Helo! Fy enw i yw Patrycja Bialecka ac fe wnes i gymryd rhan yng Nghynllun Hyfforddi Ein Glannau Gwyllt yn 2020.
Rydw i’n fyfyrwraig yn fy nhrydedd flwyddyn, yn astudio Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, acrydw i’n caru popeth am fyd natur. Mynd i gerdded neu nofio, gwaith cadwraeth neu drin anifeiliaid – rydw i wrth fy modd! Felly doedd ymuno â Chynllun Hyfforddi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ddim yn benderfyniad anodd. Gan fy mod i’n nesáu at fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol, rydw i wedi treulio oriau lawer yn meddwl am beth i’w wneud ar ôl graddio, a dyna pam y tynnodd y cynllun hyfforddi fy sylw.
Roedd yn addo amrywiaeth o weithgareddau a chyfle i ennill llawer o sgiliau ac roeddwn i’n gobeithio y byddai’n tanio rhai syniadau am lwybr gyrfa y byddwn eisiau ei ddilyn efallai. Ac fe wnaeth! Roeddwn i wrth fy modd yn cael cwrdd â holl staff YNGC a Llyn Parc Mawr, gan siarad gyda nhw am eu gyrfaoedd, ac fe wnaeth fy helpu i benderfynu fy mod innau hefyd eisiau dilyn yn ôl eu troed a rhoi cynnig ar fy lwc yn y sector cyfathrebu gwyddoniaeth.
Ochr yn ochr â hynny, roedd pob diwrnod yn llawn gweithgareddau newydd yn amrywio o archwilio pyllau creigiog i hyfforddiant cymorth cyntaf, felly ar ôl pythefnos yn llawn hwyl, roeddwn i wedi cael llawer iawn o brofiadau a sgiliau newydd i’w cyflwyno ar fy CV, a fydd yn fy helpu pan fyddaf yn chwilio am brofiadau pellach neu waith y flwyddyn nesaf hyd yn oed. Fe wnes i fwynhau’r sesiynau chwilio am fwyd ac adnabod rhywogaethau yn arbennig, gan fy mod i wastad wedi bod â ddiddordeb mawr mewn bwyta bwyd gwyllt a gwybod pa rywogaethau rydw i’n eu gweld pan fyddaf yn mynd allan i gerdded ac ar anturiaethau.
Nid dim ond ar gyfer pobl fel fi sydd eisiau dilyn gyrfa’n ymwneud â byd natur mae’r math yma o brofiad. Fel rydyn ni i gyd wedi sylweddoli yn ystod y pandemig yma, mae bod y tu allan yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles ni, felly mae’n bwysig cynnal llefydd fel Llyn Parc Mawr, sy’n darparu gwasanaeth amhrisiadwy i bawb yn yr ardal yn fy marn i. Rydyn ni i gyd yn gyfrifol am gynnal y llefydd gwyrdd yma. Fe allwch chi ddechrau drwy ddim ond codi sbwriel rydych chi’n ei weld ac atal plastigau rhag mynd i’r cynefinoedd yma rydyn ni’n eu mwynhau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi herio fy hun gyda ffordd o fyw ddiwastraff drwy leihau fy ngwastraff oherwydd hyd yn oed wrth ailgylchu a chasglu sbwriel, mae sbwriel yn dal i gyrraedd yr amgylchedd ac mae nid yn unig yn niweidiol i fywyd gwyllt ond hefyd nid yw’n braf i edrych arno ac nid dyma sut rydyn ni eisiau mwynhau ein tirwedd naturiol. Felly, wrth fynd i gerdded y tro nesaf yn eich parc bywyd gwyllt lleol, codwch rywfaint o sbwriel. Bydd yn cymryd 2 eiliad i chi, ond i wiwer neu ddraenog, fe all eich gweithred achub eu bywyd.