Mae’r blog yma wedi cael ei ysgrifennu gan Nadiyah, sy’n 22 oed, ac wedi graddio mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol. Mae hi’n aelod newydd o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae gan Nadiyah ddiddordeb mewn materion amgylcheddol ac mae’n awyddus i siarad amdanyn nhw i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yma, mae’n dweud wrthym ni am ei phrofiad o ddysgu yn yr awyr agored a’i fanteision niferus.

Mae dysgu yn yr awyr agored yn ffordd weithredol ac ymarferol o addysgu a dysgu sy’n golygu bod allan yn yr awyr agored. Mae’n trawsnewid y profiad rydych chi’n ei gael o ran dysgu sgiliau newydd lle byddwch yn dysgu sgiliau sut i roi adborth, ymholi, adolygu ac adlewyrchu. Ar ben hynny, mae’n helpu i ddatblygu gwybodaeth am eraill a ni’n hunain, dealltwriaeth o’r pwnc y mae’r plant yn dysgu amdano, yr amgylchedd, yn annog goddefgarwch, cydweithredu, sgiliau gweithio mewn tîm gwych ac empathi. Mae dysgu yn yr awyr agored yn gwneud dysgu’n gorfforol. Gall gynnwys y canlynol:

  • Cynnal arolwg o nifer y cerbydau sy’n gyrru’n ddiogel ar ffordd ar gyfer gwers Mathemateg neu TGCh
  • Creu arbrawf deial haul lle rydych chi’n dod yn ôl ar adegau penodol o’r dydd i ddarganfod y berthynas rhwng yr haul a’r ddaear, a sut mae hynny’n effeithio ar olau
  • Creu a defnyddio map i ddarganfod beth sydd yn eich ardal leol a datblygu sgiliau gwneud a darllen mapiau’r plant

Fel y gwelwch chi, nid oes raid i ddysgu yn yr awyr agored fod yn seiliedig ar natur nac mewn cynefinoedd o ansawdd uchel er mwyn addysgu yn yr awyr agored – y cyfan sydd ei angen yw unigolion awyddus i wneud hynny. Gyda’ch dychymyg a drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein gallwch greu gwers hwyliog a hawdd i’ch myfyrwyr.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae gan Ddysgu yn yr Awyr Agored gymaint o fanteision. Gall sicrhau’r canlynol…

  • Hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol
    • Mae’n amlwg o astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlybdir nad oedd plant tlotach yn awyddus i fod o gwmpas natur o’u cymharu â phlant gwell eu byd, ond ar ôl diwrnod o ddysgu yn yr awyr agored, llwyddwyd i oresgyn y gwahaniaeth yma. Byddai manteision dysgu yn yr awyr agored yn ymddangos yn amlwg ond nid yw llawer o blant, yn enwedig rhai o ardaloedd difreintiedig, yn cael bod mewn amgylchedd naturiol oherwydd ofnau rhieni, cynnydd mewn technoleg ddigidol a diffyg mannau gwyrdd cyfagos.
  • Rhoi hwb i hyder
    • Drwy ganiatáu i’r myfyrwyr oresgyn heriau byddant yn gallu wynebu eu hofnau, eu pryderon a chymryd camau mawr ymlaen o ran eu hyder. Byddant yn meithrin hunanhyder, hunanddibyniaeth ac annibyniaeth. Mae bod yn yr awyr agored yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol drwy waith grŵp strwythuredig. Defnyddir gofal, ymddiriedaeth ac ymwybyddiaeth neu anghenion pobl eraill yn naturiol. Roeddwn i’n gallu wynebu rhai o fy ofnau o bryfed ac ymlusgiaid gan fy mod i’n gwybod mai’r Ardd Bywyd Gwyllt oedd eu cartref ac roeddwn i’n poeni am eu cynefinoedd a’u diogelwch.
  • Hybu cyrhaeddiad addysgol
    • Mae plant yn teimlo’n fwy brwdfrydig wrth ddysgu y tu allan. Mae’r prosiect Natural Connections Demonstration yn brosiect a helpodd blant (yn enwedig o gefndir difreintiedig) i ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol drwy gefnogi athrawon i ddefnyddio’r awyr agored yn ystod gwersi. Erbyn 2016 roedd yn annog 40,000 o ysgolion ledled Lloegr i gymryd rhan mewn dysgu yn yr awyr agored. Dywedodd Rory Stewart, Gweinidog yr Amgylchedd yn 2016, fod y prosiect yn “gwrando ar athrawon, yn gweithio gyda graen ysgol unigol, ac yn gweld sut i gael plant yn yr awyr agored gan wella eu profiad o’r cwricwlwm.” Soniodd un ysgol am adfywiad eu sioe amaethyddol leol. Rhoddwyd arolwg i athrawon, staff eraill a phlant i weld eu barn am ddysgu yn yr awyr agored drwy’r prosiect.

Arolwg gan y Prosiect The Natural Connections Demonstration 2016. Lluniwyd gan Nadiyah.

