Ddydd Sadwrn 3 Chwefror 2018 cyfarfu aelodau Fforwm Ieuenctid holl brosiectau Our Bright Future ledled y wlad yng Nghaerefrog. Roedd Aaron Wheeler yn un ohonyn nhw. Dyma’i stori …
Helo bois, fy enw i ydi Aaron Wheeler. Nid Alan, Darren na hyd yn oed Karen… fel rydw i wedi cael fy ngalw ar y ffôn cyn heddiw! Rydw i’n 24 oed ac yn ymwneud â phrosiect Our Bright Future yn Lerpwl, sef BEE You. Yn fy marn ragfarnllyd i, wrth gwrs, mae’n brosiect rhyfeddol a phwysig sy’n canolbwyntio ar gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn … dyfalwch be …? cadw gwenyn! Yn cael ei drefnu gan elusen merched yn Lerpwl, Blackburne House, a sefydliad tai o’r enw South Liverpool Homes, mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno fel cwrs hawdd ei ddilyn ond diddorol iawn. Mae hyd yn oed yn rhoi cymhwyster swyddogol i fyfyrwyr, sy’n cael ei gydnabod gan y BBKA (Cymdeithas Ceidwaid Gwenyn Prydain). Nodau’r prosiect ydi mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol a rhoi sylw i’r dirywiad ym mhoblogaeth y gwenyn mêl ym Mhrydain. Mae’r tîm sy’n cynnal y cwrs yn anhygoel i gyd, a rhaid crybwyll Martin, Lynne a’n prif diwtor ni, Ian, yn arbennig. Os cewch chi gyfle i gfyarfod Ian, cofiwch ei holi am ei wenyn i lawr ar y rhandir!
Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, fe ddigwyddodd fy ymwneud i â’r prosiect, a darganfod y cwrs, yn gwbl annisgwyl. Doeddwn i ddim yn byw yn Lerpwl ar y pryd, dim ond yn treulio penwythnosau gartref. Fe wnes i brynu’r papur newydd lleol a gweld hysbyseb oedd yn cynnig cyfle i mi ymgolli mewn byd oeddwn i ond yn ei edmygu o bell yn rhy aml, neu ar uchder blodyn dant y llew. Cwrs cadw gwenyn am ddim i bobl ifanc 11 i 24 oed! Mae’n bur debyg y dylwn i ddweud yma fy mod i wedi bod ag obsesiwn â chacwn erioed; yn fy marn i, dyma’r mwyaf eiconig, urddasol a hardd o’r holl bryfed sydd gennym ni, gyda rhyw hyfrydwch Prydeinig henffasiwn. Mae’r creaduriaid yma’n dyner a dof, er gwaetha’r ffordd maen nhw’n cael eu portreadu mewn diwylliant pop. Gan fy mod i mor hoff ohonyn nhw, roedd yn hawdd iawn dod yn rhan o fyd rhyfeddol y gwenyn mêl. A gyda’r hysbyseb yma, roedd gen i gyfle nawr i chwarae rhan mewn atal dirywiad y poblogaethau o wenyn. Ac wrth gwrs, ‘mae’r gweddill yn hanes’.
Drwy ddweud ‘ie’ wrth rywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch, yn yr achos yma, cadw gwenyn, gall arwain at gymaint o gyfleoedd, a chyfle i gyfarfod pobl cwbl wych. Rydw i’n berson eithaf swil ac yn teimlo nad ydw i’n mynd ati i roi cynnig ar bethau cymaint ag y dylwn i. Ond drwy ddweud ‘ie’, rydw i wedi cael cynnig i fod yn diwtor cadw gwenyn. Sut gwnaeth hynny ddigwydd?! Hefyd, gofynnwyd i mi fod yn rhan o brosiect mwy a gweledigaeth fwy, bod yn aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n gyfle gwych ac fe ddaeth fy ffrind Rachel a fi’n gynrychiolwyr Fforwm Ieuenctid Our Bright Future ar gyfer BEE You. Mae’n wahanol i bawb rwy’n siŵr, ond i mi, mae bod yn rhan o Fforwm Ieuenctid nid yn unig yn ymwneud â bod yn llysgennad dros yr achosion sy’n eithriadol bwysig i mi, ond hefyd yn gyfle i gynrychioli lle sy’n gartref i mi a’r bobl sy’n byw yno. Mae acenion, llefydd, oedrannau, labelau, swyddi, ysgolion a chyfryngau yn gallu ein gwahanu ni i gyd ac, ar adegau, rydyn ni braidd yn euog o fod yn gaeth i’n ffonau ac anghofio am y byd go iawn.
Felly, mewn dim o dro, roedd Rachel a fi ar drên cynnar yn y bore i Gaerefrog, yn trafod syniadau ac yn llawn brwdfrydedd. Roedden ni’n mynd i gyfarfod y Fforwm Ieuenctid, cyfarfod MAWR o lawer o brosiectau amgylcheddol, a phob un wedi’u cysylltu drwy raglen Our Bright Future.
Fe wnaethon ni gyrraedd gwesty mawr oedd yn edrych fel rhywbeth allan o lun Georgaidd, gyda phortread enfawr o Marie-Antoinette ifanc yn hongian yn y cyntedd. Deg allan o ddeg i’r lleoliad oedd y farn! Ac roedd hyn cyn cael y bwyd blasus gawson ni!
Dyma gyrraedd y neuadd ac roedd Jenna a John yno i’n cyfarfod ni. Roedden nhw mor hyfryd a chroesawgar. Roeddwn i’n gwybod bod hwn yn mynd i fod yn ddiwrnod positif iawn. Fe wnaethon ni eistedd wrth fwrdd gyda dau aelod arall o’r Fforwm Ieuenctid, oedd yn dod o Lundain a Chanolbarth Lloegr. Dim ond pan wnaeth y cynrychiolwyr ddechrau cymryd eu tro i gyflwyno eu prosiectau wnes i wirioneddol deimlo bod Our Bright Future wir yn fudiad cenedlaethol dros newid amgylcheddol. Roedd mor ysbrydoledig gweld pobl ifanc swil eraill yn sôn am eu hymdrechion yn yr amser oedd ar gael i ni. Roeddwn i’n teimlo ei bod yn fraint ac yn bleser cael bod yno gyda phawb. Pan wnes i a Rachel godi a chymryd y baton, fe aeth y 3 awr o waith paratoi allan drwy’r ffenest – i mi beth bynnag! Gobeithio ein bod ni wedi cyflwyno’r negeseuon hanfodol!
Fe wnaeth y gweithgareddau drwy gydol y dydd ddod â ni at ein gilydd fel uned. Roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i gyfarfod cymaint o bobl ifanc frwd oedd yn teimlo mor gryf a phenderfynol am yr amgylchedd â fi! I gloi, diwrnod gwych, pobl grêt, amser gwerthfawr i wneud cynlluniau a methu aros i gyfarfod pawb eto’n fuan iawn!
Dyma #OurBrightFuture ac rydyn ni’n#OwningIt!