Ysgrifennwyd y blog yma gan Rebecca, myfyrwraig Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth Amgylcheddol 21 oed a Chynrychiolydd Fforwm Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Avon ac Our Bright Future.

Beth sy’n dod i’r meddwl pan fyddwch chi’n meddwl am leihau defnydd o ddŵr? Mae’n debyg y byddwch chi’n neidio’n syth at gael cawodydd byrrach, gosod mesuryddion clyfar yn eu lle a diffodd tapiau. Mae’r rhain i gyd yn bwysig wrth gwrs ond ydych chi wedi meddwl am effaith yr hyn sydd ar eich plât neu yn eich wardrob?

Anasawdd yn hytrach na swm

Un peth sy’n cael ei ddiystyru’n aml yn y ddadl am gig a chynnyrch llaeth yw pwysigrwydd da byw i iechyd pridd. Nid bwyta anifeiliaid yw’r broblem gyda bwyta cig a llaeth, ond y ffordd rydyn ni’n magu da byw a faint rydyn ni’n ei fwyta. Un rhan o’r broblem gydag amaethyddiaeth fodern yw bwydo grawn i anifeiliaid. Mae grawn angen adnoddau ychwanegol (dŵr a thir) i dyfu yn y lle cyntaf. Mae grawn da byw yn cael ei wneud yn rheolaidd o gynhyrchion fel soi, sy’n cael ei dyfu yn y trofannau yn aml, yn Ne America fel arfer, sy’n arwain at ddadgoedwigaeth. Mae hyn yn gwneud cynhyrchion anifeiliaid o amaethyddiaeth ddiwydiannol yn fwy beichus o ran defnyddio dŵr a’r blaned. Ond pan rydyn ni’n gadael i dda byw grwydro a bwyta glaswellt, rydyn ni’n dileu’r angen am gynhyrchu grawn ychwanegol. Pan fydd da byw yn cael crwydro’n rhydd, maen nhw’n ychwanegu microbau a maethynnau at y pridd drwy dail sy’n ein helpu ni i gael pridd iach, sy’n hanfodol ar gyfer ein cylch dŵr. Yn gyffredinol, mae angen canolbwyntio ar lai o gig, ond cig o ansawdd gwell, o anifeiliaid sy’n bwydo ar borfa. Mae hyn yn dal i olygu blaenoriaethu llysiau a grawn yn ein deiet, ond gellir bwyta ychydig o gig a chynnyrch llaeth o ansawdd uchel.

Gellir defnyddio ansawdd yn hytrach na swm wrth fwyta bwydydd heb eu prosesu hefyd. Mae bwyta bwydydd cyflawn yn ffordd arall o ofalu amdanoch eich hun a’r blaned. Defnyddir dŵr ychwanegol wrth lanhau, coginio a gwneud pecynnau bwydydd wedi’u prosesu. Felly, drwy ddewis gwneud eich rhai eich hun rydych yn helpu’r blaned.

Llai yn fwy

Nid dim ond bwyd sy’n euog o ddefnyddio dŵr. Mae’r diwydiant ffasiwn yn defnyddio amcangyfrif o 79 biliwn metr ciwbig o ddŵr ffres bob blwyddyn. Byddai hyn yn ddigon i lenwi 32 miliwn o byllau nofio maint Olympaidd (digon o ddŵr i tua hanner poblogaeth y DU gael eu pwll nofio maint Olympaidd eu hunain!). Defnyddir dŵr wrth dyfu a chynhyrchu ffibrau yn ogystal â lliwio dillad. Gall un cilogram o gotwm gymryd cymaint ag 20,000 litr i’w gynhyrchu. O ystyried nad oes dŵr yfed diogel ar gael i 1 o bob 3 o bobl o hyd, sut gallwn ni ddefnyddio cymaint o ddŵr i gynhyrchu dillad nad ydyn ni eu hangen hyd yn oed? (WHO, 2019). Mae môr Aral wedi sychu’n llwyr bron, yn bennaf oherwydd ffermio cotwm dwys. Nid dim ond defnyddio dŵr yw’r broblem, ond hefyd cemegau sy’n cael eu rhyddhau o gynhyrchu dillad sy’n llygru’r system ddŵr.

Fel defnyddwyr, rhaid i ni fynnu bod brandiau’n gwneud eu rhan fel bod pob darn o ddilledyn ar y farchnad wedi’i wneud yn foesegol. Mae digon o ddillad yn y byd eisoes, felly mae’n fater o ailgylchu ac adnewyddu ein ffabrigau, nid amddifadu ein hadnoddau.  Mae angen i ddillad moesegol a chynaliadwy ddod yn safon ofynnol, nid moethusrwydd. Un ffordd y gallwn ni i gyd helpu gyda’r trawsnewid yma yw drwy ofalu am y dillad sydd gennym ni eisoes, prynu’r hyn sydd arnom ei angen yn unig, prynu dillad ail law (Depop, Vinted a siopau vintage ac elusen), cyfnewid dillad gyda ffrindiau, ailgylchu dillad ar ddiwedd eu hoes ac ymgyrchu dros newid.

Dim ond crafu’r wyneb mae’r erthygl yma o ran rhai o’r heriau mae amaethyddiaeth a ffasiwn yn eu cyflwyno i’n system ddŵr. O ran ein system amaethyddol, dim ond rhai enghreifftiau o sut mae’n rhaid i bethau newid yw ansawdd yn hytrach na swm, dileu gwastraff bwyd, bwyta’n dymhorol a symud at arferion adfywio.

Ni all y diwydiant ffasiwn weithredu fel pe bai’r ddaear yn ffynhonnell ddiderfyn o adnoddau. Ni all y system fwyd weithredu fel pe bai bywyd ar y ddaear yn nwydd. Fel defnyddwyr, mae gennych chi’r pŵer i wneud penderfyniadau a fydd yn creu’r system rydych chi eisiau ei gweld. Ydi’r system rydych chi’n credu ynddi’n gweithio o blaid neu yn erbyn ein planed ni? Fel cymdeithas, ein lle ni yw cynnal yr union adnoddau sy’n ein cynnal ni.