Drwy dreulio mwy o amser yn y parc roeddwn i’n gwirfoddoli ynddo roedd gen i ddiddordeb yn y gwahanol rywogaethau o goed felly fe luniais i lwybr coed i ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 ei ddilyn yn y parc. Roeddwn i’n teimlo’n greadigol ac fe ddysgais ffeithiau diddorol am rai coed nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyn nhw.

  • Hybu iechyd a lles
    • Rydyn ni’n gwybod bod gordewdra ymhlith plant yn argyfwng yn y DU lle mae tua 30% o blant yn y DU yn cael eu hystyried yn rhy drwm neu’n or-dew. Mae plant a phobl ifanc gor-dew yn debygol o fod yn or-dew fel oedolion ac yn cael clefydau sy’n cynnwys diabetes math 2. Felly, drwy ganiatáu i blant ddysgu yn yr awyr agored, rydym yn cynyddu eu gweithgarwch corfforol, gan helpu i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant. Hefyd, gallwn gefnogi eu lles emosiynol a fydd yn eu galluogi i fwynhau’r byd yn annibynnol. Nid mater i blant yn unig yw hyn, mae treulio amser mewn parciau yn fuddiol iawn i oedolion; i mi, fe wnaeth fy helpu gyda fy iechyd meddwl gan ei fod wedi fy helpu i oresgyn rhai symptomau ADHD. Roeddwn i’n gallu ymlacio mwy ac yn teimlo’n hapusach wrth weithio gyda’r plant ar eu gweithgareddau neu fynd am dro yn y parc.

Fy mhrofiad i

Llwybr Mathemateg:

Fe gefais i gyfle gwych i helpu mewn sesiynau ysgol awyr agored ym Mharc West Ham, Dwyrain Llundain. Fe gymerais i ran mewn sesiwn Llwybr Mathemateg lle’r oeddem wedi gosod 10 cwestiwn o amgylch y parc ac offer amrywiol fel tâp mesur, olwyn fach gyda chownter a rhaff. Roedd rhai o’r cwestiynau’n cynnwys mesur cylchedd boncyff coeden, radiws darn cylchol ar y llawr a pha mor dal yw’r polyn fflag.

Cyfeiriannu:

Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ymarfer cyfeiriannu wrth iddynt ddysgu sut i ddarllen map drwy ei droi i wynebu’r gogledd a defnyddio cwmpawd i wneud hyn. Roedden nhw’n gwrando’n astud iawn ar sut i wneud hyn ac yna’n rhoi cynnig arni eu hunain. Gan ddefnyddio’r map dywedwyd wrthynt am ddod o hyd i’r pwyntiau ar y map ac ateb y cwestiynau pan ddaethant o hyd i’r pwyntiau hynny yn y parc.  Roedden nhw wedi cyffroi ac yn falch ohonyn nhw eu hunain pryd bynnag roedden nhw’n dod o hyd i’r ffon bambŵ gyda’r cwestiynau.

Pysgota pyllau a hela bwystfilod bach:

Dyma oedd fy hoff weithgareddau i. Fe ddysgais i am y rhywogaethau sy’n byw yn y pwll fel larfau gwybed Mai, madfallod dŵr, rhianedd y dŵr, gelenod a mwydod. Roedd gweision y neidr hefyd yn llawn cyffro yn sgil ein hymweliad gan fy mod yn credu eu bod yn hoffi ein harogl. Fe laniodd un ar fy nghoes i! Cafodd y plant gyfle i bysgota mewn pyllau lle dangoswyd iddynt sut i gasglu llawer iawn o rywogaethau yn eu rhwyd yn effeithiol. Cawsant gyfle i ddysgu sgil newydd! Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ofalus i beidio ag amharu ar y rhywogaethau felly roeddent yn dangos gofal a charedigrwydd. Roedden nhw hefyd yn dangos hyn wrth hela bwystfilod bach lle’r oedd angen amynedd a thalu sylw. Gyda’r anifeiliaid tir roedden nhw’n gallu edrych o dan gynefinoedd gwahanol i ddod o hyd i’r anifeiliaid ac roeddent yn defnyddio clai i greu eu bwystfilod bach eu hunain gan ddefnyddio eu sgiliau creadigol.

 

Beth all athrawon ei wneud i ychwanegu dysgu yn yr awyr agored at y cwricwlwm?

Gallant edrych ar lefydd i addysgu yn yr awyr agored yn ogystal â dolenni i syniadau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored isod:

. Forest schools | The Good Schools Guide

Ymuno â’n Rhwydwaith Ysgolion – London National Park City

Gweithgareddau Dysgu yn yr Awyr Agored CA2 – Adnoddau Dysgu yn yr Awyr Agored (twinkl.co.uk)

https://www.outdoor-learning.org/Covid-19/Supporting-Schools-New

https://www.edenproject.com/learn/schools/teacher-training-and-school-development

Mae gan City of London Corporation Swyddogion Dysgu sy’n arwain sesiynau – rwy’n argymell eich bod yn cysylltu â nhw!

 

Gallwch hefyd ychwanegu eich cefnogaeth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored drwy lofnodi e-weithred bwysig Our Bright Future yma.