Ymunodd Alanna â phrosiect Belfast Hills Bright Future yn 2017.

Mae prosiect Our Bright Future wedi helpu i newid fy mywyd i’n ddramatig! Cyn dechrau’r rhaglen roeddwn i newydd roi genedigaeth i fy merch ac roeddwn i’n gweithio’n rhan amser mewn bar. Cyn bo hir, roedd ceisio jyglo bywyd teuluol a shifftiau hwyr y nos yn ormod i mi ac fe wnes i sylweddoli bod angen i mi wneud penderfyniad eithaf drastig.

Fe wnes i ymuno â’r prosiect ac ar unwaith fe wnes i syrthio mewn cariad â phopeth yn ymwneud â’r awyr agored. Helpodd y tîm yn Belfast Hills ni i gyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr o amser, o sgiliau meddal fel gweithio fel tîm, cyfathrebu a hyder, i sgiliau ymarferol fel gweithio gyda gwahanol dŵls a gwarchod mannau naturiol.

Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom ni hefyd gymryd rhan yn Nyfarniad John Muir, ac roedd hyn yn gyfle i ni ennill cymwysterau wrth weithio y tu allan. Fe wnaethom ni ddysgu sgiliau trosglwyddadwy allweddol fel arolygu gan ddefnyddio cic-samplau, trawsluniau ac arolygon gweledol.

Oherwydd y rhaglen yma, fe wnes i sylweddoli pa mor hoff o fyd natur ydw i ac roeddwn i eisiau helpu i warchod a diogelu ein mannau gwyrdd ni. Gyda’r sgiliau a’r cymwysterau wnes i eu hennill fel rhan o’r prosiect, roedd posib wedyn i mi fynd ymlaen a chael swydd warden cynorthwyol gyda’r Ymddiriedolaeth Natur ac rydw i bellach yn helpu i ofalu am rai o’r ardaloedd mwyaf trawiadol a chyfoethog o ran bywyd gwyllt.

Rydw i nawr yn gallu mynd â phobl ifanc fel fi ar deithiau tywys a’u cyflwyno nhw i flodau gwyllt, glöynnod byw neu gacwn, y bydden nhw wedi cerdded heibio iddyn nhw cyn hyn. Heb y rhaglen yma a help Belfast Hills, ’fyddai dim o hyn yn bosib!

Cyn i mi gymryd rhan yn y rhaglen, roeddwn i’n meddwl bod gyrfa mewn cadwraeth yn amhosib, mai dim ond pobl â graddau prifysgol fyddai’n addas. Ond drwy’r rhaglen fe wnes i ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen er mwyn fy helpu i gael swydd wych mewn maes rydw i’n hoff iawn ohono gydag elusen gadwraeth uchel iawn ei pharch.