Dyma Rachel Bush, Swyddog Addysg a Lles gydag Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire, i esbonio pam mae pobl ifanc sy’n rhan o brosiect Milestones yn torri coed.                
 ‘Does dim ots gennym ni am yr oerni, fe fyddwn ni’n dal i brysgoedio waeth beth yw’r tywydd.’
Nawr bod dyddiau oerach a thywyllach misoedd y gaeaf yn atgof pell erbyn hyn a gwanwyn wedi troi’n haf, mae cyfranogwyr Milestones wedi bod yn dathlu’r prosiectau cadwraeth gwych a gwblhawyd yn ystod y gaeaf ac yn mwynhau ffrwyth eu llafur.
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, roedd y syniad o dorri coed gydag Ymddiriedolaeth Natur Wiltshire yn peri dipyn o syndod i rai o’n grwpiau ni. ‘Ond roeddwn i’n meddwl bod torri coed yn ddrwg i’r amgylchedd?’, gofynnodd nifer o’r myfyrwyr a gyflwynwyd i brysgoedio. Ond cyn hir roeddent yn gyfarwydd â bilwgau, llifiau bwa a chelfi brigdorri’n barod ar gyfer y tymor prysgoedio.
Mae prysgoedio’n ddull rheoli coetiroedd traddodiadol gyda rhai rhywogaethau penodol o goed, fel cyll, helyg ac ynn, ac maent yn cael eu torri yn y bôn ac wedyn yn cael aildyfu. Gwneir hyn ar ffurf cylchdro, gydag ardaloedd bach o goetiroedd yn cael eu torri bob blwyddyn ac yn cael eu haildorri wedyn ymhen cyfnod penodol (fel rheol, bob 7 i 20 mlynedd, gan ddibynnu ar y rhywogaeth).
Mae prysgoedio wedi bod yn digwydd ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd, gan greu cnydau o bolion gyda marchnad eang ar eu cyfer. Y dyddiau hyn, does dim cymaint o alw am bren wedi’i brysgoedio a dim ond cyfran fechan o goetiroedd sy’n dal i gael eu prysgoedio. Fodd bynnag, mae’n parhau’n arfer cadwraeth poblogaidd oherwydd ei fudd i fywyd gwyllt. Mae’r golau cynyddol a strwythur oedran amrywiol y llystyfiant yn cynyddu bioamrywiaeth drwy greu amodau perffaith i lawer o blanhigion, pryfed ac adar sy’n ffafrio cynefinoedd coetir agored.
Yn ystod y gaeaf mae’r cyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau prysgoedio gan ddysgu sut i ddefnyddio celfi’n ddiogel ac maent wedi prysgoedio 1,521 m2 o goetir, codi 360m o ffensys ceirw a phlygu 240m o wrych marw. Hefyd, maent wedi dewis defnyddio’r deunydd sydd wedi’i brysgoedio i greu morthwylion pren, sbodolau, ffyn cerdded, stolion a chlwydi.
‘Waw, mae’n edrych yn hudolus i lawr yn fan’na.’
Dim ond yn ystod y misoedd diwethaf ydym ni wedi dechrau gweld budd ein gwaith caled mewn gwirionedd; wrth gerdded drwy Warchodfa Natur Coed Biss a Pharc Natur Green Lane ar foreau heulog mae rhywun yn gweld gwerddon o flodau gwyllt, glöynnod byw a gwenyn yn ffynnu, ac yn clywed adar bach yn canu.
Mae cael y cyfle i gynnig mynediad i’n cyfranogwyr i Milestones drwy gydol y pedwar tymor yn eu galluogi i fod yn dyst i’w heffaith bositif. Maent nid yn unig yn gwella’r amgylcheddau naturiol ond hefyd eu bywydau eu hunain.
‘Dydw i ddim eisiau gadael. Rydw i eisiau aros drwy’r dydd a gwneud hyn.’
Y gaeaf diwethaf dysgodd mwy na 50 o gyfranogwyr lu o sgiliau newydd, o sgiliau ymarferol yn defnyddio celfi i adnabod coed a chodi ffensys. Hefyd, gwelwyd eu sgiliau cyfathrebu a’u hyder, yn ogystal â’u lles corfforol a meddyliol, yn gwella. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi gallu dyfarnu achrediadau i’r cyfranogwyr hyn mewn prysgoedio a defnydd o gelfi a bydd hynny’n eu gwneud yn fwy cyflogadwy.
 Mwy o wybodaeth yma am brosiect Milestones yn Wiltshire.