Mae Eco Talent gan vInspired yn rhaglen wirfoddoli am chwe mis ar gyfer ieuenctid 16 i 24 oed ac mae’n gyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau a phrofiadau o fyd go iawn er mwyn llwyddo yn y sector amgylcheddol. Dyma Jenna Hannon, Cydlynydd Prosiect, yn rhannu stori graddiad grŵp tri.
Mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choleg Barking a Dagenham, Cyngor Harrow a Chyngor Ealing, ac mae’n un o 31 o brosiectau sy’n cael eu cyflwyno ledled y wlad fel rhan o Our Bright Future – mudiad cymdeithasol sy’n cefnogi pobl ifanc i greu newid yn eu cymunedau a’u hamgylchedd lleol.
Ar 23 Mawrth 2018, fe wnaethom ddathlu cyflawniad enfawr gwirfoddolwyr grŵp tri a raddiodd o’r rhaglen. Yn cael ei gynnal yn y Shakespeare Globe yn Llundain gyda golygfa hyfryd o’r balconi dros Afon Tafwys, roeddem yn croesi ein bysedd am dywydd da ar gyfer y dathliad, a ’chawson ni mo’n siomi! Roedd yn ddiwrnod hyfryd.
Roedd angen ffrogiau crand a siwtiau smart ar gyfer y digwyddiad ac, ar ôl i deulu a ffrindiau fynd i’w seddau, cychwynnodd Coleg Barking a Dagenham y dathliad mewn steil gydag aelod o’r Fforwm Ieuenctid, Jake, a gwirfoddolwr arall, Bradley, yn cyflwyno’u hunain ac yn siarad am uchafbwyntiau’r rhaglen iddyn nhw. Roedd yn bleser gweld cymaint o luniau o’r chwe mis diwethaf a chawsom weld dau fideo hyd yn oed, yn cofnodi eu prosiectau gweithredu cymdeithasol ac amgylcheddol anhygoel yn y coleg. Un oedd Go Vegan, gyda’r gwirfoddolwyr ifanc yn rhannu samplau o fwyd fegan i fyfyrwyr ac yn eu haddysgu am effeithiau amgylcheddol positif posib deiet fegan, ac wedyn The Park, gyda’r gwirfoddolwyr ifanc yn plannu llwybr gardd synhwyraidd i fyfyrwyr ag anableddau ei fwynhau. Ar ôl canmol llawer ar y grŵp, derbyniodd y bobl ifanc eu tystysgrifau graddio ac roedd cyfle i ysgwyd llaw â Phrif Weithredwr vInspired, Jessica Taplin.
Wedyn cyflwynodd Cyngor Harrow eu hunain, gyda phawb oedd wedi graddio’n sôn am eu cyfnod fel rhan o’r rhaglen. Roedd y gwirfoddolwyr ifanc newydd orffen adnewyddu gofod awyr agored mewn canolfan leol i blant ac roedden nhw’n gyffrous iawn am rannu eu lluniau cyn ac ar ôl y gwaith caled. Roedd yn bleser hefyd cael cwmni un o raddedigion grŵp dau Eco-Talent, Daryl, oedd wedi bod yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen, a’r Rheolwr Datblygu Gweithredu Cymdeithasol a Gwirfoddoli Ieuenctid, Ali Abdu, i siarad am y cyfleoedd gwych i’r gwirfoddolwyr. Mae Charlotte yn benodol, gyda’i gwên a’i brwdfrydedd heintus, eisoes yn trafod gydag Ali er mwyn parhau â’i gwaith rhagorol yn y ganolfan ieuenctid, ar ôl cael effaith enfawr ar y bobl ifanc eraill sy’n mynd yno. Hefyd cafodd goflaid fawr gan ymddiriedolwr vInspired, Joan Watson, a gyflwynodd eu tystysgrifau graddio i’r holl fyfyrwyr.
Yn cloi’r digwyddiad roedd Cyngor Ealing, gyda phawb wedi paratoi eu stori unigol eu hunain ynghylch pam roedden nhw wedi ymuno â’r rhaglen a’r siwrnai roedden nhw wedi bod arni. Rydw i’n credu ei bod yn deg dweud bod pob stori’n arbennig iawn, gyda phawb yn dweud nad oedden nhw’n awyddus i ddechrau ar y rhaglen, ond yn edrych yn ôl nawr ar gymaint o foddhad roedden nhw wedi’i gael, gan eu paratoi ar gyfer y camau nesaf positif. Siaradodd Tahiri yn agored am sut roedd yn meddwl nad oedd garddio a gwirfoddoli yn ei ‘siwtio hi’ ond, ar ôl dechrau arni ar greu gardd ganoloesol fechan ym Mharc Gunnersbury ar gyfer ei phrosiect gweithredu cymdeithasol, gwelodd ei bod yn mwynhau’n fawr. Roedd hyn yn profi iddi ei bod yn gallu ymdopi y tu allan i’r ffiniau sy’n gyfforddus iddi yn ei thyb hi. Hefyd siaradodd Tara am sut roedd wedi derbyn rôl arwain, gan gyflwyno sesiwn uwchgylchu mewn ysgol gynradd leol a defnyddio ei thalentau artistig a chreadigrwydd. Roedd hyn wedi gwneud iddi feddwl am yrfa yn y dyfodol mewn gwaith ieuenctid. Roedden ni’n falch iawn o weld Anna Heathcote o Our Bright Future yn bresennol, gan gyflwyno eu tystysgrifau graddio i bob un o wirfoddolwyr Cyngor Ealing.
Wedyn, fe wnaeth graddedigion Ealing feddiannu Spotify fel DJs am weddill y digwyddiad, a bu pawb yn mwynhau moctêls a chanapé neu ddau! Rydyn ni mor falch o raddedigion grŵp tri a’u cyflawniadau i gyd, yn ogystal â’r effaith enfawr mae eu prosiectau gweithredu cymdeithasol amgylcheddol wedi’i chael, ac y bydd yn parhau i’w chael, ar y gymuned ehangach. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw i gyd ar gyfer y dyfodol.
Er bod grŵp tri wedi graddio yn awr, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu grŵp newydd ac olaf o bobl ifanc i Eco-Talent vInspired, sy’n dechrau eto ym mis Mehefin. Mae’n rhaglen wirfoddoli lawn amser sy’n cynnwys lleoliad, cymhwyster amgylcheddol a chyfle i arwain prosiect gweithredu cymdeithasol amgylcheddol yn y gymuned. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd yn ôl ati i wirfoddoli a gobeithio y bydd ein gwirfoddolwyr newydd ni i gyd yn cael cymaint o hwyl!
Mae mwy o wybodaeth am Eco-Talent vInspired ar gael yma.