Blog gwadd gan Swyddog Cefnogi Cyfathrebu’r Ymddiriedolaethau Natur, Beth Rowland
Fe ddywedodd Mark Twain, “I have never let my schooling interfere with my education”. Mae hynny’n ddryslyd dydi? Efallai bod rhai pobl yn meddwl mai ystyr addysg ydi ysgol neu brifysgol, ond mae’r Collins English Dictionary yn diffinio addysg fel “the act or process of acquiring knowledge” – does dim sôn am ystafelloedd dosbarth, gwerslyfrau nac arholiadau.
Rydw i wrth fy modd gyda byd natur a bywyd gwyllt ac fe fyddwn i’n hoffi pe bai mwy o bobl ifanc yn cael mwynhau ein cefn gwlad hardd ni er mwyn iddyn nhw ei hoffi hefyd. Yn rhy aml, mae pobl ifanc yn eu harddegau’n cael eu labelu fel pobl ddiog a difater, ond rydw i’n gwybod nad ydi hynny’n wir. Y realiti ydi mai ychydig iawn o bobl ifanc yn 2016 sy’n cael cyfle i syrthio mewn cariad â’u hamgylchedd, am nad ydi’r math o angerdd sy’n arwain at weithredu’n cael ei ddysgu fel rhan o’r cwricwlwm traddodiadol.
Mae Prince Ea, gwneuthurwr ffilmiau, bardd a siaradwr ysbrydoledig, wedi gwneud ffilm yn ddiweddar ac ynddi roedd yn erlyn y system ysgolion, gan ei chyhuddo o ladd creadigrwydd a pharatoi pobl ifanc ar gyfer y gorffennol – nid y dyfodol. Mae’n neges bwerus sydd wedi fy herio i i feddwl o’r newydd am bwysigrwydd fy ngraddau yn yr ysgol a’m gradd yn y brifysgol.
Rydw i wedi astudio’r Tuduriaid, yr elfennau cemegol ac amser amodol y ferf mewn Ffrangeg (a dydw i dal ddim yn ei ddeall!), ond codi allan i ganol byd natur sy’n mynd â fy mryd i. Rydw i’n ei chael yn llawer haws cofio enwau rhywogaethau o löynnod byw na dyfyniadau o nofelau, a’r rheswm am hynny ydi am fod dysgu go iawn yn deillio o ddiddordeb, gwerthfawrogiad a rhyfeddod, nid o eistedd mewn llinell syth daclus ac adrodd darnau allan o werslyfr.
Dydi dysgu mewn ystafell ddosbarth ddim yn gweddu i bob person ifanc ac mae’n bwysig bod addysg yn cynnwys dysgu am beth rydych chi’n ei hoffi, darganfod hobïau a datblygu sgiliau personol fel hyder, hunan-barch, angerdd ac uchelgais.
Dyma lle mae Our Bright Future yn bwysig. Mae’n gweithio i hyrwyddo pobl ifanc a rhoi addysg iddyn nhw sy’n mynd ymhellach na gwerslyfr: mae’n brofiad o fywyd go iawn. Mae’r prosiectau sy’n cael eu cynnal gan Our Bright Future yn meithrin yn eu cyfranogwyr wybodaeth, sgiliau arweinyddiaeth, rhwydweithiau a chysylltiadau, gan felly greu cyfleoedd nad ydi’r bobl ifanc yma wedi’u cael.
Fel person ifanc fy hun, rydw i’n falch ac yn cael fy nghalonogi gan y gwaith sydd wedi’i wneud gan Our Bright Future, oherwydd mae’n rhoi gobaith am y dyfodol i mi. Gyda’i gilydd, mae’r genhedlaeth nesaf yn gwella ansawdd ein hamgylcheddau adeiledig a naturiol ni, heb ystyried ein graddau yn yr ysgol neu a wnaethon ni lwyddo mewn algebra ai peidio.
Heb fod ymhell iawn yn ôl, fe fyddwn i wedi dychryn pe bai rhywun wedi dweud wrtha’ i nad oedd fy ngraddau i’n hanfodol ar gyfer fy llwyddiant yn y dyfodol; ac wrth gwrs maen nhw’n bwysig ac mae’r ysgol yn dysgu llawer o bethau gwych i chi. Ond os nad ydych chi wedi dod o hyd i rywbeth sy’n eich ysbrydoli chi ac yn eich cymell chi yn yr ystafell ddosbarth, edrychwch y tu allan i’r waliau ac i’r amgylchedd. Doedd rhai o bobl enwocaf y byd ddim ar frig y dosbarth. Fe fethodd Albert Einstein arholiad mynediad Sefydliad Technoleg Ffederal nodedig y Swistir ar ei ymgais gyntaf. Fe gafodd y biliwnydd Richard Branson amser anodd iawn yn yr ysgol oherwydd ei dyslecsia, a methodd y Dywysoges Diana bob un o’i harholiadau Lefel O – sy’n cyfateb i TGAU heddiw.
Yn aml, angerdd, penderfyniad a dyfalbarhad sydd bwysicaf i alluogi llwyddiant. Mae Our Bright Future yn darparu cefnogaeth a seilwaith i bobl ifanc sydd heb y sgiliau, y profiad neu’r cysylltiadau priodol i newid y byd. Os ydych chi’n mwynhau cadwraeth ymarferol, arweinyddiaeth, adeiladu neu ymgyrchu, gall Our Bright Future eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf at ddylanwadu ar eich byd a’i siapio. Mae’n amser meddwl o’r newydd am eich addysg a phenderfynu drosoch chi eich hun beth ydych chi eisiau ei ddysgu.
Gwyliwch ffilm Prince Ea yma – sut fedrwch chi beidio cael eich ysbrydoli?!