Dylai unrhyw raglen bartneriaeth gryfhau ac ychwanegu at bob elfen sy’n rhan ohoni ac mae’n ffaith adnabyddus bod cydweithio mewn partneriaeth fel arfer yn cyflawni mwy na sefydliadau neu brosiectau sy’n gweithio ar wahân. Felly, pan oedd Our Bright Future – un o’r partneriaethau cydweithredol mwyaf i gael ei chyllido drwy Gronfa Gymunedau’r Loteri Genedlaethol – yn cael ei llunio, roedd sut i ffrwyno a chynyddu’r effaith gyfunol yn bwnc llosg! Ond sut? Gyda chonsortiwm rheoli rhaglen cyffredinol o wyth sefydliad a 31 o brosiectau unigol ledled y DU, a llawer ohonynt yn cynnwys partneriaethau â sefydliadau eraill ar eu liwt eu hunain, sut byddem yn meithrin ac yn datblygu ymdeimlad o undod, cydlyniant a dysgu a rennir ar draws y rhaglen?

 

Yr ateb oedd y fframwaith Rhannu Dysgu Gwella (RhDG). Dyma swyddogaeth benodol a gynlluniwyd i hwyluso rhannu gwybodaeth a dysgu i ddatblygu arfer gorau, ychwanegu gwerth at gyflwyno rhaglenni a chryfhau effeithiau a chanlyniadau ar draws y rhaglen Our Bright Future. Mae RhDG yn seiliedig ar ddull dysgu cylchol gan sicrhau adborth ac awgrymiadau gan brosiectau sy’n gweithredu ‘ar lawr gwlad’ ynghyd â mewnbynnau ‘darlun mawr’ o’r swyddogaethau strategol sy’n llywodraethu Our Bright Future fel Grŵp Llywio’r rhaglen. Roedd hyn yn sicrhau dull cyfannol a hyblyg o ymdrin â RhDG. Yn fras roedd y swyddogaeth yn cynnwys pum maes allweddol:

  • seminar ddeuddydd breswyl flynyddol a fynychir gan bob prosiect gan gynnwys staff a phobl ifanc i hyrwyddo llwyddiannau’r rhaglen a’r prosiectau, meithrin perthnasoedd ac annog rhannu gwybodaeth a dysgu gwersi
  • gweithdai wyneb yn wyneb rhanbarthol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn ledled y DU yn canolbwyntio ar faterion penodol gan roi cyfle i brosiectau ddod at ei gilydd ac edrych ar bynciau allweddol yn fanylach
  • gweminarau parhaus i rannu gwahanol ddulliau prosiect o fewn ac y tu allan i Our Bright Future, darparu cyfleoedd hyfforddi ar-lein a darparu lle anffurfiol i brosiectau ddod at ei gilydd a thrafod y materion sy’n bwysig iddynt
  • cymuned ar-lein o’r enw Yr Ystafell Werdd sy’n cynnwys adnoddau a chanllawiau defnyddiol, adran newyddion a diweddariadau prosiect, calendr digwyddiadau a maes trafod
  • Rhwydwaith Cefnogi Prosiectau a’r Gronfa Deithio Ganolog sydd wedi’u cynllunio i gefnogi prosiectau sydd ag arbenigedd a chyllid ychwanegol i fynychu digwyddiadau craidd Our Bright Future neu gynnal ymweliadau cyfnewid prosiectau.

 

Yn dilyn y gwerthusiad canol tymor a gynhaliwyd gan ERS, datblygwyd canllaw arfer da yn seiliedig ar ganfyddiadau a gwersi’r adroddiad gwerthuso a gyhoeddwyd yn 2019. Mae’r canllaw yn cynnwys pwyntiau defnyddiol ac awgrymiadau da ar sut i sefydlu fframwaith RhDG, y mecanweithiau allweddol ar gyfer cyflawni ac effeithiau a chanlyniadau’r dull RhDG. Roedd y pwyntiau a’r adlewyrchu allweddol a ddeilliodd o’r dull hyblyg hwn yn cynnwys y canlynol:

  • roedd cael aelod ymroddedig o staff ar gyfer yr elfen hon o’r rhaglen yn amhrisiadwy
  • mae’n hanfodol i bob sefydliad sy’n gysylltiedig ymgorffori’r fframwaith RhDG mewn rhaglen o’r dechrau un
  • rhaid i RhDG fod yn hyblyg, gallu addasu a bod â dull esblygol o ymateb i anghenion sy’n newid ar draws y rhaglen
  • mae proses effeithiol a pharhaus o ymgynghori, adlewyrchu a gweithredu yn hanfodol
  • rhaid i RhDG weithio i ddileu rhwystrau sy’n atal cyfranogiad drwy ddarparu cymorth ychwanegol fel potiau ariannu canolog, hyfforddiant ac adnoddau
  • rhaid i RhDG sicrhau dull cyfranogol, cynhwysol o weithredu gyda chefnogaeth gan holl swyddogaethau’r rhaglen

 

Mae adborth gan brosiectau ar draws y rhaglen wedi dangos faint maen nhw’n gwerthfawrogi RhDG a’r cymorth mae’n ei ddarparu.

 

“’Fydden ni ddim wedi gallu dysgu amdano mor gyflym. ’Fydden ni ddim wedi addasu [y prosiect] yn yr un ffordd, gyda ffocws amgylcheddol o’r fath na mor gyflym. Mae ein dealltwriaeth o’r economi werdd a chyfleoedd cyflogaeth wedi newid. Rydyn ni wedi trosglwyddo hyn i’n pobl ifanc.”

 

I gael gwybod mwy am y fframwaith RhDG, yr egwyddorion allweddol a’r gweithredu, ewch i’r canllaw arfer gorau.