Fe wnaeth Emma sy’n 14 oed a’i grŵp sgowtiaid archwilio’r awyr agored, helpu i ddiogelu pryfed a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny!

“Ychydig wythnosau’n ôl yn ein cyfarfod Sgowtiaid fe aethon ni allan i’r tywyllwch, gyda thortshys pen a hetiau gwlân. Fe wnaethon ni rannu’n grwpiau a mynd â thryweli a bylbiau gyda ni. Gan ddefnyddio golau ein tortshys, fe wnaethon ni gloddio’r ddaear. Wedyn, fe wnaethon ni osod bylbiau yn y ddaear yn ofalus a’u rhoi i mewn o dan y pridd. Yn nhywyllwch y nos, fe fuon ni’n gosod planhigion blodau gwyllt o amgylch y gwelyau a’r cafnau. Ond pam oedden ni’n gwneud hyn yn y nos yng ngolau tortsh? Roedd ein catrawd ni, rhif 91 Sgowtiaid Bryste, yn cymryd rhan yn Bulbtober, sy’n brosiect sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Natur Avon ac sy’n ceisio cael llawer o bobl i gysylltu â byd natur drwy blannu bylbiau a blodau gwyllt yn ystod mis Hydref. Bydd popeth wnaethon ni ei blannu’n helpu pryfed i ffynnu ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae 40% o bryfed mewn perygl mawr o ddiflannu. Efallai eich bod chi’n meddwl nad yw hynny’n bwysig; efallai eich bod chi hyd yn oed yn meddwl bod pryfed yn niwsans weithiau, ond mewn gwirionedd mae 70% o’n bwyd ni’n dibynnu ar bryfed ar gyfer peillio, felly mae’n hanfodol eu diogelu nhw!

Mae Bulbtober yn fath o beth mae Sgowtiaid yn hoffi cymryd rhan ynddo, oherwydd rydyn ni wrth ein bodd gyda’r awyr agored ac yn helpu natur. Fe fuon ni’n plannu ar Gomin Ardagh yn Horfield, sy’n lle cyhoeddus anhygoel sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae’n lle llawn byd natur sy’n agored i’r gymuned gyfan ei fwynhau! Roedden ni mor falch o blannu’r bylbiau a’r blodau gwyllt yma, ’allwn ni ddim aros i’w gweld nhw’n blodeuo yn y gwanwyn a gwybod y bydd llawer o bobl yn cael eu mwynhau. Ac wrth gwrs bydd y pryfed hefyd! A dweud y gwir, mae un bylb wnaethon ni ei blannu, y blodyn crocws, yn blodeuo’n gynnar yn y gwanwyn, felly mae’n ffynhonnell fwyd wych i bryfed pan nad oes llawer o ddim byd arall o gwmpas.

Ers ychydig fisoedd rydyn ni fel Sgowtiaid wedi bod yn gorfod cyfarfod y tu allan oherwydd cyfyngiadau Covid. Rydyn ni wedi gwneud y gorau o’r gofod awyr agored ac roedd cymryd rhan yn Bulbtober yn gyfle gwych a wnaeth y gorau o fod y tu allan a gwneud i ni deimlo ein bod ni’n gwneud rhywbeth positif dros ein hamgylchedd. Wrth gwrs, rydyn ni bellach yn ôl dan gyfyngiadau a dim ond yn gallu cyfarfod ar Zoom, ond rydyn ni’n cadw’n bositif ac yn gwybod na fydd yn hir nes gallwn ni ddod at ein gilydd eto. Fel y bylbiau sy’n eistedd yn amyneddgar o dan y pridd yn aros i ddod allan i olau haul y Gwanwyn, rydyn ni hefyd yn bod yn ddewr am y cyfyngiadau symud ac yn gwybod y bydd dyfodol disglair yn blodeuo’n fuan i bob un ohonom ni.”

Diolch i Emma am rannu ei phrofiad ac i’r cannoedd o bobl ifanc sydd wedi plannu bylbiau a blodau gwyllt ar draws Avon.

Mae prosiect Our Bright Future Ymddiriedolaeth Natur Avon wedi bod yn cynnig profiadau, sgiliau a hyfforddiant drwy weithgareddau ymarferol ers dros bedair blynedd ac mae mor falch o fod yn dal i ymgysylltu â’i gymuned gynyddol o gadwraethwyr ifanc. Gyda chymaint o gyfleoedd hwyliog yn cael eu hatal, roedd yn deimlad gwych gallu cynnig gweithgareddau oedd yn galluogi cadw pellter cymdeithasol. Ar adeg pan mae digwyddiadau bywyd mawr yn cael eu troi wyneb i waered; gadael cartref, dechrau yn y Brifysgol, meithrin cyfeillgarwch yn yr ysgol a thrwy Sgowtiaid a chlybiau ieuenctid, roedd Ymddiriedolaeth Natur Avon yn gallu cynnig rhywbeth cyffrous i gadw’r cysylltiadau hynny’n fyw.