Y mis yma mae gennym ni flog dwbl ar eich cyfer chi! Mae prosiect Spaces 4 Change Our Bright Future yn cael ei gyflwyno gan UnLtd. Dyma raglen ledled y DU sy’n canfod, cyllido, cefnogi a chysylltu pobl ifanc 16 i 24 oed i sefydlu a gweithredu mentrau cymdeithasol sy’n datgloi potensial gofod segur sy’n cael ei danddefnyddio er lles y gymuned leol, yn enwedig pobl ifanc eraill. Y mis yma bydd cyfle i chi weld amrywiaeth y prosiectau mae pobl ifanc yn arloesi â hwy.

“Roeddwn i eisiau i’r dref fod yn berchen arno. Doeddwn i ddim eisiau iddo fe fod yn rhywbeth roeddwn i wedi ei wneud, ond yn rhywbeth roedden ‘ni’ wedi’i wneud”, dywedodd Millie, “Roeddwn i eisiau creu rhyw fath o momentwm dros newid yn y dref”.

Mae Millie yn un o gydsylfaenwyr Northern Soul Kitchen, menter gwastraff bwyd a chaffi talu fel rydych yn teimlo yng nghalon Berwick-upon-Tweed. Mae’r prosiect, sy’n agor ei ddrysau yn nes ymlaen y mis yma, wedi’i leoli mewn siop a arferai fod yn wag.

Gan ddefnyddio bwyd heb ei werthu o’r siopau lleol yn Berwick, y nod yw creu bwyd iach mewn amgylchedd croesawus. Mae cwsmeriaid yn talu beth bynnag maent yn ei feddwl yw gwerth y bwyd, sy’n sicrhau ei fod ar gael i bobl na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall efallai. Mae cyfle i chi wirfoddoli eich amser a’ch sgiliau i dalu am bryd bwyd hyd yn oed.

Y syniad gwreiddiol oedd pop-yp gwastraff bwyd ym marchnad Nadolig Berwick yn 2015. Ond fe ddechreuodd y tîm feddwl ar raddfa fwy yn fuan iawn. Ar ôl dwy flynedd o pop-yps a digwyddiadau bychain, cafwyd cefnogaeth gan raglen Spaces 4 Change UnLtd ac wedyn roedd modd i Northern Soul Kitchen sefydlu gwreiddiau parhaol.    

Mae Spaces4Change yn cefnogi ieuenctid 16 i 24 oed i ddatgloi potensial gofod sy’n cael ei danddefnyddio neu’n wag. Cyllidir y rhaglen gan y Gronfa Loteri Fawr drwy Our Bright Future.

Roedd cyn-gartref Tweed Televisions wedi cael ei adael yn adfail ers pedair blynedd. Diolch i Millie a’i chydsylfaenydd Harriet, mae wedi cael bywyd newydd fel cartref i Northern Soul Kitchen.

Pam dechrau?

Mae Northern Soul Kitchen yn gysyniad syml, yn ôl Millie, “Rydyn ni’n cymryd y bwyd heb ei werthu cyn iddo gael ei daflu ac yn creu prydau bwyd talu fel rydych yn teimlo allan ohono”. Mae’r ‘pam’ tu ôl i’r syniad yn gymhlethach. 

Ar ôl cyfarfod gyda’r ymddiriedolaeth gymunedol leol yn Berwick, gwelwyd bod gwir angen am brosiect cymdeithasol cynaliadwy i gefnogi pobl yn y gymuned. 

“Does gennym ni ddim pobl yn cysgu ar y stryd o angenrheidrwydd, ond mae criw cudd o bobl nad ydych chi’n eu gweld efallai,” dywedodd Millie, “Roedd ein lloches ni i ferched yn orlawn bryd hynny. Ac roedd y banc bwyd yn cael ei ddefnyddio bob dydd a dyblodd mewn dwy flynedd.”

Mae’r ystadegau’n dangos cynnydd mewn tlodi plant ledled Northumbria, gyda rhannau o Berwick ymhlith yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf.

I Millie roedd rhaid i rywbeth newid: “Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i rywun fynd i’r afael â hyn a chreu rhywbeth. Yn lle aros i’r dref a’r cyngor wneud rhywbeth i ni, beth am i ni weithredu.”

 Y gymuned yn rhan ganolog

 Mae Northern Soul Kitchen wedi tyfu o’r gymuned mae’n ei chefnogi. Fel y dref fwyaf gogleddol yn Lloegr, gall Berwick deimlo’n bell, meddai Millie. Roedd sefydlu cartref parhaol i Northern Soul Kitchen yn newid meddyliol yn ogystal â ffisegol. “Roeddwn i’n gobeithio y byddai’n cyfleu’r neges bod hyn yn gwbl bosib a’n bod ni’n fwy na rhyw dref sydd wedi’i hanghofio y mae’n rhaid i’r cyngor ei helpu.”

Bydd Northern Soul Kitchen yn ofod cymunedol cydweithredol. Mae’n cyd-fynd ag ethos Millie o gynnwys y gymuned.                     

Maent wedi gweithio eisoes â sefydliadau lleol fel Calmer Therapy, grŵp i rieni lleol sydd â phlant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth. Gyda chefndir Millie mewn iechyd a gofal cymdeithasol, roedd yn gyfuniad perffaith ac mae wedi cytuno i gynnal y grŵp a hwyluso sesiynau cefnogi.              

Mae ysbrydoli sefydliadau eraill wedi bod yn llwyddiant mawr i dîm Northern Soul Kitchen hefyd. Cynigiodd cwmni cyfreithiol lleol gefnogaeth gyfreithiol gyda sefydlu a daeth y cyllid ar gyfer 12 mis o weithdai i gael eu cynnal yng ngofod newydd Northern Soul Kitchen ar gyfer Calmer Therapy gan gyflogwr mwyaf Berwick,  Simpsons Malt.

Mae pobl yn y gymuned wedi helpu gyda’r gwaith adnewyddu hefyd. Roedd angen llawer o waith ar du mewn y siop wag. Cynigiodd tri o bobl leol oedd wedi ymddeol yn ddiweddar helpu Millie gyda rhwygo’r tamprwydd a’r waliau pren meddal oedd wedi’u difrodi allan o’r siop. Gwnaeth technegydd pensaernïol lleol y lluniau pensaernïol a helpu gyda’r ceisiadau cynllunio, y cyfan am ddim.                                      

 Mae posib cael y newyddion diweddaraf am Northern Soul Kitchen ar eu tudalen ar Facebook yma.