O fod yn wirfoddolwr i fod yn Llysgennad Ifanc Our Bright Future ac wedyn yn diwtor cadw gwenyn cymwys, mae Rachel yn rhannu ei phrofiadau fel rhan o Brosiect BEE You yn Blackburne House. 
Roedd fy wyneb yn goch a ’mochau ar dân. Roedd pob owns o fy egni’n brwydro i ddal y dagrau oedd yn cronni yn ôl. Roedd deg pâr o lygaid yn syllu’n ddisgwylgar arnaf i tra oeddwn i’n cydio’n dynn yn eu ffurflenni cais yn fy nwylo chwyslyd.
Fy enw i ydi Rachel a hwn oedd fy niwrnod cyntaf i’n cyflwyno’r prosiect BEE You fel tiwtor cadw gwenyn.
Wrth i’r myfyrwyr eistedd tu ôl i’w desgiau, roeddwn i’n hynod nerfus ac yn dechrau amau fy ngallu. Edrychais draw ar Lynne, Swyddog Recriwtio ac Ymgysylltu BEE You yn Blackburne House; roedd hi wedi dod i ’nghefnogi i ar fy niwrnod cyntaf. Roedd gweld ei gwên galonogol yn fy atgoffa i ei bod hi nid yn unig yno i ’nghefnogi i ond hefyd yn symbol o’r rhwydwaith llawn o gefnogaeth oedd gen i yn ôl yn Blackburne House. Llyncais y lwmp mawr yn fy ngwddw a dechrau ar fy ngwers gyntaf.
Wrth i’r wythnosau fynd heibio, fe ddaeth pethau’n haws. Fe ddatblygais i berthynas dda gyda’r myfyrwyr ac roedd yn bleser eu haddysgu; roedden nhw’n ymgolli ac yn ymateb yn dda i dasgau penodol. Diffiniodd un myfyriwr y foment pryd sylweddolais i fy mod i’n gwneud gwahaniaeth o ran fy ngallu fel athrawes: Olivia. Nid oedd Olivia wedi gallu bod yn bresennol yn y ddau sesiwn diwethaf ar y cwrs ac felly byddai’n colli gwaith hanfodol i gwblhau ei chymhwyster cadw gwenyn Lefel 1. Gwnaeth ymdrech i ddal i fyny drwy ofyn am fwy o amser a chefnogaeth gennyf i i gwblhau ei thasgau ar gyfer ei ffeil o dystiolaeth.
Cwblhaodd Olivia y gwaith, mewn pryd ac i safon uchel iawn, ac roedd posib i mi ei chyflwyno ar gyfer y cymhwyster.
Pan ddaeth Olivia ataf i i ddechrau a mynegi ei siom na fyddai’n gallu dod i ddau sesiwn olaf y cwrs, fe sylweddolais i rywbeth. Roeddwn i’n cyflwyno gwybodaeth a mwynhad i fy nosbarth. Roeddwn i’n gallu uniaethu gyda pharodrwydd Olivia i sicrhau ei bod yn cwblhau’r holl waith cwrs, gan roi hwb i fy hyder i a chadarnhau’r gred oedd gen i fy mod i’n tyfu ar fy siwrnai i fod y tiwtor cadw gwenyn gorau y gallwn i fod.
Dechreuodd fy siwrnai i fod yn diwtor cadw gwenyn gyda fi’n cofrestru gyda phrosiect BEE You fel myfyrwraig. Ac ni ddaeth fy mrwdfrydedd i addysgu fy hun ymhellach i ben bryd hynny, oherwydd roeddwn i eisiau ymwneud mwy â phrosiect BEE You. Drwy drafod â’r tîm yn Blackburne House, cefais gyfle i gynrychioli’r prosiect fel Llysgennad Ifanc yn Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Ysgogodd fy nghyfarfod cyntaf o’r Fforwm Ieuenctid yng Nghaerefrog fi i sefydlu’r llwybr gorau at ddatblygu fy hoffter o gadw gwenwyn ac es ati i gofrestru yn Blackburne House ar gymhwyster addysgu a dysgu Lefel 3. Llwyddais i gwblhau’r cwrs hwn yn gynharach eleni. Wedi ennill cymwysterau cadw gwenyn ac addysgu, roedd posib i mi fod yn diwtor gyda phrosiect BEE You. Roeddwn i’n teimlo ’mod i’n camu ymlaen i ddyfodol fy mreuddwydion.
Fy ymgais addysgu nesaf gyda phrosiect BEE You yw cynnig darpariaeth i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol. Rydw i eisiau dal ati i wthio fy hun fel person ac athrawes ac, o gymharu â’r holl bryder oedd gen i wythnosau yn ôl yn unig, rydw i wedi datblygu hyder mewnol mawr – a nawr yn #OwningIt.
Mwy o wybodaeth am brosiect BEE You yn Lerpwl.