Andy O’Callaghan, Swyddog Prosiect Ieuenctid gydag Ein Glannau Gwyllt, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Wrth i Ein Glannau Gwyllt baratoi ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc ledled Gogledd Cymru, roedd yn amser i’r gweithwyr datblygu ddechrau baeddu eu dwylo a dod i ddeall sut mae ymddiriedolaeth natur yn mynd ati i warchod ardal er lles bywyd gwyllt a’r gymuned.
Tasg rhif 1 – Ble?
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gofalu am fwy na 30 o warchodfeydd, o lai nag un hectar (llai na sgwâr Trafalgar) i sawl hectar, sy’n gofyn am lawer mwy o bobl i’w rheoli, fel y gallwch ddychmygu. Mae gennym ni swyddogion cadwraeth yn rheoli gwahanol ardaloedd i ofalu am y gwarchodfeydd, a thîm o wirfoddolwyr brwd sy’n rhoi o’u hamser am ddim er mwyn gwarchod bywyd gwyllt.
Fe aeth fy nghydweithiwr a fi allan ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn hyd yma (cyd-ddigwyddiad llwyr, gallaf eich sicrhau chi!), i grwydro drwy ambell warchodfa ar Ynys Môn y bydd Ein Glannau Gwyllt yn eu gwarchod. Aeth y diwrnod â ni i warchodfa enfawr o’r enw Cors Goch, yng ngogledd Ynys Môn. Mae yno dir gwlyb sydd wedi’i warchod yn dda a rhywogaethau rhyfeddol, gan gynnwys pryfed cop gwe twmffat ac adar ysglyfaethus.
Mae’n rhaid gwneud llawer o waith i gynnal y safle, felly dyma dasg rhif 2.
Tasg rhif 2 – Pwy a sut?
Fe gefais i fy mhrofiad cyntaf o gadwraeth yn gweithio ar safle o’r enw Bryn Pydew (llethr calchfaen gerllaw tref dwristaidd boblogaidd Llandudno) yn tocio coed a mieri wedi gwreiddio o’r newydd. Roedd rhywogaethau estron ymledol o blanhigion wedi tagu llawer o’r rhywogaethau brodorol ac, mewn ymdrech i warchod ein fflora naturiol, rhaid tocio a thorri’r rhain yn ôl i roi cyfle i blanhigion eraill ffynnu.
Roedd hi’n bwrw glaw. Lot.
O fewn hanner awr, roeddwn i, y gwirfoddolwyr a’r gwartheg yn y cae drws nesaf yn wlyb at ein crwyn ac eisiau i’r amser fynd yn gynt fel bod y baned de hanner amser yn gallu gwneud i ni deimlo’n well eto.
Diolch byth, fe ddaeth hanner amser a daeth yr haul allan i ddweud helo.  Amseru perffaith ac roedd pawb yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Dim ond ar ôl i’r dillad dal dŵr ddod i ffwrdd ac i’r crysau T ddod i’r golwg y gwnaethon ni sylweddoli y byddai wedi bod yn brafiach dal ati yn y glaw, oherwydd dydi croen noeth a mieri ddim yn gyfuniad da o gwbl.
Cafwyd diwrnod llwyddiannus er hynny ac roedd y dulliau cadwraeth yn dod yn gliriach i mi.
Tasg rhif 3 – Beth am gael y prosiect i gymryd rhan!
Mae cadwraeth yn egwyddor hollbwysig i Ein Glannau Gwyllt ac mae gwybod beth yw manteision yr hyn rydych chi’n ei wneud i fyd natur yn eich cymell chi i weithredu dros eich amgylchedd. Os mai anifeiliaid neu blanhigion sydd at eich dant chi, neu’r ddau, mae’n amser rhoi help llaw i warchod amgylchedd Cymru ar gyfer ein dyfodol a dyfodol ein cenedl.