Mae’r blog yma wedi’i ysgrifennu gan Gemma, merch 16 oed o Gaerefrog sy’n Gynrychiolydd ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n rhoi ei barn ar sut mae dŵr wedi effeithio ar ble mae’n byw a’r atebion yn y dyfodol a allai helpu Caerefrog i addasu i lefelau afonydd uwch.
Dŵr. Mae dŵr yn sylwedd rydym yn ei ddiystyru a’i anwybyddu yn aml ond gall fod yn ffynhonnell bywyd ei hun neu’n ffynhonnell trasiedi a thristwch mawr.
Mae dinas Caerefrog yng ngogledd Lloegr wedi’i hadeiladu o amgylch Afon Ouse sy’n llifo drwy ganol y ddinas. Mae perthynas y ddinas â’r afon wedi bod yn un ofidus ers 1263 fel mae cofnodion yn dangos, ond wrth i amser fynd heibio, daeth dinas Caerefrog yn fwy parod i ymladd yn erbyn y llifddwr. Gwnaed llawer o amddiffynfeydd rhag llifogydd ac i ddiogelu Afon Ouse dros y blynyddoedd. Digwyddodd llifogydd mwyaf y ganrif yn 2000 pan gododd dŵr yr afon i 5.5 metr yn uwch na’i huchder arferol gan greu llifogydd mewn 540 o adeiladau a dod â’r ddinas i stop am 3 diwrnod.
Fodd bynnag, efallai mai’r llifogydd sydd wedi aros yng nghof y bobl ifanc sy’n byw yng Nghaerefrog fwyaf yw llifogydd Dydd San Steffan 2015 a greodd cymaint o ddinistr i bobl Caerefrog. Cododd Afon Ouse i 5.2 metr yn uwch na’i huchder yn ystod yr haf a dioddefodd 500 o gartrefi lifogydd. Roedd hyn yn golygu bod mwy na 300 o bobl wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefi neu fod yn barod i wneud hynny ac roedd angen llety dros dro ar gyfer mwy na chant o bobl ledled Caerefrog. Nid oedd llawer o bobl yng Nghaerefrog heb eu heffeithio gan y llifogydd, o’r bobl wnaeth orfod gadael eu cartrefi i fusnesau a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y llifogydd, a staff a chleifion a oedd yn ei chael yn anodd teithio i Ysbyty Caerefrog ac oddi yno, a’r teuluoedd a’r ffrindiau a effeithiwyd. Sefydlwyd ymholiad lleol ar ôl y llifogydd gyda chynlluniau i wella ymateb, addysg a rhwystrau lleol rhag i lifogydd ddigwydd eto. Ymwelodd David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, â Chaerefrog ac addawodd £40 miliwn ychwanegol i frwydro yn erbyn y llifogydd a helpu gydag amddiffynfeydd yng Nghaerefrog a Sir Efrog.
Yn anffodus, nid oedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerefrog yn anghyffredin oherwydd tua diwedd 2015 cafodd sawl rhan o ogledd Lloegr lifogydd. I drigolion Caerefrog, mae glaw trwm bob amser yn destun pryder; i fusnesau lleol o amgylch yr afon, roedd 2020 yn flwyddyn anodd ar ôl i rai gael eu gorfodi i gau, neu fod ar eu gwyliadwraeth. Roedd hyn oherwydd llifogydd ysgafn ym mis Chwefror oherwydd storm Dennis, a’r cyfyngiadau symud cenedlaethol a ddilynodd ym mis Mawrth. Ym mis Ionawr 2021, gwelodd Caerefrog fwy o lifogydd a phroblemau ar ôl i Afon Ouse godi eto i 4.64 metr. Mae cyllid pellach o £2 miliwn yn cael ei ystyried ar gyfer cynllun amddiffyn rhag llifogydd. Daw hyn ar ôl i drigolion ardal Ffordd Fordland a Chilgant Fordland orfod defnyddio cerbydau 4X4 i gyrraedd yr ysgol, gwaith a’u cartrefi oherwydd glaw trwm. Byddai’r cyllid cynyddol yn golygu bod y wal atal llifogydd bresennol yn cael ei hymestyn yn ogystal â gosod fflap falf newydd yng nghwlfert Germany Beck ac adeiladu gorsaf bwmpio newydd.
I ddinas Caerefrog a llawer o ddinasoedd eraill yng ngogledd Lloegr, yn ogystal â gweddill y DU, mae amddiffynfeydd da rhag llifogydd yn anghenraid. Mae bywydau pobl a busnesau lleol yn parhau i gael eu heffeithio gan lifogydd mewn ffyrdd digynsail, sy’n achosi straen a phryder i gymunedau cyfan. Mae llawer o ddadleuon am yr achosion a’r atebion i’r llifogydd. Mae llawer yn amau’r syniad mai newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang yw’r broblem, gydag awgrymiadau i wella coetiroedd a gwlybdiroedd er mwyn lleihau dŵr ffo. Mae’n ymddangos mai amddiffynfeydd peirianyddol rhag llifogydd yw’r dull o reoli llifogydd sy’n cael ei ffafrio yn gyson, ond maent yn ddrud a phur anaml maent yn gwella agweddau ecolegol ar goridorau afon yn ôl astudiaeth Forest Research o liniaru perygl llifogydd. Erbyn hyn mae awgrymiadau bod coetiroedd gorlifdir a phriddoedd sy’n dal lleithder yn lliniaru llifogydd i lawr yr afon wrth iddynt amsugno dŵr yn well. Fodd bynnag, mae llawer o briddoedd yn cael eu cywasgu gan beiriannau ac anifeiliaid fferm ac felly maent yn ei chael yn anodd amsugno dŵr.
Mae cynghorau lleol ac asiantaethau cefnogi yn gwneud cymaint o waith er mwyn amddiffyn rhag llifogydd a pharatoi ar gyfer hynny, er mwyn sicrhau bod eu dinasyddion yn ddiogel, er gwaethaf cyllidebau prin. Fodd bynnag, mae lle i lawer o welliant yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghaerefrog a gogledd Lloegr ac efallai bod angen ymchwil i systemau cost-effeithiol ac effeithiol sy’n gweithio gyda natur nid yn ei herbyn.
Mae un peth yn sicr: wrth i gynhesu byd-eang barhau, bydd ei effeithiau’n cael eu teimlo a’r cymunedau mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef os na fyddwn yn gweithredu. Mae dŵr yn cynrychioli bywyd ei hun ond mae ganddo’r pŵer i’w ddinistrio hefyd. Mae dŵr yn bŵer y mae angen i ni ddysgu byw gydag ef nid yn ei erbyn. Dŵr.
Gobeithio fy mod i wedi eich argyhoeddi chi bod dŵr yn bwnc pwysig iawn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn lleisio eich barn ar reoli dŵr yn y dyfodol a sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed, beth am ymuno â digwyddiad Asiantaeth yr Amgylchedd ar 16 Mawrth, 17:00-19:00 – rhagor o wybodaeth yma.