A dyna ble rydw i nawr, yn gweithio ar un o brosiectau Ein Dyfodol Disglair o’r enw Arfordiroedd Gwyllt Cymru, yn gweithio gyda phobl ifanc ledled Gogledd Cymru i warchod eu hardaloedd lleol. Rydw i’n gwybod bod y gair cadwraeth yn gallu codi ofn arnoch chi ond peidiwch â dychryn! Mae caiacio, snorcelu, arfordiro ac amser yn yr awyr agored i gyd ar fwydlen Arfordiroedd Gwyllt Cymru. Pa well ffordd sydd o ddarganfod y llecyn rydych chi wedi byw ynddo gydol eich oes efallai na bod at eich fferau yn ei ganol?
Rydw i wedi bod yn hoff o fyd natur ers cyn cof. Pan oeddwn i’n bump oed, cefais fynd i lan y môr Llandudno ac fe ddois i o hyd i forgi marw wedi’i olchi ar y lan. Yn anffodus, doedd o heb oroesi ond roeddwn i’n rhyfeddu at y creadur. O ble roedd o wedi dod? Sut roedd yn bwyta’i fwyd? Oedd o’n ymosod ar bobl? Does bosib bod siarcod ym moroedd Gogledd Cymru? Roedd rhaid i mi gael gwybod mwy.
O hynny ymlaen, roeddwn i’n gwybod mai bywyd gwyllt a chadwraeth fyddai fy ngyrfa i ac, yn y diwedd, fe es i ymlaen i wneud gradd mewn bioleg y môr a sŵoleg. Tair blynedd gorau fy mywyd i, yng nghwmni pobl yr un mor frwdfrydig â fi am fyd natur. Cwestiwn cyffredin yn ddyddiol fyddai rhywbeth fel ‘Tybed ydi Gwichiaid yn dychryn pan mae Cregyn Moch Mwyaf yn dechrau ymosod?’
Wrth i fywyd fynd yn ei flaen a minnau’n gweithio at fy ngradd, a’r byd go iawn yn gwmwl ar y gorwel, fe wnes i hefyd ddarganfod angerdd dros waith ieuenctid a chydraddoldeb. Flynyddoedd ynghynt, roeddwn i’n aelod brwd o gyngor ieuenctid fy ysgol a chefais fy ethol yn y diwedd i fod yn gynrychiolydd sirol a chynrychiolydd cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Roedd hon yn siwrnai ffantastig a chefais gymryd rhan yn genedlaethol a chyfarfod pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol cwbl anhygoel. Rhoddodd hyder i mi hefyd i ymgeisio i fod yn brif fachgen yn yr ysgol uwchradd – ymgyrch y gwnes i ei hennill!
Wrth i drydedd flwyddyn fy ngradd nesáu, ac wrth i’m gyrfa mewn gwaith ieuenctid ddechrau ennill momentwm, roeddwn i’n wynebu penderfyniad mawr. Dilyn gyrfa mewn bioleg y môr neu waith ieuenctid? Oherwydd hinsawdd economaidd Gogledd Cymru, fe ddewisais i waith ieuenctid a chael swydd yn syth ar ôl gadael y brifysgol yn gweithio gyda phobl ifanc o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Dyma brofiad anhygoel a chyfle i newid bywydau pobl ifanc ledled Gogledd Cymru – teimlad anodd iawn ei ddisgrifio.
Er hynny, roedd bioleg y môr yn dal ar fy meddwl i a daeth cyfle am swydd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gylchlythyr ar e-bost. Cyfle i gyfuno gwaith ieuenctid a byd natur?! Roedd y swydd yn berffaith ac roedd rhaid i mi fynd amdani. A dyma fi nawr yn gwneud yn union beth roeddwn i wedi breuddwydio amdano.
Os ewch chi ati o ddifrif i wneud rhywbeth, does dim cyfyngiad ar beth allwch chi ei gyflawni, a dyna ydi nod Arfordiroedd Gwyllt Cymru. Rydyn ni yma i hwyluso eich potensial chi fel pobl ifanc i greu newid a chodi allan i’r awyr agored a dysgu sut dylai cadwraeth gael ei wneud – gyda llawer o antur a phrofiadau gwyllt ar hyd y daith. Rydw i wedi dechrau ar fy siwrnai eisoes ac rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n mentro hefyd, ac yn rhoi cychwyn ar eich dyfodol disglair.