Mae David Sharrod, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog, yn adrodd ei stori, gan dynnu sylw at bwysigrwydd yr angen am ddarparu cefnogaeth gyda chael swyddi amgylcheddol.

Fy mlog cyntaf i. Wedi dweud hynny, amser maith yn ôl, fe wnes i rywbeth tebyg. Fe ysgrifennais i ddyddiadur ar gyfer papur newydd The Sunday Times am fod yn berson ifanc graddedig di-waith yn ystod cyfnod tywyll. Roedd yn cael ei galw’n “Genhedlaeth Goll”.

Swnio’n gyfarwydd? Mae’r pandemig, diweithdra cynyddol a phobl ifanc yn poeni am eu dyfodol wedi dod ag atgofion dwys yn ôl. Rydw i’n teimlo dros unrhyw rai ohonoch chi sydd yn yr un sefyllfa nawr. ’Alla’ i ddim rhoi cyngor; ond efallai dim ond rhannu rhywfaint o fy stori fy hun a rhywfaint o adlewyrchu, a allai eich helpu chi i feddwl.

1982. Dydw i ddim eisiau rhygnu mlaen am “yr hen ddyddiau tywyll” ond roedd yn teimlo’n ofnadwy; digalon. Yn debyg iawn i’r cyfnod yma. Roedd diweithdra 3 gwaith yn uwch bryd hynny, hyd yn oed yn waeth i bobl ifanc. Roedd y newyddion i gyd yn ddigalon. Rhaniadau dwfn mewn cymdeithas ym “Mhrydain Thatcher”. Adleisiau o BLM gyda therfysgoedd a ddechreuodd yn Brixton a Toxteth ond a ledaenodd i Derby ddiflas hyd yn oed, lle’r oeddwn i. Chwiliwch am “Ghost Town” gan The Specials; dyma gân Rhif Un oedd yn adlewyrchu ysbryd y cyfnod i’r dim. Gyda newid yn yr hinsawdd yn gwmwl uwch ein pen ni heddiw, rhyfel niwclear oedd yn ein poeni ni bryd hynny; roedd llawer o fy ffrindiau’n argyhoeddedig ein bod ni ar drothwy’r apocalyps.

O ran fy mhrofiad personol i, ar ôl gadael cartref i fynd i’r Brifysgol, roedd rhaid i mi fynd â ’nghap yn fy llaw yn ôl at fy rhieni, a threulio 18 mis yno, yn ddi-waith, heb geiniog i fy enw ac yn teimlo’n ynysig iawn. Ac roedd y berthynas deuluol dan straen yn sicr. Nid oedd unrhyw un yn defnyddio geiriau fel lles neu iechyd meddwl bryd hynny, ond fe effeithiodd arna’ i’n arw ac rydw i’n dal i ymgodymu â’r profiad.

’Ddaeth unrhyw beth positif allan o’r profiad? Wel rydw i’n adnabod cân yr adar yn dda iawn ac rydw i’n diolch i Mrs Thatcher am hynny! Fel gyda’r cyfyngiadau symud nawr, gorfodais fy hun i sefydlu trefn ddyddiol; beicio allan i fannau gwyrdd a dysgu a rhestru’n obsesiynol enwau adar a blodau. Rydyn ni’n siarad nawr am les corfforol a meddyliol a phwrpas. Bryd hynny, roeddwn i’n gwybod ei fod yn fy nghadw i rhag llithro i iselder – neu waeth. Daeth yn rhan greiddiol o fy mywyd i; bod yn rhan o fyd natur a’r tymhorau; ffynhonnell o lawenydd gydol oes. Heddiw ddiwethaf, fe gododd sŵn curo Cnocell y Coed fy nghalon i’n fawr iawn.

Hefyd fe ddysgais i barchu a dangos empathi at rôl a bywydau gwahanol pobl eraill, gan gynnwys y rhai rydyn ni bellach yn eu galw’n weithwyr allweddol. Fe wnes i fachu pa bynnag waith oedd ar gael – ambell ddiwrnod neu wythnos, arian parod yn fy llaw yn aml; labro, glanhau toiledau mewn adran damweiniau brys (sôn am agoriad llygad!); warws, ffatri, gwaith gwesty a bar, unrhyw beth. Fe ddysgais i wybodaeth a sgiliau rydw i wedi eu defnyddio yn aml iawn ond, yn bwysicach na hynny, fe wnes i brofi’r balchder o wneud unrhyw dasg yn dda, wrth wasanaethu a helpu pobl eraill; a pha mor arbennig ydi byw mewn cymdeithas amrywiol. Amrywiaeth sy’n gwneud bywyd yn ddifyr.

Fe wnes i wirfoddoli hefyd ac ymuno â grwpiau lleol. Pwrpas eto, ond hefyd roedd bod gydag eraill oedd yn rhannu diddordeb mewn byd natur yn lleihau unigrwydd ac yn rhoi ymdeimlad o bersbectif i mi – yn enwedig gan bobl hŷn; gall dim ond cymysgu gyda’ch cyfoedion fod yn ddwys iawn – hyd yn oed cyn i’r cyfryngau cymdeithasol fodoli. Fel y digwyddodd pethau, roedd gwirfoddoli’n ddefnyddiol iawn i gael swyddi yn nes ymlaen – mae’n edrych yn dda ar unrhyw CV.

Yn y diwedd, fe gefais i le ar gynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y di-waith yn y tymor hir, gan wneud Addysg Amgylcheddol yn Warrington, dan arweiniad bos goleuedig a blaengar, oedd yn gwneud i ni wneud pethau rhyfedd y byddem yn eu galw’n Ysgolion y Goedwig heddiw. Fe wnaethon ni blannu miloedd o goed. Roeddwn i’n hoffi gweithio gyda phlant ac fe arweiniodd hynny at gael cynnig lle ar gwrs hyfforddi athrawon. Er hynny … mewn eiliad wallgof sy’n newid bywyd rhywun, wrth i mi eistedd yn aros i ddechrau ar y cwrs, fe sylweddolais i bod y misoedd caled hynny wedi fy ngwneud i’n benderfynol o wneud rhywbeth gyda fy mywyd oedd wir yn bwysig i mi. Roedd dweud wrth fy rhieni ’mod i’n gwrthod y cynnig ac yn dod adref eto yn “heriol”. Wedyn fe gefais i’r un cyfle hwnnw rydyn ni i gyd ei angen; swydd warden, yn byw allan ar Ynysoedd Farne yn gweithio gydag adar môr, morloi llwyd ac ymwelwyr. Arweiniodd hynny at flynyddoedd lawer o weithio mewn gwarchodfeydd natur ledled y wlad. Contractau byr, cyflog difrifol, profiadau bywyd gwyllt anhygoel, dysgu llawer, byw mewn llefydd gwych, o dŵr o’r 12fed ganrif i dŷ bad achub, a chasgliad hyfryd o hen garafanau’n gollwng dŵr. Ffrindiau newydd ym mhob man a chymaint o chwerthin.

Neidio i heddiw. Rydw i’n dal i geisio newid y byd yn fy ffordd fach fy hun. Rydw i bellach yn Brif Weithredwr elusen amgylcheddol. Rydw i’n dal i wirfoddoli; bellach fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd sawl elusen arall, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur. Rydw i’n ymwneud yn genedlaethol, yn lobïo dros newid yn y senedd ac mewn mannau eraill, rydw i’n mynd ar drywydd arian i wneud pethau da, rydw i’n… wel, a bod yn onest, yn y bôn rydw i’n eistedd mewn cyfarfodydd bob dydd neu’n syllu ar sgrin cyfrifiadur.

Efallai bod hon yn ymddangos fel fy stori ddiflas i, ond roedd cymaint ohonom ni wnaeth fyw drwy’r amser hwnnw. Rydw i’n edrych o gwmpas ac yn gweld faint o arweinwyr yn y byd amgylcheddol a blaengar ehangach, ffrindiau rydw i’n eu hedmygu, ddaeth drwy’r cyfnod hwnnw gyda straeon tebyg sydd wedi mowldio ein barn ni am y byd… A pheidiwch â chael eich twyllo chwaith; oes, mae’n debyg bod gan lawer ohonom ni swyddi “sefydliad” erbyn hyn ond rydyn ni, os rhywbeth, hyd yn oed yn fwy angerddol, neu ddig, am bethau. Rydw i’n cefnogi ymgyrchwyr o’r llinell ochr i raddau helaeth; er un o fy hoff eiliadau i ychydig cyn y cyfyngiadau symud oedd cerdded yn syth allan o gyfarfod yn y Trysorlys yn Whitehall i ymuno am gyfnod byr gyda ffrindiau gydag XR y tu allan i Fanc Lloegr, yn fy siwt o hyd. Efallai bod fy ngwallt i’n britho ond rydw i’n bync yn fy nghalon o hyd!

Yn fwy na dim arall, efallai, fe roddodd y cyfnod hwnnw ymrwymiad dwfn i mi i gefnogi pobl ifanc sydd eisiau newid y byd ond heb allu gweld eu ffordd ymlaen. Mae bod yn rhan fach iawn o sefydlu Our Bright Future ac wedyn cael y fraint (oedd yn codi ofn arna’ i) o’i gadeirio am gyfnod yn un o’r pethau gorau i mi ei wneud erioed. Fel y dywedodd ffrind annwyl pan ddechreuodd y cyfan, ” Our Bright Future ydi’r mudiad rydw i wedi bod yn aros amdano ar hyd fy oes.” Biti na fyddai’n bodoli pan oedd arna’ i ei angen, mae’n cynnig cymaint o gyfleoedd, a rhwydwaith o ffrindiau a chefnogaeth am oes gobeithio, felly cofiwch fanteisio’n llawn arno.

Fe wnes i ddweud na fyddwn i’n rhoi cyngor ond daliwch i gredu; peidiwch ag anobeithio am eich sefyllfa eich hun na chyflwr y byd: dysgwch, helpwch, gofalwch, cydiwch yn unrhyw gefnogaeth a mentora, manteisio ar bob cyfle, yn enwedig y rhai gwallgof sy’n codi ofn, ac yn fwy na dim, cofiwch fwynhau byd natur a’r hyn rydych chi’n ceisio’i wneud er ei les; neu sut gallwch chi rannu’r angerdd hwnnw gyda phobl eraill? ’Alla’ i ddim dweud wrthych chi pa mor falch a diolchgar ydw i, ac iawn, mi wnâi gyfaddef … pa mor eiddigeddus ydw i pan fyddaf yn cwrdd â’r holl bobl ifanc syfrdanol sy’n ymwneud â’r mudiad yma. Rydych chi i gyd yn anhygoel!

Cenhedlaeth Goll felly? NA. Our Bright Future!