Ellie Brown yw Ymddiriedolwr ifanc cyntaf Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog. Dyma sut mae hi wedi cael y rôl honno.   
Bywyd gwyllt a’r amgylchedd – dau beth pwysig iawn i mi ac roeddwn i eisiau cael effaith bositif ar iechyd y blaned yma. Fe arweiniodd hynny at ymwneud â Green Futures, un o brosiectau gwych Our Bright Future, sy’n cael ei arwain gan yr elusen Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog (YDMT).
Fe wnes i gyfarfod staff YDMT am y tro cyntaf drwy fynychu cyfarfod yn benodol ar gyfer pobl ifanc, am brosiect Green Futures. Roeddwn i newydd orffen yn y brifysgol ac wedi graddio gydag MSc mewn Bioamrywiaeth a Chadwraeth. Roeddwn i’n chwilio am gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol lleol.
Ers hynny rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i waith llawn amser gydag elusen cadwraeth amgylcheddol, rôl lle rydw i’n gallu gwneud gwahaniaeth positif i’r amgylchedd lleol. Er hynny, drwy ddod i adnabod staff Green Futures a staff eraill YDMT, roedd cyfle i mi ddweud wrthyn nhw am fy niddordeb mewn materion amgylcheddol. Wedyn cynigiodd y staff hynny gyfleoedd gwirfoddol ychwanegol i mi, i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd ac i bobl ifanc – cyfleoedd rydw i wedi’u mwynhau yn fawr!
I ddechrau, fe gefais i fy mhenodi’n aelod o Grŵp Llywio Green Futures – sef grŵp o bobl sy’n helpu i ddylanwadu ar y prosiect a sicrhau ei fod ar y trac i gyflawni ei amcanion. Rydw i’n teimlo fy mod i wedi gallu cael effaith bositif ar y prosiect ac wedi dylanwadu ar bobl ifanc eraill drwy wneud y canlynol:
  • Cyfrannu at gyfarfodydd y Grŵp Llywio a chynnig persbectif person ifanc yn ystod y prosesau gwneud penderfyniadau
  • Helpu i gyfweld a phenodi un o aelodau o staff Green Futures, gan sicrhau bod y person gorau ar gyfer y gwaith yn cael ei ddewis
  • Cynorthwyo pobl ifanc i gynllunio, datblygu a chynnal eu gweithdai eu hunain ar themâu amgylcheddol yn uwchgynhadledd flynyddol Green Futures i bobl ifanc – yr Youth Environment Summit
  • Datblygu a chyflwyno fy ngweithdai fy hun yn yr Uwchgynhadledd ar sut i fod yn ddefnyddiwr ystyriol (gan ganolbwyntio’n bennaf ar osgoi cynnyrch gydag olew palmwydd ynddo) a sut i wneud eich nwyddau ymolchi naturiol ac eco-gyfeillgar eich hun. Er mawr boddhad i mi, cafodd y ddau weithdy effaith fawr ar y bobl ifanc oedd yn bresennol!
  • Annog pobl ifanc i feddwl am faterion amgylcheddol a beth allant ei wneud i helpu
  • Adolygu a chyflwyno sylwadau ar y ceisiadau i Gronfa Gweithredu Amgylcheddol Ieuenctid Green Futures (pot bychan o arian sydd ar gael i alluogi pobl ifanc i gynnal eu prosiectau amgylcheddol eu hunain), i sicrhau bod y prosiectau’n cael cymaint o effaith â phosib.
Ar ôl mwynhau fy rôl ar y Grŵp Llywio yn fawr, fe anfonais i e-bost at Gadeirydd Ymddiriedolwyr YDMT (y ‘bos go iawn’) i weld a oedd unrhyw ffordd i mi gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu’r Ymddiriedolaeth. Fel ymateb, fe gefais i gynnig bod yn Ymddiriedolwr – y ‘Person Ifanc’ cyntaf erioed i gael bod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr!
Mae Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau am gyfeiriad elusen a sut mae’n defnyddio ei harian. Yn gyffrous ynghylch cyfle i allu gwneud gwahaniaeth i elusen gyfan, fe wnes i dderbyn, a nawr rydw i’n cael cyfrannu at y prosesau gwneud penderfyniadau sy’n penderfynu ar effaith yr elusen. Er enghraifft, fe fyddaf yn cyfrannu at ddatblygiad Cynllun Strategol YDMT, sy’n datgan beth mae’r elusen eisiau ei gyflawni yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn ymwneud â phenderfynu beth yw’r blaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal leol, a’r problemau y dylai’r elusen weithio i’w gwella. Rydw i’n gobeithio tynnu sylw at y problemau mae pobl ifanc a’r amgylchedd lleol yn eu hwynebu, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywbeth yn cael ei wneud i roi sylw i’r problemau hynny.
Gall cael pobl ifanc i fod yn rhan o broses sefydliad o wneud penderfyniadau gael effaith bositif, oherwydd mae pobl ifanc yn dod â syniadau newydd i mewn, mae eu blaenoriaethau nhw’n wahanol ac maen nhw’n cynnig persbectif gwahanol. Hefyd maen nhw’n herio’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc, fel ei bod yn haws i bobl ifanc ymwneud â’r sefydliad.
Ond sut gall person ifanc ymwneud â’r prosesau gwneud penderfyniadau hyn, a dylanwadu ar y ffordd mae sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc? Y cam cyntaf hollbwysig yw dod i adnabod pobl yn y sefydliad: mae gwirfoddoli’n ffordd grêt o wneud hyn, a hefyd lleoliadau profiad gwaith, neu fe allech chi fynd i gyfarfodydd sy’n agored i’r cyhoedd. Pan fydd staff yn eich adnabod chi, mae’n haws siarad gyda nhw am faterion sy’n eich poeni chi, neu syniadau sydd gennych chi am sut gallent fod yn fwy ymwybodol o ddyheadau ac anghenion pobl ifanc. Hefyd fe allwch chi ofyn am gael bod yn rhan o weithgareddau a fydd yn dod â chi’n nes at y prosesau gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, gallech chi gynnig cymryd rhan mewn grwpiau ffocws neu gyfarfodydd, cysgodi gwaith aelod o staff, cynnig bod yn aelod o grŵp llywio ar gyfer prosiect penodol, neu holi am fod yn Ymddiriedolwr.
Manteisiwch ar bob cyfle sy’n codi a pheidiwch ag ofni creu eich cyfleoedd eich hun drwy ofyn amdanyn nhw: dydych chi byth yn gwybod i ble fydd hynny’n arwain. A siaradwch gyda phobl oherwydd fe allwch chi rannu’r negeseuon amgylcheddol sy’n bwysig yn eich barn chi – a chael dylanwad positif ar rywun, ac fe all agor drysau i chi.
Daliwch ati gyda’r gwaith da bawb – gyda’n gilydd rydyn ni’n gwneud byd o wahaniaeth.