Mae Caitlin yn 21 oed ac yn dod o Warrington ac mae’n rhannu ei phrofiad o fod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn.

Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i lawer o bobl, gan effeithio’n arbennig ar iechyd meddwl pobl ifanc. Fel myfyrwraig wedi cymryd blwyddyn fwlch o’r brifysgol, roeddwn i’n ei chael yn anodd delio â’r holl gyfyngiadau. Ond, diolch i Uwchgynhadledd Ieuenctid y Dirwedd Carbon ym mis Awst 2020, cefais wybod am y Cyngor Ieuenctid a chyflwyno fy nghais ar unwaith!

Mae bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid yn ystod y pandemig wedi bod yn brofiad mor bleserus. Roedd cael grŵp o bobl ifanc debyg iawn i mi i siarad gyda nhw, yn ogystal ag achos i’w gefnogi yn ystod cyfnod anodd iawn, yn hynod werthfawr i mi. Rydw i wedi bod yn lwcus i gael profiadau gwych – gan gynnwys dod yn agos at ymddangos ar raglen Calan Gaeaf arbennig Blue Peter i drafod ystlumod! Yn anffodus bu’n rhaid canslo’r ffilmio oherwydd COVID – tro nesaf efallai!

Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o’r cyngor, cefais wybod am y 31 o brosiectau anhygoel ledled y wlad sy’n rhan o Our Bright Future ac yn cefnogi pobl ifanc a’u perthynas â natur, yn enwedig pan fues i yn seminar flynyddol Our Bright Future fel Cynrychiolydd Ieuenctid prosiect ecotherapi anhygoel Ymddiriedolaethau Natur Sir Caerhirfryn, ‘Myplace’. Roedd y digwyddiad ar-lein yma’n eithriadol ysbrydoledig oherwydd weithiau gall bod yn berson ifanc sy’n angerddol am yr amgylchedd fod yn brofiad eithaf ynysig, ond tynnodd y seminar fy sylw i at faint o bobl ifanc eraill yn y DU sy’n frwdfrydig dros gymryd rhan yn eu hamgylcheddau lleol.

Mae fy hyder i wedi gwella’n fawr ers bod yn rhan o’r Cyngor, yn enwedig mewn siarad cyhoeddus. Yn ystod fy amser ar y cyngor, roeddwn i ac ychydig o’r aelodau eraill yn ddigon ffodus i gael siarad gyda Cat Smith, yr AS dros Gaerhirfryn a Fleetwood, am iechyd meddwl a swyddi gwyrdd i bobl ifanc. Gwnaeth y profiad yma i mi sylweddoli bod posib i ni ymgysylltu â’n ASau a dylanwadu arnyn nhw, gan roi hyder i mi gysylltu â fy AS fy hun a siarad am faterion pwysig. Hefyd mae bod yn rhan o’r cyngor wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus am estyn allan at eraill am gyfleoedd – weithiau fe allwn ni deimlo’n lletchwith yn gofyn i eraill am help ond rydw i wedi dysgu bod pobl bob amser yn barod i helpu ac na chewch chi ddim byd heb ofyn!

Rydw i hefyd wedi cael cyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau presennol wrth ysgrifennu blogiau ac ymgyrchu. Roeddwn i wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol yn y gorffennol, ond mae’r Cyngor Ieuenctid wedi fy addysgu i am sut i ymgysylltu â hwy a’u cefnogi’n effeithiol, fel eu hymgyrch 30 wrth 30. Mae’r ymgyrch bwysig yma’n galw am gysylltu o leiaf 30% o’n tir a’n môr a’u diogelu ar gyfer adferiad natur erbyn 2030, ac rydw i’n edrych ymlaen at ei chefnogi gyda fy sgiliau newydd gan y cyngor.

Mae fy amser i’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn a bod ar y cyngor wedi cadarnhau fy angerdd i dros weithio ym maes cadwraeth ac mae’n bendant yn llwybr gyrfa rydw i eisiau ei ddilyn ar ôl gorffen yn y brifysgol. Cefnogi ceisiadau am gyllid, gwneud fideos addysgol a chysylltu ag eraill – dim ond rhai o’r pethau gefais i eu mwynhau tra oeddwn i’n aelod o’r cyngor, a byddaf yn mynd â’r sgiliau gwerthfawr yma ymlaen gyda mi i yrfa.

Rydw i’n hynod ddiolchgar am y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw a’r profiadau rydw i wedi’u cael yn ystod fy amser ar y cyngor ieuenctid, ac rydw i’n gobeithio y bydd aelodau’r dyfodol yn cael profiad mor wych â fi ac yn mwynhau pob cyfle!