Dyma Ruth Hudson, Swyddog Prosiect gyda Growing Confidence, i rannu beth mae hi a’r tîm wedi ei ddysgu am fenter gymdeithasol
Roedd tîm prosiect Growing Confidence Our Bright Future eisiau gweld sut gallai menter gymdeithasol fod o fudd i’r bobl ifanc rydyn ni’n gweithio â nhw. Ond, i ddechrau, roedd rhaid iddyn nhw ddeall mwy am beth yw menter gymdeithasol!
I gael gwybod mwy, fe aethon ni i bencadlys menter gymdeithasol coetir, Wild Rumpus. Fe wnaethon ni eistedd o amgylch y ‘Whirligig’ – seddau lliwgar i griw mawr, gan fwyta a rhannu gofod o amgylch tân gwersylla. Yma fe wnaethon ni ddysgu bod y fenter anhygoel yma wedi datblygu o sgwrs mewn car a bellach, mae Wild Rumpus, ymhlith llawer o bethau eraill, yn cynnal gŵyl gelfyddydol flynyddol Just So i deuluoedd. Mae’r ŵyl yn arddangos y gorau mewn celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, comedi a theatr i deuluoedd mewn tirwedd o lennyrch coetir, parcdir, amffitheatrau a llecynnau ar lan llynnoedd.
Doedd y flwyddyn gyntaf ddim yn hawdd ac roedd pob tocyn a werthwyd yn cynrychioli rhywbeth a allai ychwanegu at yr ŵyl – o archebion cyffrous fel artist newydd i bethau diflasach fel toiledau symudol! Ers yr ŵyl Just So gyntaf, mae Wild Rumpus wedi tyfu fel menter, gan ddefnyddio gofod coetir i gefnogi a meithrin talent artistig.
Cafodd tîm Growing Confidence eu hysbrydoli gan yr ymweliad yma ac roedden nhw’n awyddus i ddod i ddeall mwy am sut gallem ni i gyd gefnogi pobl ifanc yn well i gymryd rhan mewn mentrau cymdeithasol. Aethon ni ati i edrych ar hyn mewn gweithdy dan arweiniad y Plunkett Foundation, a dyma ble daethon ni:
Beth yw menter gymdeithasol?
Yn aml iawn mae syniadau da’n deillio o leoliadau annisgwyl iawn. Bathwyd y term menter gymdeithasol mewn tafarn yn 1997. Ond, mewn gwirionedd, roedd yn bodoli ers peth amser – gydag eglwysi’n esiampl dda … mae hanes yn dangos eu bod nhw’n cynnwys mentrau cymdeithasol yn aml, fel bragdai, oedd yn golygu bod pobl yn gallu gwneud pethau gyda’i gilydd i gefnogi’r gymuned.
Roedd y gweithdy’n cyflwyno disgrifiadau o dri dull o weithio fel menter gymdeithasol:
  1. Mentrau sy’n bodoli i greu elw a rhoi’r elw hwnnw er budd cymdeithasol ee Belux Water
  2. Mentrau cymdeithasol gyda chynhyrchion neu wasanaethau sy’n fudd ynddynt eu hunain ee: FairTrade
  3. Mentrau cymdeithasol sy’n creu pwrpas cymdeithasol wrth ymwneud â nhw, ee: Tafarndai cydweithredol
Sut gallwn ni gefnogi mentrau cymdeithasol?
Gydag unrhyw fenter, mae’n siwrnai. Rhaid i’r uchelgais a’r sbardun ddod oddi wrthyn nhw. Mae Plunkett yn gweld pedwar cam mewn twf menter – Ysbrydoli, Archwilio, Creu, Ffynnu.
Ysbrydoli – Mae’n bwysig rhoi hygrededd i syniadau – “wrth gwrs gallwch chi wneud hyn”. Mae hyn yn rhoi cyfle i edrych ar beth yw eich syniad gwych. Mae hefyd yn golygu estyn allan at bobl a all gefnogi ac ychwanegu at y gwaith.
Archwilio – mae pobl angen lle i archwilio, yn enwedig pobl ifanc. Gall fod yn lle i bobl rannu profiadau’n onest a rhannu syniadau a dysgu oddi wrth fentrau eraill.
Creu – cam deinamig iawn lle mae’r strwythur cyfreithiol, y cyllid a’r marchnata’n digwydd. Pwysig cael timau all gefnogi yn y cam yma.
Ffynnu – Ar ôl sefydlu, mae’n bwysig deall sut i barhau.
Menter gymdeithasol a Growing Confidence
Roedd rhan olaf y gweithdy’n cynnwys mwy o drafod. Gyda Growing Confidence, mae’r sesiynau Ysbrydoli ac Archwilio’n hynod bwysig i’w hystyried ar unwaith, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau, fel bod modd cynnwys eu syniadau mewn sesiynau a chefnogaeth yn y dyfodol.
Felly gydag ymweliad ysbrydoledig a gweithdy cyffrous yn ffres yn ein meddyliau ni o hyd, rydyn ni nawr yn edrych ar sut i ddatblygu hyn a gallu cefnogi pobl ifanc Sir Amwythig yn y ffordd orau i benderfynu a yw menter gymdeithasol ar eu cyfer nhw.
Cadwch lygad am fwy o fanylion …