Dyma John Cave o brosiect Arweinwyr Natur Yfory – Tomorrow’s Natural Leaders (TNL) gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog i ddweud wrthym ni am Uwch Gynhadledd Ieuenctid yr haf yma a gynhaliwyd ganddynt yng Ngwarchodfa Natur Potteric Carr yn Doncaster, De Swyddog Efrog.     
Roedd awyrgylch hamddenol braf i’r diwrnod ac amrywiaeth wych o sefydliadau amgylcheddol i ieuenctid yn bresennol, ond eto rhannwyd neges angerddol rhwng pawb ac fe ddois i oddi yno’n teimlo’n optimistaidd ar gyfer y dyfodol. Roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar TNLs eraill yn rhannu eu profiadau a’r uchafbwyntiau o’u siwrnai TNL hwy eu hunain. Roedd ein siaradwr gwadd, Zach Haynes, yn llawn brwdfrydedd, angerdd a hiwmor wrth rannu ei gasgliad mawr o brofiadau a straeon am fywyd gwyllt, o’i flog ‘A Year of Nature’ hynod lwyddiannus i’w ymddangosiad ar Springwatch. Mae’n rhyfedd sut mae gan rywun mor ifanc ddawn i brofi bywyd gwyllt – sgwrs ysbrydoledig gan ddyn ifanc ysbrydoledig.
Roedd digon o amser i sgwrsio â sefydliadau eraill a hyrwyddwyr natur ifanc eraill. Fe wnes i fwynhau sgwrsio gyda chriw prosiect Growing up Green yn Hill Holt Wood, prosiect arall gan Our Bright Future, a menter gymdeithasol ysbrydoledig sy’n chwifio baner cynaliadwyedd. Mae eu gwaith ym amrywio o hyfforddi myfyrwyr pensaernïaeth mewn dylunio ac adeiladu amgylcheddol gyfeillgar i wella sgiliau pobl ifanc, o gefndiroedd heriol yn aml, mewn crefftau a sgiliau coetir. Roedd yn grêt gweld cymaint o amrywiaeth o bobl yn bresennol a chafwyd diwrnod gwerthfawr a chyfoethog. Darparwyd y cinio gan ‘The Real Junk Food Project’, sefydliad gwych sy’n trawsnewid gwastraff bwyd sy’n mynd i gael ei daflu i fod yn fwyd sydd ar gael i bawb. Ar ôl sawl brechdan flasus oedd ddim yn cyrraedd safon y stryd fawr, roedd yn amser am daith dywys o amgylch Gwarchodfa Potteric Carr.
Diolch enfawr i wirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog a ddaeth i’r uwch gynhadledd. Sicrhaodd eu gwybodaeth arbenigol am y warchodfa a’i chasgliad o fywyd gwyllt daith gerdded ddiddorol yn llawn gwybodaeth. Aethom i sawl cuddfan adar a chael gweld detholiad da o fywyd gwyllt Gwarchodfa Natur Potteric Carr. Roedd yn neis iawn cael arddangosfeydd da gan Foda’r Wern hefyd, gan gynnwys y cywion oedd wedi cael eu geni a’u magu yn y warchodfa.
Ar ôl y daith gerdded, cafwyd cyfle i ddod at ein gilydd eto a chynnal trafodaeth agored. Roedd yn grêt gallu symud o fwrdd i fwrdd a phawb yn gofyn cwestiwn am bobl ifanc yn y sector gwyrdd, i drafod a rhannu ein meddyliau a’n syniadau ein hunain. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o drafodaethau a syniadau a gaiff eu ffurfioli’n adroddiad fel bod gennym gyfeiriad yn y dyfodol ar gyfer y themâu a’r syniadau fydd yn cael eu datblygu.
Ar ôl y drafodaeth agored, daeth yr uwch gynhadledd ieuenctid i ben a chafodd y coctels ffug a’r bisgedi ‘custard cream’ olaf eu sglaffio (gen i yn bennaf). Diolchodd y TNLs i bawb am ddod ac am gyfrannu gwybodaeth mor werthfawr a diddorol drwy gydol y dydd. Wrth i’r bobl olaf adael, roeddwn i’n llawn optimistiaeth wrth droi am adref. Roedd angerdd brwd dros yr amgylchedd i’w deimlo drwy gydol y dydd. Mae cydnabod yr heriau sy’n wynebu byd natur a brwdfrydedd y bobl ifanc wrth fynd ati i wynebu’r heriau yma’n gwbl ysbrydoledig. Hir oes i’n pobl ifanc ni ac i ddyfodol disglair!
John Cave
Arweinydd Ieuenctid Amgylcheddol (Arweinwyr Natur Yfory – Tomorrow’s Natural Leaders)