Stad yn Hammersmith yn Llundain; dydych chi ddim yn disgwyl llawer o wyrdd mewn lle felly. Ond mae’n digwydd. Yn gynharach eleni, fe wnes i gyfarfod pobl ifanc yno a oedd newydd ddechrau hyfforddi gyda Groundwork Llundain. Maen nhw eisoes wedi ei wneud yn lle gwell a mwy diogel i fyw ynddo. Fe ddywedodd un bachgen 17 oed, a oedd newydd ddechrau gweithio gyda Thames Water, wrtha i fod pobl ifanc wir yn poeni am eu hamgylchedd a’u dyfodol. Mae’n cynghori teuluoedd am sut i ddefnyddio dŵr yn fwy gofalus ac arbed arian.
Peter Ainsworth at Groundworks LondonYr amgylchedd yw’r unig le sydd gennym ni, felly mae’n syniad da gofalu amdano – y sgwrsio yn Hammersmith oedd yr union beth roeddwn i’n gobeithio ei glywed wrth i’r Gronfa Loteri Fawr ddechrau ymchwilio i sut gallem ni ddefnyddio £30 miliwn.
Drwy gyfrwng 31 o brosiectau ledled y DU, bydd Ein Dyfodol Disglair yn grymuso pobl ifanc i wneud cyfraniad unigol a thorfol at wneud ein hamgylchedd yn lle hapusach a mwy disglair, gyda mwy o allu i wrthsefyll bygythiadau fel newid hinsawdd a’r gwastraff ar adnoddau naturiol.
Yn y Gronfa Loteri Fawr, rydyn ni eisiau gweld gwell cyswllt rhwng pobl ifanc a’u hamgylchedd lleol a’u gweld yn cael mwy o lais a dylanwad arno. Felly rydw i’n gyffrous gyda’r amrywiaeth o 31 o brosiectau sy’n cael eu harwain gan ieuenctid a fydd yn defnyddio cyllid y Loteri i helpu pobl ifanc i gamu i’r adwy a chreu’r hyn mae ganddyn nhw hawl iddo – planed iach, a hefyd datblygu sgiliau cyflogaeth sy’n hanfodol i dwf yr economi. Dim ond mewn amgylchedd naturiol llwyddiannus y gall yr economi a phobl ffynnu.
Un o’r prosiectau cyntaf i gael ei roi ar waith yw’r Belfast Hills Partnership gyda disgyblion yn dysgu am gylch bywyd yr eog Atlantaidd a phwysigrwydd gofalu am afonydd lleol. Drwy weithgareddau a hyfforddiant, bydd pobl ifanc yn dylunio ac yn rhedeg eu prosiectau amgylcheddol eu hunain ar hyd Afon Colin Glen, gan gynnwys rhyddhau silod mân iddi. Ai’r disgyblion yma fydd pysgotwyr y dyfodol, neu swyddogion rheoli dyfroedd neu benseiri’r tirlun?
Ein huchelgais ni yw y bydd Ein Dyfodol Disglair nid yn unig yn sicrhau budd i unigolion, ond hefyd yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o arweinwyr ifanc i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u hamgylchedd, a gweithio i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy.
Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod mwy o bobl ifanc yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth iddyn nhw ddatblygu eu prosiectau a meithrin sgiliau newydd yn sgil eu hangerdd dros y llefydd maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw.