Fe ofynnodd yr Athro Syr David King gwestiwn eithriadol bwerus i gynulleidfa’r sgwrs y diwrnod hwnnw. Meddai: ‘’fyddech chi’n mentro’ch lwc 50% gyda dyfodol dynoliaeth?’.
Rydw i eisiau gorffen ar nodyn ychydig bach yn fwy calonogol a phositif a llongyfarch yr holl brosiectau cymunedol ledled y DU am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud. Rydw i eisiau pwysleisio bod cyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn hynod fuddiol ac yn hanfodol i’r symud positif tuag at warchod ein hamgylchedd ni, meithrin ein byd natur a chyflwyno llais pobl ifanc. Rydw i wir yn gobeithio y gallwn ni barhau i fynd i’r cyfeiriad iawn, ac mai dim ond dechrau yw hyn.