Fis diwethaf cafodd seminar flynyddol Our Bright Future 2018 ei chynnal. Ymgasglodd aelodau o staff a’r Fforwm Ieuenctid o bob cwr o’r DU yng Nghaerdydd i ddathlu’r rhaglen, dysgu oddi wrth ei gilydd a chynllunio ymlaen. Dyma’r Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella, Abi Paine, i rannu ei phrofiad.
Union fis i’r diwrnod wedi i mi ddechrau fel Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella gydag Our Bright Future, roeddwn i’n sefyll wrth ddrysau’r drydedd seminar pob prosiect flynyddol yn disgwyl i’r 31 prosiect roeddwn i wedi clywed cymaint amdanyn nhw gyrraedd. Ac waw! Fe gefais i fy synnu!
Roedd y bwrlwm o egni oedd yn cynyddu wrth i bob person neu dîm gyrraedd yr ystafell yn anhygoel – pobl yn cyfarch ei gilydd fel hen ffrindiau, yn cyflwyno staff newydd ac yn trafod beth oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd rhai’n gwisgo crysau-T yn arddangos logos eu prosiect (oedd o help enfawr i mi fel newydd-ddyfodiad!) ac roedd aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn dechrau cyrraedd yn eu hwdis gwyrdd llachar.
Wrth i’r ystafell lenwi gyda bron i 100 o bobl oedd wedi teithio o bob cornel o’r DU, roedd yn amlwg pa mor bwysig oedd hi i bawb yno deimlo’n rhan o’r mudiad mwy yma dros newid, a manteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a rhannu. Nid dim ond rhannu cynnydd, ond hefyd rhannu heriau, awgrymiadau ar gyfer cydweithredu a syniadau ar gyfer gwaddol a’r dyfodol.
Roedd yn grêt gweld uchafbwyntiau y llynedd a gwybodaeth gan brosiectau unigol. Roedd wir yn dangos y momentwm sy’n adeiladu fel rhan o Our Bright Future, gyda rhai o’r bobl ifanc hynny a gymerodd ran fel gwirfoddolwyr yn y dyddiau caynnar nawr yn sicrhau prentisiaethau neu’n gweithio mewn swyddi yn y sefydliadau a daniodd eu hangerdd yn y lle cyntaf.
Fe glywson ni’r Fforwm Ieuenctid yn siarad am eu profiadau’n hyderus a brwd gan hudo’r gynulleidfa. Dyfyniad mawr y dydd i mi oedd yr un gan un aelod yn disgrifio ei amser yn aelod o’r fforwm ac fel rhan o brosiect:
“O’r diwedd rydw i wedi dod o hyd i grŵp o bobl sy’n hoffi’r amgylchedd cymaint ag ydw i”. Cafwyd hanesion am fod eisiau dylanwadu ar bolisi, cynllunio i ledaenu eu neges, gwneud i’w cymunedau weithredu a chreu newidiadau positif yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw.
Roedd hefyd yn dangos sut mae’r rhaglen yn creu cynnwrf ar lefel genedlaethol. Ar yr ail ddiwrnod, fe glywodd pawb am y gofynion polisi wedi’u crynhoi – y newidiadau allweddol yr hoffai’r bobl ifanc ar draws y prosiectau eu gweld mewn perthynas â’r amgylchedd. Roedd y trafodaethau a gafwyd wedyn yn cynnwys popeth o gynyddu cyfleoedd gwirfoddoli i wneud addysg yn wyrddach a sut byddai llywodraethau eraill yn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Er bod agenda’r seminar yn orlawn, roedd yr ‘amser rhydd’ yn ymddangos yr un mor egnïol a llawn pwrpas. Roedd sgyrsiau am ymweliadau cyfnewid prosiectau, rhannu profiadau am ddenu grwpiau anodd eu cyrraedd a’r holl gymhelliant oedd yn cael ei greu o fod mewn ystafell yn llawn pobl oedd i gyd yn gweithio’n galed i gysylltu pobl ifanc â’r sector amgylcheddol.
Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod (a dim ond jysd wedi dod dros y cwis enwog a gynhaliwyd gan Johnny o vInspired), roeddwn i’n teimlo ’mod i’n mynd i fyrstio. Nid dim ond am fy mod i’n llawn syniadau Rhannu Dysgu Gwella ond hefyd yn llawn ysbrydoliaeth – gan wybod bod yr holl bobl yma, a phawb sy’n ymwneud â’r rhaglen yn genedlaethol, yn cydweithio er lles dyfodol disglair i ni – Our Bright Future.