Mae Hannah Farley, Swyddog Prosiect gyda Growing Confidence yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig, wedi bod yn gweithio gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc er mwyn cynnig cyfle iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o fyd natur a’r sector amgylcheddol.
Rydw i wedi bod yn gweithio’n agos gydag un ysgol uwchradd er mwyn darparu cwricwlwm amgen i wyth o bobl ifanc sy’n cael anhawster dal ati i gymryd rhan mewn ystafell ddosbarth draddodiadol. O ganlyniad i waith ymarferol yn yr awyr agored un prynhawn yr wythnos, mae’r bobl ifanc yma’n meithrin casgliad o sgiliau trosglwyddadwy, gwybodaeth am fywyd gwyllt, profiad o gadwraeth a sgiliau ymarferol. Ac nid dyna’r cwbl – mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hyder a’u hunan-barch hefyd.
Rydw i’n cyflwyno’r grŵp i gymaint o wahanol arbenigwyr a gyrfaoedd cadwriaethol â phosib er mwyn dangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn y sector amgylcheddol. Er hynny, doeddwn i heb ragweld y byddai Labrador Du yn un o’r arbenigwyr hynny.
Yn ddiweddar, ar ôl chwilio’n frwd am bum mlynedd, llwyddodd gweithiwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig, Stuart Edmunds, i ddarganfod y boblogaeth gyntaf i gael ei chadarnhau ers 100 mlynedd o Felaod y Coed yn Lloegr. Yn fyw ac yn iach yn ne eithaf Sir Amwythig, defnyddiodd Stuart, sydd wrth ei fodd gyda mamaliaid, wasanaethau Louise o Conservation K9 Consultancy a’i Labrador Du, Luna, i gael DNA gan y boblogaeth. Mae Luna wedi’i hyfforddi i ganfod arogl tail (neu bŵ i chi a fi!) Bele’r Coed. Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r math anarferol a chynyddol bwysig yma o yrfa cadwraeth i’r grŵp.
Cafwyd prynhawn gyda Stuart yn esbonio pwy oedd e a’i rôl gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig. Dangosodd i’r grŵp y lluniau a gofnodwyd gyda chamera o garw ifanc a moch daear sydd wedi’u canfod yn yr ardal leol a dechreuodd y cwestiynau lifo. Wedyn trosglwyddwyd y sesiwn i ofal Louise a ddechreuodd ar ei sgwrs drwy annog y grŵp i arogli pŵ Bele’r Coed – fel y gallwch chi ddychmygu, doedd hwn ddim yn gais poblogaidd iawn!!
Esboniodd Louise bod Belaod y Coed yn anifeiliaid swil iawn a bod sefydliadau cadwraeth yn gallu cael anhawster gwybod a ydyn nhw’n bresennol mewn ardal ai peidio. Roedd Louise yn cael mwy a mwy o ymholiadau am hyfforddi un o’i chŵn i arogli eu tail a dyna pryd wnaeth hi ddechrau hyfforddi Luna. Nawr mae Luna yn hynod ddibynadwy a chafwyd arddangosfa wych gan y ddeuawd. Cuddiodd Louise dail bele’r coed ac, o fewn munud, roedd Luna’n gorwedd i lawr i ddangos ble’r oedd y tail a’i gwobr am hynny oedd pêl.
Dim ond tail bele’r coed mae Luna wedi’i hyfforddi i dynnu sylw ato ond, wrth i ni fynd am dro o amgylch y warchodfa natur, fe welodd y grŵp ei hymddygiad yn newid wrth arogli presenoldeb unrhyw anifail. Roedden ni’n gwybod nad oedd Belaod y Coed yn yr ardal yma o’r sir (wel, dyna beth rydyn ni’n ei feddwl), ond fe ddaeth Luna o hyd i bentwr mawr o flew mochyn daear a daeth o hyd i bathew hefyd, wnaeth ddianc i fyny coeden gyll yn reit sydyn!
Wrth fynd am dro, esboniodd Louise sut roedd hi’n hyfforddi Luna a’i chŵn eraill i arogli gwahanol arogleuon drwy ddefnyddio canmoliaeth ac ailadrodd ymddygiad, yn ogystal â wal arogleuon. Dechreuodd drwy hyfforddi cŵn i arogli bomiau a chyffuriau ond wedyn sylweddolodd pa mor werthfawr y gallai’r math yma o waith fod i’r sector cadwraeth. Mae ceisiadau blaenorol rhai o’i chleientiaid yn cynnwys canfod ifori yn Affrica, dirgelwch cathod mawr yn y DU, canfod cyrff marw ystlumod o amgylch ffermydd gwynt a chanfod diemwntau.
Ar ôl mynd am dro, cyflwynodd Louise ni i weddill y tîm. Roedd un o’i chŵn yn arbenigwr wedi ymddeol ar ganfod bomiau ac roedd wedi gwneud gwaith gwych dramor. Cafodd y grŵp gyfarfod Henry y sbaniel hefyd, sef ci achub dan hyfforddiant Louise – roedd wedi cyffroi’n lân ac wrth ei fodd gyda’r holl sylw gan y grŵp. Cafwyd arddangosfa arbennig iawn ganddo, gan ddangos y bydd yntau hefyd yn arbenigwr yn fuan iawn!
O eiliad gyntaf y sesiwn, roedd y grŵp wedi ymgolli ac roedd rhai o’r bobl ifanc oedd wedi cael anhawster cymryd rhan yn flaenorol wir yn ffynnu. Roedden nhw’n gofyn llawer o gwestiynau i Louise, yn adrodd straeon am eu cŵn nhw ac yn chwilio’n frwd am arwyddion o fywyd gwyllt. Cafodd pawb ddiwrnod da iawn a byddaf yn sicr yn gofyn i Conservation K9 Consultancy ddod i gyfarfod mwy o fy ngrwpiau i yn y dyfodol.