Mae Aaron Ross yn brentis gyda phrosiect Gweithlu a Hyrwyddwyr Amgylcheddol Cenhedlaeth Nesaf Fife yn Falkland, ger Perth. Mae’n gweithio ar Brentisiaeth Fodern Lefel 2 mewn Coed a Deunyddiau Coed. Dyma flog cyntaf Aaron a anfonwyd atom ni gan Gydlynydd y Rhaglen. Diolch Aaron!
Am 9am fore Mercher 6 Medi, aethom ar siwrnai i Bussage, sydd yn Sir Gaerloyw yn Lloegr. Cawsom aros mewn llety gwyliau hyfryd o’r enw Glen Cottage am ddwy noson er mwyn cael mynd i Sioe Coetiroedd Confor ar Stad Longleat yn Sir Wilt y diwrnod canlynol.
Fe wnaethom gyrraedd ar ôl y siwrnai wyth awr yn y car a setlo i mewn yn ein hystafelloedd a mynd i weld y golygfeydd o amgylch y bwthyn bach.
Roedd rhaid codi’n gynnar eto y diwrnod wedyn er mwyn cyrraedd y sioe am 9am. Roedd y tywydd yn anwadal ond fe ddaeth yr haul i’r golwg yn y diwedd!
Roedd y sioe goedwigaeth yn cynnwys nifer fawr o stondinau, gyda chyfarfodydd a chynadleddau coedwigaeth a hefyd cwmnïau’n hysbysebu cynhyrchion newydd, yn ogystal â gwybodaeth arall am y sector gwledig.
Roedd gan y sioe lawer o siopau coedwigaeth yn gwerthu offer newydd, fel llifau cadwyn ac offer dringo.
Ar hyd maes y sioe, roedd gwahanol beiriannau fel tractors, anfonwyr, sgidwyr, teledrinyddion a MEWPS (peiriannau casglu ceirios). Wrth i ni gerdded o gwmpas y safle, cafwyd sawl arddangosfa prosesu coed gydag offer newydd a hefyd cystadlaethau llif gadwyn Husqvarna a Stihl, oedd yn cynnwys profi sgiliau, torri, stripio a thrawsdorri.
Roedd maes y sioe wedi’i rannu’n ddwy ran, un ar gyfer marchnata ac arddangos offer newydd a’r llall yn ardal arddangos yn y coetir, yn dangos pethau fel anfonwyr yn cael eu defnyddio a cherfio gyda llif gadwyn.
Wrth i ni gerdded o amgylch y sioe ac edmygu’r holl beiriannau newydd sbon a rhyfeddol a siarad gyda’r holl gwmnïau, fe wnaethom ddechrau sylweddoli pa mor fawr yw’r sector coedwigaeth. Fe wnaethon ymuno fel aelodau o’r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol hyd yn oed!
Yn gyffredinol, roedd yr amser a’r profiad gawsom ni yn ystod y tridiau yn grêt ac mae wedi rhoi gwell persbectif i ni o’r sector coedwigaeth cyfan. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gwledig / awyr agored fynd os cânt gyfle. Fe wnes i fwynhau fy hun yn fawr a gobeithio y caf fynd eto flwyddyn nesaf.
Diolch am ddarllen.
Aaron Ross