Mae Georgina Umney yn cymryd rhan yn rhaglen Tomorrow’s Natural Leaders 2017-18 Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog 
‘One person can make a difference to the world and everyone should try’. Mae’r dyfyniad didwyll yma gan J.F. Kennedy yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth a rhwystredigaeth i lawer o bobl ifanc sydd ag ymwybyddiaeth amgylcheddol ledled Prydain. Mewn byd o gyswllt lle mae newyddion am drychinebau amgylcheddol yn amhosib ei osgoi, mae’r cyfarwyddyd gonest am beth ellir ei wneud yn gallu ymddangos yn syndod o brin. Er gwaetha’r amrywiaeth gyfoethog o swyddi sy’n ofynnol i gynnal ymdrechion hinsawdd a chadwraeth Prydain, mae’r llwybr at weithredu amgylcheddol yn aneglur mewn ysgolion yn aml. Yn gyffredinol, mae gyrfaoedd mewn cadwraeth yn cael eu cyflwyno fel rhai ymarferol, gwyddonol, addysgiadol neu ddi-dâl a bob amser bron yn cael eu rheoli gan allu academaidd. I’r amgylcheddwyr ifanc mwyaf brwd hyd yn oed, mae’r rhwystrau ariannol, addysgol neu gymdeithasol dirifedi sy’n atal cyflogaeth yn gallu bod yn ddigon i ddigalonni ac atal dyfodol a allai newid y byd o bosib.
Er mor greiddiol yw’r ugain mlynedd nesaf o ran diffinio ein dyfodol amgylcheddol, mae sicrhau bod pob person ifanc angerddol yn cael cyfle i gyfrannu ei ymdrechion o bwysigrwydd cenedlaethol. Dylai addysg amgylcheddol fod mor gyffrous ac amrywiol â’r myfyrwyr eu hunain, gan roi sylw i amrywiaeth o sgiliau rhyng-gysylltiol, o reolaeth ymarferol a gwaith theori i gydweithredu ac ymgyrchu. Hyd yn oed i’r rhai sy’n ennill graddau baglor a meistr, pur anaml mae’r llwybr at wneud gwahaniaeth yn glir, oherwydd mae cyfleoedd am swyddi lefel mynediad cyfyngedig yn hynod gystadleuol ac, yn y pen draw, maent yn gorfodi pobl ifanc i fywyd crwydrol, gan orfod adleoli pan fydd gwaith ar gael, boed yn waith am gyflog neu ddi-dâl. Mae llawer o’r swyddi’n rhai rhan amser, tymor byr a gwledig, gan eich ynysu yn aml oddi wrth bobl ifanc o’r un feddylfryd. Mae’n ymddangos yn ddefnydd aneffeithlon o sgiliau hanfodol ac ymrwymiad sydd ar gael i’r sector amgylcheddol. Yng nghanol cystadlu brwd, mae cyfweliadau’n cael eu blaenoriaethu i ymgeiswyr ag addysg uwch a phrofiad gwirfoddol, gan gadarnhau’r rhaniad llafur yn y sector amgylcheddol.
Ond beth os yw pysgotwr yn teimlo’n angerddol am eiriolaeth, neu awdur â thalent sydd ddim yn cael ei defnyddio fel warden? Drwy ddefnyddio angerdd fel sail i addysg, yn hytrach na chefndir academaidd, gallai sefydliadau greu cae chwarae teg i bobl ifanc o bob cefndir a gallu gyfarfod a chreu cynghreiriau, wedi’u grymuso gan adnoddau ar gyfer cydweithredu. Bydd y problemau cyflogaeth mae pobl ifanc yn eu hwynebu, a’r heriau amgylcheddol rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, yn gofyn am ddatrysiadau hynod greadigol a sgiliau sy’n gorgyffwrdd o bob cefndir mewn bywyd, gan gynnwys artistiaid, gwyddonwyr, ffermwyr, pysgotwyr, merched a wardeniaid yn dod at ei gilydd ac yn gweithredu newid real a llwyr.
Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog yn treialu cynllun o’r fath drwy addysgu naw deg chwech o ieuenctid 16 i 25 oed dros gyfnod o bedair blynedd. Mae Tomorrow’s Natural Leaders yn dod â llysgenhadon ifanc o oedrannau, cefndiroedd a lefelau profiad amrywiol at ei gilydd gan wella eu sgiliau a’u grymuso i ysbrydoli pobl ifanc eraill ac aelodau eu cymuned i weithredu gyda phrosiectau ac ymgyrchoedd amgylcheddol lleol ledled Sir Efrog. Rhwng dwy fferm, dwy warchodfa natur a chanolfan addysg forol, mae profiad pob hyfforddai’n unigryw, yn dibynnu ar ei leoliad, ei ddiddordebau a’i frwdfrydedd. Mae cynghreiriau cyffrous yn cael eu ffurfio wrth i bobl ifanc o feysydd fel llenyddiaeth Saesneg, addysg awyr agored, ffermio, ffotograffiaeth, coedwigaeth, hwsmonaeth anifeiliaid a chelf ddod at ei gilydd ar gyfer ymarferion ymarferol, dysgu grŵp a phrosiectau hunan-arwain. Mae rhai wedi teithio, mae rhai’n raddedigion ac efallai nad yw rhai wedi cael yr un o’r cyfleoedd hyn, ond maen nhw i gyd yn uchelgeisiol, brwdfrydig ac agored i gydweithredu, ar ôl cael eu dewis yn seiliedig ar werthfawrogiad cyfartal o fyd natur a dyhead i wneud gwahaniaeth.
Mae’r rhaglen hon yn un o blith 31 o brosiectau Our Bright Future ledled y wlad sy’n cael eu gweithredu gyda chyllid o’r Gronfa Loteri Fawr er mwyn grymuso 100,000 o bobl ifanc i ddod yn ddinasyddion medrus a brwd a fydd yn hyderus i gydweithio tuag at blaned iach, economi ffyniannus a dyfodol disglair. Mae’r prosiect pum mlynedd uchelgeisiol hwn yn agosáu at ragori ar y targed hwnnw, gyda help ymgyrch #OwningIt #OurBrightFuture. Mae’r ymgyrch yma’n galluogi amgylcheddwyr ifanc Prydain i rannu syniadau, dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill drwy greu llwyfan ar gyfer eu mentrau amgylcheddol ar gyfryngau cymdeithasol. Wedi’i lansio ym mis Hydref, defnyddiwyd #OurBrightFuture ar Instagram 447 o weithiau yn ystod y mis cyntaf, gan gyrraedd mwy nag 1 miliwn o gyfrifon ac fe gyrhaeddodd #OwningIt ddwywaith y nifer yma erbyn mis Rhagfyr. Mae’r negeseuon yma’n atgoffa dilynwyr bod eu hymdrechion, sut a ble bynnag maen nhw’n gweithio dros natur ledled Prydain, yn rhan amhrisiadwy o ddarlun mwy.
Yn ei ail flwyddyn bellach, mae prosiect Tomorrow’s Natural Leaders eisoes wedi gweld tri chyfranogwr yn symud ymlaen i waith cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog, helpu 81% o gyfranogwyr i gael cyflogaeth yn rhywle arall ac ysbrydoli a denu mwy na 740 o bobl ifanc eraill. Mae manteision sefydliadol i’w cael o gynnig mwy o swyddi lefel mynediad sy’n dod â brwydfrydedd meddwl agored ac ysbrydoliaeth ffres i’r sector, gan rymuso pobl ifanc hynod fedrus i gyfrannu tuag at waith ystyrlon. Rhaid i fwy o sefydliadau fod yn fodlon helpu pobl ifanc i helpu eu hunain, drwy hysbysebu cyfleoedd dysgu heb wahaniaethu, cydweithredu a sicrhau cyflogaeth gyda thâl. Gyda chefnogaeth strwythuredig gan sefydliadau profiadol, gallai Prydain ddatblygu rhwydwaith hunangynhaliol o amgylcheddwyr ifanc amldalentog sy’n cydweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd, heb unrhyw berson angerddol ar ôl i ofyn y cwestiwn, ‘beth alla’ i ei wneud?’