Dyma Phil Holtam, cydlynydd lloffa yn Feedback, Sussex, i ddweud wrthyn ni beth yn union mae ‘lloffa’ yn ei olygu.
Nid aberth bach ydi rhoi’ch bore Sadwrn dros yr haf i roi sylw i wastraff bwyd ar ffermydd, yn enwedig pan mae’n cynnwys gwaith caled yn yr haul. Ond dyna’n union wnaeth 45 o wirfoddolwyr hael ar ôl ymuno â chynhaeaf corn melys rhwydwaith lloffa Sussex. Mae diwrnod yn lloffa, sef gair arall am gasglu mewn gwirionedd, yn ddiwrnod hwyliog allan yng nghefn gwlad – dyma beth fuon ni’n ei wneud.
Mae Mark Stroude o fferm Culver wedi cynnal digwyddiadau lloffa o’r blaen.  Fferm corn melys Culver yw un o’r ffermydd tyfu corn mwyaf yn y wlad, gan gynhyrchu degau ar filiynau o dywysennau bob blwyddyn. Pan fydd llai o alw a’r cynhyrchu’n dal i fynd o nerth i nerth, mae’n anodd i brynwyr Mark gyfateb faint mae ei fferm yn ei dyfu, a dyma ble mae rhwydwaith lloffa Feedback yn bwysig.
Mae Feedback yn un o bartneriaid prosiect Our Bright Future. Maen nhw’n gweithio gyda Foodcycle i gyflwyno prosiect O’r Fferm i’r Fforc, sy’n lloffa bwyd dros ben i ddarparu prydau bwyd cymunedol.
Mae’r lloffwyr brwd yn mynd ati i weithio gan gynaeafu’r corn i hen sachau tatws. Gan ddilyn cyngor Mark, cafodd y corn ei loffa res wrth res a gadawyd arwyddion ar gyfer y peirianwyr cynaeafu ynghylch beth roeddem wedi’i ddewis. Cawsom seibiant am ginio hyfryd mewn cae cyfagos, a oedd yn cynnwys ambell dywysen amrwd o gorn.
Roedd llawer o wirfoddolwyr ifanc wedi dod ac, yn eu plith, roedd dwy ffrind, Hannah a Zoe. Dywedodd Hannah ei bod wir wedi mwynhau “achub cymaint o fwyd rhag cael ei wastraffu a hefyd cyfarfod llawer o bobl ddiddorol mewn cae heulog!” a “dod i ddeall faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu ar ffermydd”. Dywedodd Zoe mai ei hoff beth hi oedd “cyfarfod cymaint o amrywiaeth o bobl a chael diwrnod cynhyrchiol a phrysur”.
Roedd sesiwn lloffa’r prynhawn yn cynnwys ymdrechion cludo dewr. Dywedodd Farhad, 17 oed o Southwick: “Fe wnes i wir fwynhau casglu’r corn melys. Mae’n neis bod gyda phobl eraill a chydweithio. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud hyn yn y DU. Yn Afghanistan roedden ni’n arfer gwneud pethau tebyg. Dydyn ni ddim eisiau gwastraffu’r bwyd oherwydd mae’n blasu’n dda a does gan rai pobl ddim digon”.
Tua 3pm cyrhaeddodd fan o UK Harvest, menter dosbarthu gwastraff bwyd yn Chichester, i gasglu 200kg o gorn melys. Cafodd y rhan fwyaf o’r cynnyrch lloffa ei roi ar balets i’w gasglu gan FareShare UK a FareShare Sussex. Cafodd tua 5,030kg o gorn melys ei gynaeafu i gyd, sy’n cyfateb i fwy na 60,000 o ddognau unigol. Cafodd ei ddosbarthu i leoliadau ym mhob cwr o’r wlad, lle bydd yn cael ei ailddosbarthu i gannoedd o hosteli digartref, canolfannau adsefydlu ar ôl defnyddio cyffuriau, llochesi i ferched, clybiau brecwast ac elusennau eraill sy’n helpu pobl mewn angen.
Diolch enfawr i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled – ’fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb eich help chi. Os hoffech chi ymuno â ni ar gyfer digwyddiad lloffa, cofrestrwch i fod ar ein rhestr lloffa. Gobeithio y gwelwn ni chi yn y caeau!
Mwy o wybodaeth am y prosiect From Farm to Fork yma.