Roedd 2020 yn flwyddyn arbennig o heriol i bawb, ond wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn, rydw i mor falch o faint mae’r rhaglen wedi llwyddo i’w gyflawni.
Dechreuodd y flwyddyn yn dda gyda digwyddiad llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon lle cyfarfu 40 o bobl ifanc o Ulster Wildlife a Phartneriaeth Bryniau Belfast â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol i lunio strategaeth amgylcheddol gyntaf erioed Gogledd Iwerddon. Croesawyd Youth Cymru, Ulster Wildlife a YouthLink Scotland yn rhan o’r rhaglen ac maent yn ein helpu i ymgorffori’r Tri Chais yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau ym mis Mawrth, rhoddwyd llawer o staff ar ffyrlo, dechreuodd pawb weithio gartref ac am sawl wythnos addasodd pawb i ‘normal’ newydd. Diolch i hyblygrwydd a chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymatebodd y prosiectau’n gyflym, gan symud llawer o weithgareddau ar-lein a datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â phobl ifanc. Nododd llawer o brosiectau eu bod yn ymgysylltu mwy gan fod gweithgarwch ar-lein yn caniatáu iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i’w cwmpas daearyddol. Symudodd cyrsiau cadw gwenyn ar-lein, lansiwyd cystadleuaeth garddio gan ddefnyddio Minecraft fel platfform, cynhaliwyd uwchgynadleddau ieuenctid ar-lein ac roedd defnydd arloesol o Facebook Live a gweithgarwch ymgysylltu â thema’n caniatáu i brosiectau barhau i gyflawni mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen ddeuddeg mis yn ôl.
Roedd ethos y rhaglen Rhannu Dysgu Gwella yn hanfodol, wrth i brosiectau fynd i’r afael â heriau Covid-19. Trefnwyd gweminarau ‘Cadw mewn Cysylltiad’ rheolaidd i staff rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd ar gyfer cyflwyno ar-lein a gweithio o dan amodau Covid-19. Mae tudalen adnoddau newydd ein gwefan ni’n arddangos y canllawiau arfer da rydym wedi’u cynhyrchu, gan gynnwys ‘cyngor doeth ar gyfer gweithio o dan amodau Covid-19’ ac mae digon o ganllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer 2021!
Anfonwyd llythyr gennym at y Pwyllgor Dethol ar Addysg i ofyn am ymchwiliad i rôl hanfodol dysgu yn yr awyr agored o ran hybu cyrhaeddiad, gwydnwch a lles plant. Rhannwyd y llythyr yn eang gyda’r cyfryngau i godi ymwybyddiaeth ac i ysgogi’r cyhoedd ac arweiniodd at gyfweliadau gyda The Independent a Sky News. Er mwyn cefnogi pobl ifanc i gael swydd yn y sector amgylcheddol, cyhoeddwyd adroddiad gennym i ddangos tystiolaeth o sut gall prosiectau amgylcheddol gynnig atebion i fynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc a’r argyfwng natur.
Cafwyd rhai enghreifftiau gwych hefyd o sefydliadau’n cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau: ymunodd dau o gyfranogwyr Our Bright Future â Bwrdd Cynghori Ieuenctid newydd Cronfeydd Cymunedol y Loteri Genedlaethol. Penodwyd un cyfranogwr CSE blaenorol yn un o Lysgenhadon Ieuenctid cyntaf y WWF. Hefyd fe wnaeth Cyfeillion y Ddaear ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerhirfryn gynnwys pobl ifanc yn eu prosesau cyfweld ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol.
Cynhaliwyd digwyddiadau llwyddiannus ar-lein gennym hefyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, UK Youth 4 Nature, RSPB a Groundwork. Yn ogystal, creodd y Fforwm Ieuenctid gyfres o weminarau’r cyfyngiadau symud – roedd hyn nid yn unig yn rhoi cyfle iddynt rannu eu hangerdd ond hefyd ymarfer sgiliau siarad a chyflwyno cyhoeddus. Mae recordiadau o’r holl ddigwyddiadau hyn ar gael ar ein sianel YouTube.
Roedd 2020 yn flwyddyn o heriau, newid a digwyddiadau annisgwyl digynsail ac mae 2021 yn debygol o gynnwys ansicrwydd parhaus. Fodd bynnag, rwy’n hyderus y bydd Our Bright Future yn parhau i wynebu’r her.
Cath Hare: Pennaeth Grantiau