Mae Carlisle Undercroft yn un o bron i 50 o brosiectau hyd yma sydd wedi derbyn cyllid gan Spaces4Change, prosiect gan Our Bright Future, sy’n cael ei gyflwyno gan UnLtd. Mae Kimberley wedi bod yn gweithio’n ddiflino i wella ‘Carlisle Undercroft’ ac ar Fai 19 cafodd hi a’i phartner, Adam, y gydnabyddiaeth fwyaf anhygoel am eu hymdrechion!

 ‘Fel rhan o grŵp o 1,200 o aelodau’r cyhoedd sydd wedi cael eu henwebu am gryfder eu cyfraniad i’w cymuned leol, mae gwahoddiad i chi ddod i mewn i diroedd Castell Windsor.’ – Dyfyniad o’r gwahoddiad brenhinol wedi’i gyfieithu

 Efallai eich bod chi’n meddwl tybed sut oeddwn i’n teimlo pan dderbyniais i lythyr i’r briodas frenhinol? Methu credu – wedi drysu – cyffrous. Ond un cwestiwn pwysig, pam? 

Ble ddechreuodd y cyfan?

 Fe gefais i wahoddiad oherwydd fy ngwaith i gyda Carlisle Undercroft; fe benderfynais i fynd â fy mhartner Adam Hughes, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â mi yn ystod y 12 mis diwethaf ar y prosiect, gyda mi.

Yn ofod gwag, rhestredig gradd II o dan orsaf drenau Caerliwelydd ar un adeg, fe ddaw Carlisle Undercroft yn lleoliad amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau diwylliannol yn Cumbria, gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd celf, helfeydd ysbrydion a llawer o ddigwyddiadau eraill.

Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd 2016 pan welais i hysbyseb ar-lein ar gyfer rhaglen Spaces 4 Change UnLtd. Mae Spaces 4 Change yn cyllido, cefnogi a chysylltu pobl ifanc 16 i 24 oed i sefydlu a gweithredu mentrau cymdeithasol sy’n datgloi potensial gofod segur sy’n cael ei danddefnyddio er lles y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc. Roeddwn i eisoes wedi gweithio yn y gofod gyda grŵp celfyddydol cymunedol o Gaerliwelydd, Dance Ahead, ac roeddwn i’n meddwl tybed pam nad oedd y gofod yn cael mwy o ddefnydd.                  

Fe welais i y gallai Spaces 4 Change fod yn gyfle perffaith i brynu offer ar gyfer y gofod ac edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y lleoliad oedd wedi’i anghofio. Roeddwn i’n ddigon ffodus o gael y dyfarniad a symud ymlaen gyda’r cynlluniau ar gyfer y gofod, ac fe ddatblygodd pethau o hynny.

Ers derbyn £5,000 o gyllid gan Spaces 4 Change, rydw i wedi gweithio gyda llawer o fusnesau lleol, gan gynnwys fy mhensaer i, Rod Hughes o 2030 architects. Gyda’n gilydd rydyn ni wedi gweithio’n galed i gael y caniatâd cyfreithiol gofynnol a sefydlu strwythur cyfreithiol ar gyfer y lleoliad.

Mae llawer o waith i’w wneud eto ac rydyn ni’n ceisio codi arian i greu mwy o ymwybyddiaeth o’r lleoliad a sut gall y gymuned gyfan wneud defnydd ohono.             

Beth sydd wedi digwydd ers i mi dderbyn fy ngwahoddiad i’r briodas frenhinol?

 Mae’r cyfleoedd codi ymwybyddiaeth wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi cael llawer o sylw rhyngwladol, nid yn unig am gael gwahoddiad i’r briodas ond hefyd, yn bwysicach na dim, oherwydd pam gawsom ni wahoddiad. Mae’r rhain yn cynnwys ABC News, Sky news, ITV Border, BBC Look North, Sept-a-Huit (cwmni darlledu o Ffrainc), BBC Radio 1, BBC Radio 5 Live, a llawer o bapurau newydd lleol. Mae pob cyhoeddiad wedi rhannu ein stori ni ac wedi dangos pwysigrwydd ein gwaith yn Carlisle Undercroft. Mae wedi bod yn syndod mawr.      

