Peidiwch â gor-wneud pethau gyda’r tinsel! Mae Melanie, 24 oed, yn Brentis gydag Ymddiriedolaeth Natur Cumbria drwy gyfrwng prosiect Green Futures Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog (YDMT). Mae hi’n gwneud Nadolig eco-gyfeillgar yn haws nag ydych chi’n ei feddwl.
 Fy nghyngor doeth i ar gyfer anrhegion Nadolig moesegol:
  1. Prynu yn lleol: mae hyn yn golygu nad oes raid i’n cynhyrchion ni deithio mor bell ac wedyn mae’r ôl troed carbon yn llai. Mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol; pawb ar eu hennill!
  2. Ystyried cynaliadwyedd yr anrheg: mae cymaint o opsiynau cynaliadwy gwych i’w hystyried wrth ddewis anrheg. Beth am hamper harddwch dim plastig; fflasg ailddefnyddiadwy; neu brofiad efallai?
  3. Peidio â phrynu er mwyn prynu: mae rhai pobl yn syrthio i’r trap o ‘mwy yn fwy’; maen nhw’n prynu llawer o anrhegion ar gyfer un person, sydd ddim yn defnyddio’r holl anrhegion wedyn. Yn lle hynny, ystyriwch brynu un anrheg y gall y sawl sy’n ei dderbyn ei gadw am flynyddoedd i ddod. Mae hyn yn rhatach ac yn llawer mwy personol fel rheol (ac yn cael ei werthfawrogi mwy!) Rhowch amser i feddwl am beth rydych chi eisiau ei roi.
  4. Creu pethau os ydi hynny’n bosib: Rydw i’n gwneud hamperi bob blwyddyn, gyda chyffyrddiad personol yn addas i’r bobl sy’n eu derbyn. Fel rhywun sy’n hoff iawn o garamel, rydw i’n hoffi gwneud teisennau brau miliwnydd, neu os ydi pobl yn hoff iawn o gnau, rydw i’n gwneud Florentines. Rydych chi’n deall beth sydd gen i…
Drwy brosiect Green Futures Our Bright Future yn YDMT, ar hyn o bryd rydw i’n gwneud prentisiaeth. Mae gan Green Futures lawer o gyfleoedd gwych i bobl ifanc i ysbrydoli a grymuso newid amgylcheddol positif. Mae’r tîm yn YDMT yn eithriadol frwdfrydig a chefnogol ac rydw i wedi cael cyfle i wneud cymaint o bethau anhygoel.         
Un o’r cyfleoedd mae YDMT yn eu cynnig yw’r Gronfa Weithredu Amgylcheddol i Ieuenctid (YEAF), sy’n darparu cyllid a chefnogaeth i bobl ifanc i sefydlu a chyflwyno prosiectau amgylcheddol ar raddfa fechan. Gall hyn fod yn unrhyw beth sy’n gweithio i wella’r amgylchedd naturiol lleol, neu rywbeth sy’n ceisio datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn cymunedau lleol. Fe wnes i gais am gyllid drwy YEAF ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nghymeradwyo i redeg marchnad Nadolig gynaliadwy yn Settle yng Ngogledd Sir Efrog.    
Rydw i’n credu y dylai’r Nadolig fod am dreulio amser gyda ffrindiau, nid prynu gwastraffus. Rydw i hefyd yn credu bod y Nadolig yn amser perffaith o’r flwyddyn i gefnogi’r gymuned, yn ogystal â’r amgylchedd, drwy brynu yn lleol. Fy ngweledigaeth i ar gyfer y farchnad Nadolig oedd arddangos busnesau lleol bach sy’n gwerthu cynhyrchion cynaliadwy. Roeddwn i eisiau darparu llwyfan i ddangos i’r gymuned leol pa opsiynau ychwanegol sydd ar gael wrth ystyried anrhegion Nadolig cynaliadwy, ac annog pobl i gefnogi busnesau lleol.                 
Fe ddaeth cymaint o fusnesau anhygoel i’r farchnad gydag amrywiaeth enfawr o gynhyrchion gwych. Roedd dillad plant organig; deunyddiau cotwm ailddefnyddiadwy; cynhyrchion harddwch dim plastig; jin wedi’i gynhyrchu yn lleol; addurniadau Nadolig cartref a chwmni eco-argraffu lleol, i enwi dim ond rhai. Fe ddaeth mwy na 500 o ymwelwyr a disgrifiwyd y digwyddiad gan un o’r ymwelwyr fel ‘ffair Nadoligaidd wych’. Rydw i’n meddwl y gallaf i ddweud yn hyderus bod y farchnad Nadolig yn llwyddiant enfawr!
Roedd cynllunio’r digwyddiad yn brofiad mor wych ac fe wnaeth fy herio i yn fawr. Roedd y broses gyfan yn brofiad pleserus ac roeddwn i’n teimlo llawer o falchder o fod wedi trefnu digwyddiad wnaeth annog mwy o bobl i siopa yn lleol ac yn gynaliadwy. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r YEAF am roi cyfle i mi redeg fy mhrosiect fy hun! Fy hoff ran i yn y gwaith o gynllunio’r farchnad Nadolig oedd dod â chymaint o fusnesau lleol anhygoel at ei gilydd a’u gweld nhw’n ysbrydoli pobl leol i fod yn fwy cynaliadwy wrth ystyried anrhegion Nadolig perffaith.