Pan welson ni faint o bobl oedd â diddordeb yn ein prosiect ni, fe wnaethon ni benderfynu lansio tudalen codi arian torfol ar JustGiving. Bydd pawb sy’n rhoi cyfraniad hael o £50 neu fwy i’r dudalen yma’n cael eu bricsen bersonol yn ein wal ddiolch ni. Mae’r syniad wedi bod yn eithriadol boblogaidd ac mae mwy na 30 o enwau ar ein wal ni eisoes.

Ar y dydd Gwener cyn y briodas, fe aethon ni’n fyw ar Good Morning America i drafod ein gwaith ni yn Carlisle Undercroft a’r dudalen codi arian torfol. Dyma’r profiad mwyaf cyffrous i ni ei gael erioed ond roedden ni’n nerfus iawn, ond eto roedd yn gyfle gwych i siarad gyda miliynau o wylwyr yn rhyngwladol am ein prosiect ni.                                

Tra oedden ni ar yr awyr, fe wnaethon ni hefyd drafod ein hanrheg ni i’r cwpwl brenhinol, y cyntaf o’n brics yn wal ddiolch Carlisle Undercroft, sydd ar gael i noddwyr y prosiect. Mae bricsen Harry a Meghan yn cynnwys eu henwau a bydd i’w gweld yn y lleoliad am flynyddoedd i ddod, i gofio eu diwrnod a’n diolchgarwch ni am gael gwahoddiad. Mae posib mynd i’r dudalen JustGiving o hyd, a chyfrannu at ein prosiect ni. Ein nod ni yw codi £150,000 i gwblhau’r gwaith adnewyddu ac rydyn ni angen rhoddion gan y cyhoedd i’n helpu ni i gyrraedd ein targed.

Sut oedd y briodas a phwy welson ni?

 Fe wnaethon ni ddeffro am 4.30am ar ddiwrnod y briodas a gwisgo ein dillad newydd, ac wrth gwrs roeddwn i’n gwisgo het. Fe wnaethon ni gyrraedd Windsor ychydig ar ôl 7am a dechrau ciwio i gael mynd i mewn i diroedd Castell Windsor gyda’r 1,200 o aelodau lwcus eraill o wahanol grwpiau cymunedol ac elusennau lleol. 

Roedd yn grêt cael cyfnewid straeon a phrofiadau gyda llawer o wahanol unigolion ac, yn bwysicach na dim, dweud pa mor ddiolchgar oedden ni i gyd, a chyffrous am weld y teulu brenhinol ar ddiwrnod mor arbennig.

Roedd yr aer yn llawn bwrlwm a chyffro wrth i bawb feddwl tybed pa sêr oedd wedi cael gwahoddiad i’r digwyddiad a gyda phwy fydden ni’n cael siarad. Roedden ni wedi clywed y byddai cyfle efallai i weld Elton John neu David Beckham. ’Chawsom ni mo’n siomi oherwydd fe welson ni Idris Elba, George Clooney a hyd yn oed y Frenhines!

Ar ôl cyrraedd y tu mewn i’r tir, fe wnaethon ni hawlio ein llecyn yn syth a gosod ein blanced picnic yn ei lle, ac estyn y fasged picnic ac agor y prosecco. Roedd yn un o ddyddiau brafiaf y flwyddyn hyd at ganol Mai a chyn i chi ofyn, do, fe wnaethon ni losgi! Fe gawson ni lecyn perffaith ar y tir, reit o flaen y Porth Gailiee.

Ers derbyn ein gwahoddiad rydyn ni nid yn unig wedi bod yn un o’r digwyddiadau mwyaf anrhydeddus i gael eu cynnal yn ystod y ganrif ddiwethaf, ond hefyd rydyn ni wedi gallu codi arian ac, yn bwysicach na dim, codi ymwybyddiaeth o’n prosiect ni, Carlisle Undercroft. Rydyn ni’n gobeithio gallu dal ati i godi mwy o arian ac y bydd pobl yn cefnogi’r holl waith rydyn ni’n ei wneud i greu’r lleoliad yma, fel bod cyfranogwyr a gwylwyr yn Cumbria’n gallu ei fwynhau gyda’i gilydd.

Nawr, y cam mawr nesaf; plîs helpwch ni i agor ar gyfer 2019!

Diolch yn fawr,

Kimberley Watkin